Cyffuriau ac alcohol: Cymorth ac Arweiniad

Datganiad Lleihau Niwed

Adduned ar y Cyd: Dull Lleihau Niwed wrth Ddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ar y cyd, mae Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Undeb y Myfyrwyr, a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) wedi ymrwymo i flaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr drwy ddull cynhwysfawr a blaengar o leihau niwed wrth ddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Gyda chefnogaeth ein Grŵp Llywio Lleihau Niwed misol rheolaidd dan arweiniad ein Harweinydd Lleihau Niwed ymroddedig, ein nod yw:

  • Blaenoriaethu lles myfyrwyr a’r gymuned drwy strategaethau lleihau niwed arloesol.
  • Lleihau effeithiau iechyd, cymdeithasol a chyfreithiol defnyddio sylweddau.
  • Sicrhau mynediad hawdd a rhagweithiol at gymorth ac adnoddau.
  • Meithrin amgylchedd meddwl agored sy'n darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ac yn annog deialog agored.

Ein gwasanaethau a'n dull:

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy'n adlewyrchu ein hymdrechion cydweithredol, gan gynnwys clinigau ar y campws ac amrywiaeth o adnoddau cefnogol wedi'u teilwra i'n cymuned. Mae ein hymrwymiad i leihau niwed yn cynnwys y gwasanaethau canlynol i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth:

  • Gwasanaeth galw heibio wythnosol ar y campws
  • Cymorth i ffrindiau a theulu
  • Ymyriadau byr
  • Datblygu sgiliau
  • Atal ailwaelu

Rydym hefyd yn sicrhau y gall ein cymuned gael mynediad hawdd at y gwasanaethau canlynol trwy gydol yr wythnos yn yr hwb GCAD a Choices :

  • Gwaith grŵp
  • Gweithgareddau dargyfeiriol
  • Ymyriadau seicogymdeithasol
  • Gwasanaethau lleihau niwed
  • Ôl-ofal

Mae GCAD a Choices yn darparu triniaeth 1:1 pwrpasol ac asesiadau rheng flaen sy'n canolbwyntio ar anghenion a nodau unigol, meithrin gwytnwch personol, a llwybrau at wella. Trwy bartneriaethau â Thimau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol y GIG, mae gan ein cymuned fynediad at gymorth cynhwysfawr, gan gynnwys presgripsiynau meddygol ac asesiadau lles cymdeithasol lle bo hynny'n briodol.

Gyda'n gilydd, rydym yn anelu at greu amgylchedd diogel, cynhwysol a blaengar lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Mae ein dull unigryw o leihau niwed yn adlewyrchu Gwerthoedd Craidd Prifysgol Aberystwyth:

  • Trawsnewidiol
  • Creadigol ac Arloesol
  • Cynhwysol
  • Uchelgeisiol
  • Cydweithredol

Sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i ffynnu.

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo nac yn condemnio defnyddio cyffuriau, gan gynnwys alcohol; yn hytrach, rydym yn annog dull lleihau niwed sy'n canolbwyntio ar les yr unigolyn, gan ddarparu gwybodaeth i'ch helpu i gadw'n ddiogel a theimlo eich bod yn cael eich cefnogi.

Hoffem roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bob myfyriwr i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd, felly ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i gael cymorth i chi'ch hun neu rywun arall, yn ogystal â gwybodaeth i wella eich diogelwch os ydych yn defnyddio cyffuriau, gan gynnwys alcohol, yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD):

Mae'r Brifysgol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD).

Gallwch gyfeirio eich hun at y gwasanaeth gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio GCAD: Ffurflen Atgyfeirio GCAD (DOCX)

Mae GCAD yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol i unigolion sydd â phroblemau cyffuriau a/neu alcohol neu sy'n poeni am ddefnydd rhywun arall o gyffuriau a/neu alcohol. Gallwch siarad ag aelod o'u tîm am wybodaeth a chyngor neu drefnu apwyntiad os ydych chi eisiau cymorth.

Mae GCAD yn cynnal clinig cyfrinachol ar y campws. Maent wedi'u lleoli yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar y prif gampws, lle mae ganddynt eu swyddfa bwrpasol eu hunain.

