Os gofynnwch am Fentor 'Ffordd Hyn' bydd myfyriwr israddedigion (ail, trydydd, blwyddyn olaf) neu fyfyriwr graddedig sydd wedi profi llawer o'r hyn sy'n eich wynebu chi yn cael ei neilltuo ar eich cyfer. Bydd y Mentor yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drafod y Cynllun ac unrhyw drafferthion, gyda golwg ar drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb pe byddech chi'n hoffi hynny.
Beth yw Mentor?
- Ffynhonnell fwy profiadol o wybodaeth
- Cyswllt â gwasanaethau eraill PA
- Arwyddbost i gyfeirio at adnoddau allanol
- Rhywun i siarad yn gyfrinachol ag ef neu â hi
Mae gan y Mentoriaid agwedd hyblyg ond mae'n bwysig nodi nad ydynt:
- Yn ymgynghorwyr hyfforddedig
- Yn diwtoriaid personol
- Yn weithwyr meddygol proffesiynol
- Yn ffynhonnell cymorth 24/7
'Bu'r cymorth ges i gan fy mentor yn amhrisiadwy. Mae'r cyngor ynglŷn â gyda rhannau anoddaf y cwrs wedi fy helpu i ddeall y dulliau mewn ffordd symlach' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun
I gael rhagor o wybodaeth am y berthynas rhwng y Mentor a'r Mentorai, ewch i'r Cyfarwyddiadau 'Ffordd Hyn'.