Gwirfoddoli
Mae sawl rheswm dros ymgymryd â gwaith gwirfoddol - i helpu eraill; i ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu'r sgiliau sydd gennych chi eisoes; i gael cipolwg ar fyd gwaith, yn ogystal â phrofiad ymarferol; ac er mwyn datblygiad personol. Beth bynnag yw eich prif reswm dros wirfoddoli, bydd y profiad yn rhoi'r cyfle i chi brofi cyfleoedd na chawsoch o'r blaen gan eich helpu i ddatblylgu fel person a chyfrannu at eich sgiliau cyflogadwyedd.
Gall gwirfoddolwyr ymrwymo i weithio am nifer o wythnosau, nifer o fisoedd neu nifer o flynyddoedd, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau.
Mae rhai gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddi-dâl; weithiau, telir treuliau cyfyngedig a/neu darperir bwyd a llety dros y cyfnod. Mewn achosion eraill, gofynnir i wirfoddolwyr godi arian (swm eithaf sylweddol ar brydiau) er mwyn cymryd rhan yn y prosiect. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o amodau'r lleoliad gwaith ac a yw'n fforddiadwy ai peidio.
Rhaid i gyflogwyr fod yn ofalus wrth sicrhau na fydd y lleoliad gwaith yn tramgwyddo deddfwriaeth y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol. Gall gweithwyr gwirfoddol fod yn eithriad i hyn ond os bydd cytundeb (ysgrifenedig, llafar neu awgrymedig) yn rhan o'r trefniadau, yna bydd gan y gweithwyr hawl i'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol oni bai eu bod yn gweithio i elusen, i fudiad gwirfoddol, i gorff codi arian cysylltiedig neu i gorff statudol.
Dylai graddedigion sy'n gwirfoddoli tra'n derbyn budd-daliadau ddarllen tudalen Gov.UK am bryd cewch wirfoddoli.
Mae llawer o wefannau defnyddiol gallwch gyfeirio atynt - rhestrir nifer ohonynt isod. Defnyddiwch yr adnoddau hyn i'ch helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr (yn ystod y tymor, dros y gwyliau, fel eich profiad blwyddyn mewn gwaith) ac ar ôl i chi raddio. Cofiwch bod croeso i chi ofyn i ni am wybodaeth neu gyngor bob amser.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli ar gyrfaoeddABER.
Gweler hefyd y clip fideo AGCAS ar wirfoddoli (angen enw defnyddiwr a chyfrinair PA).
Cyfleoedd yn y DU
- gyrfaoeddABER
- Myfyrwyr Aberystwyth sy'n Gwirfoddoli
- Gwirfoddoli Cymru
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Volunteering England
- Volunteer Scotland
- Volunteer Now (Northern Ireland)
- Gov.UK - Dod o hyd i waith gwirfoddol
- do-it.org.uk - DU yn bennaf ond rhai cysylltiadau ar gyfer cyfleoedd tramor
- Project Scotland - cyfleoedd yn yr Alban i'r rhai rhwng 16 - 25 oed
- Volunteering Matters
- Reach Skilled Volunteers - cyfleoedd i wirfoddolwyr gyda sgiliau
- Step Together
- Idealist - yn cynnwys cyfleoedd i wirfoddoli yn y DU a thramor
Cyfleoedd tramor
- gyrfaoeddABER
- World Service Enquiry
- International Voluntary Service - cyfleoedd ledled y byd
- International Citizen Service
- Voluntary Service Overseas (VSO) - cyfleoedd yn bennaf i'r rhai sydd â chymwysterau a phrofiad ond mae ganddynt rhaglenni 'Youth Volunteering'
- Projects Abroad - prosiectau yn yr Affrig, Asia, De America a Dwyrain Ewrop
- Restless Development - elusen datblygiad rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar bobl ifainc ac yn rhedeg rhaglenni addysg iechyd yn Ne Asia ac yn yr Affrig
- Inter Cultural Youth Exchange (ICYE) UK - cyfleoedd i wirfoddoli yn Ne America, Affrica, Asia ac Ewrop (EVS)
- Ecoteer - lleoliadau tramor am gost isel
- Quest Overseas - prosiectau ac ymdeithiau yn Ne America ac yn Affrica
- Love Volunteers - cyfleoedd mewn tua 30 o wledydd datblygol
- Working Abroad - ystod o brosiectau dyngarol, amgylcheddol a dysgu tramor, yn ogystal â chronfa ddata o sefydliadau eraill sy'n cynnig cyfleoedd
- Volunteering Solutions - cyfleoedd yn Asia, yr Affrig a De America yn bennaf
- International Volunteer HQ - cyfleoedd i wirfoddoli tramor
- Volunteer World - cyfleoedd i wirfoddoli tramor