Gwybodaeth am y clinig ar y campws:

Dydd Mawrth, 9.30am - 4.30pm.

Y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, 2il lawr.

Gellir cael cymorth hefyd gan GCAD yn eu swyddfa yng nghanol y dref.

Gwybodaeth am Swyddfa Aberystwyth GCAD:

9am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am - 4.30pm ar ddydd Gwener

Rhif 25 Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2JN

03303 639997

confidential@d-das.co.uk

I gael mwy o wybodaeth gallwch ymweld â Gwefan GCAD.

Sut i gael mynediad i'r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr

Sut i gael mynediad i'r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr:

Os nad ydych am i unrhyw un wybod eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth, gallwch ddod i mewn trwy ddrws cefn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, y bont i'r ail lawr, neu'r lifft. Bydd arwyddion y tu mewn i'r adeilad i'ch cyfeirio at swyddfa GCAD ar yr ail lawr.

Fideo o sut i ddod o hyd i'r Ganolfan Croeso i Fyfyrwyr

Adnoddau:

Y Tîm Lles

Mae Tîm Lles y Gwasanaethau Myfyrwyr yma i helpu unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater yn ymwneud â lles.

Cyfeirio eich hun:

Gallwch gyfeirio eich hun i siarad â rhywun o'r Gwasanaeth Lles gan ddefnyddio'r Ffurflen Gofrestru Lles ar-lein.

Cyfeirio myfyriwr y mae gennych bryderon amdano:

Os oes gennych bryderon am les myfyriwr, dywedwch wrth y tîm am eich pryderon gan ddefnyddio'r Ffurflen Adrodd a Chymorth.

 

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

Mae Undeb Myfyrwyr Aber yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gyffuriau ac alcohol ar eu gwefan: Tudalen we Alcohol a Chyffuriau Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

Mae gan yr Undeb Myfyrwyr dîm o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli ac mae’n bosibl y byddwch yn eu gweld yn gwisgo festiau coch llachar yn ystod yr wythnos Groesawu ac wythnos y Glas, ac ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn. Gall y gwirfoddolwyr Tîm-A hyn eich helpu os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch, nid dim ond gyda chyffuriau neu alcohol.

 

Barod

Mae Barod yn darparu cymorth am ddim i unigolion sy'n cael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau (ynghyd â'u ffrindiau a'u teulu) yn Ne a Gorllewin Cymru.

Ewch i wefan barod i gael gwybodaeth a dolenni at:

  • Ofal sy'n canolbwyntio ar wella
  • Gwybodaeth am leihau niwed, profion, a chyflenwadau

 

drugs+me

Ewch i drugsand.me i gael gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol:

  • Rhyngweithio diogel ac anniogel â chyffuriau eraill
  • dosau ac effeithiau
  • risgiau a rhagofalon lleihau niwed
  • cyfreithlondeb

 

WEDINOS

Wrth gymryd cyffuriau, gall fod yn anodd gwybod yn union beth rydych chi'n ei gymryd. Mae WEDINOS yn wasanaeth profi cyffuriau dienw lle gallwch anfon sampl o gyffur a chael gwybod pa fath ydyw. Gall hyn roi gwybodaeth gywir i chi am y sylwedd i'ch helpu i gadw'n ddiogel.

Ewch i wefan WEDINOS lle gallwch ddilyn y camau i anfon sampl.

Sylwch: ni ddylech fyth anfon sylwedd y gwyddoch ei fod yn anghyfreithlon drwy'r system bost.

 

Alcoholigion Anhysbys

Ewch i Alcoholigion Anhysbys am gymorth ac adnoddau ynghylch alcoholiaeth.

Llinell Ffôn am ddim: 0800 9177 650

E-bost: help@alcoholics-anonymous.org.uk

 

drinkaware

Ewch i wefan Drinkaware am:

  • Wybodaeth a chyngor am yfed alcohol
  • Cyfrifiannell unedau ac ap olrhain - MyDrinkaware
  • Cymorth gan gynghorwyr hyfforddedig drwy we-sgwrs neu dros y ffôn