Darpar Fyfyrwyr
Mae dilyn cwrs gradd yn syniad ardderchog a fydd yn agor amryw o ddrysau a darparu cyfleoedd gyrfaol newydd i chi yn y dyfodol. Wrth ddilyn cwrs gradd mae’n hanfodol eich bod yn ymgymeryd â phob agwedd o’r profiad o fod yn fyfyriwr gan ymwneud â’r ystod llawn o gyfleoedd a ddaw i’ch rhan. Ni chewch well cyfle na hyn i ymuno â llu o weithgareddau byth eto!
Er mai’ch astudiaethau academaidd fydd eich prif flaenoriaeth tra’n y brifysgol, dylech hefyd ddysgu sut i reoli ac i drefnu’ch amser yn effeithiol fel y gellwch ymgymryd â chyn-gymaint o weithgareddau all-gyrsiol a fo’n bosibl, megis:
- diddordebau a gweithgareddau cymdeithasol drwy ymrwymo i glybiau a chymdeithasau
- digwyddiadau adrannol tu hwnt i bethau academiadd, fel cymdeithasau pynciol a gweithredu fel llysgennad i’ch hadran
- cyfleoedd gwirfoddoli
- swyddi rhan-amser a thros dro
- lleoliadau, interniaethau a phrofiad gwaith sylweddol ei natur
- cyfrifoldebau megis Cynrychiolydd Academaidd, aelod o bwyllgor neu weithredu ar ran Undeb y Myfyrwyr
- cyfleoedd a gweithgareddau menter ac entreprenwriaeth
- doniau chwaraeon
- cyrhaeddiadau ac arbenigeddau academaidd penodol
Felly rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau. Sicrhewch eich bod yn deall yr holl fuddiannau a ddaw wrth astudio mewn prifysgol, ac ymchwiliwch i’r llwybrau gyrfaol fydd yn agored i chi wrth ddilyn cwrs gradd a’u cysylltiad i bynciau academaidd penodol. Ar ein tudalennau Gwybodaeth Pwnc Penodol cewch syniadau pellach am yrfaoedd sy’n agored i’n myfyrwyr ar ein amrywiol gyrsiau academaidd, ond mynwch olwg hefyd ar y ddarpariaeth profiad gwaith a gynigiwn ac ar yr ystod o glybiau a chymdeithasau ar gynnig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Aberystwyth!