Sut alla i siarad â chynghorydd gyrfaoedd?

Y ffordd gyflymaf yw ymweld â'n gwasanaeth galw heibio yn Llyfrgell Hugh Owen, Llawr D, sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30yb a 12yp (yn ystod y tymor). Nid oes angen apwyntiad.
 
Yr amseroedd galw heibio dros gyfnod yr haf yw 10yb i 12yp ac 1yp i 3yp, o ddydd Llun 1 Gorffennaf 2024.
 
Ar gyfer cwestiynau manwl, archebwch apwyntiad cyfarwyddyd trwy gyrfaoeddABER. Am fanylion ar sut i archebu, cliciwch yma