Cam Un
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch Corff Cyllido i’w hysbysu am eich bwriad i wneud cais am y LMA. Bydd yn anfon ffurflen atoch, i’w llenwi a’i hanfon yn ôl. Gellwch wneud hyn mewn cysylltiad â’r Cynghorwr Anabledd, neu â’r Uned Dyslecsia fel y bo’n briodol.
Cam Dau
Rhoi eich ‘Tystiolaeth Feddygol’ i Ganolfan Access. Gall hon fod yn nodyn gan feddyg, neu’n ddogfennaeth arall sy’n rhoi tystiolaeth o’ch anabledd. Yn achos myfyrwyr Dyslecsig, rhaid i’r ddogfen hon fod yn adroddiad diweddar gan Seicolegydd Addysgol. Rhaid iddyn nhw anfon hwn i’r Corff Cyllidol ei harchwilio. Yr Corff Cyllido fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael y LMA. Rhaid i’ch hawl gael ei phrofi cyn y gellir cynnal Asesiad Anghenion.
Canolfan Access y Prifysgol yw Canolfan Access Prifysgol Aberystwyth. Ewch isod i weld mwy o wybodaeth.
Rydym ni'n argymell i drefnu eich Asesiad Anghenion trwy Ganolfan Access Prifysgol Aberystwyth, ond gall Asesiadau gael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled y DU - cliciwch ar y ddolen: DSA-QAG.
Cam Tri
Unwaith fod eich Corff Cyllido wedi cadarnhau fod gennych hawl, cewch Asesiad Anghenion Astudio. Yn y fan hon, byddwch, fel rheol, yn dod i’r Ganolfan Access, a byddwn yn trafod eich anghenion yng nghyswllt anabledd. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad yn argymell y gefnogaeth berthnasol etc. sydd ei hangen arnoch.
Cam Pedwar
Bydd gofyn ichi ddarllen yr adroddiad y byddwn yn ei lunio, cyn inni ei anfon i’r Corff Cyllido. Eich cais chi yw hwn, ac mae angen ichi fod yn hapus yn ei gylch cyn inni ei hanfon i’ch Corff Cyllido.
Cam Pump
Mae eich adroddiad yn mynd i’r Corff Cyllido (a chewch chi gopi ohono). Yr Corff Cyllido sy’n penderfynu pa rai o’n hargymhellion y gall dalu amdanynt gyda chyllid y LMA. Dylai ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am ganlyniad yr asesiad.
Cam Chwech
Unwaith y cewch gadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn cyllido’r cymorth etc. sydd wedi’i argymell, dylech roi copi o’r llythyr i’r sawl sy’n rhoi’r cymorth (e.e. Gwasanaethau Myfyrwyr, yr Uned Dyslecsia, neu, yn achos cyfarpar, y Ganolfan Access). Rhaid i’r cyflenwydd gael cadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn talu am y gwasanaethau a’r cyfarpar a ddarperir.
Yn achos cefnogaeth astudio yn yr Uned Dyslecsia, gellwch, fel arfer, gymryd hon cyn i’r Corff Cyllidol gysylltu â chi. Ni ellir cyflenwi eitemau eraill, megis cyfarpar, heb gadarnhad gan yr Corff Cyllido.
Gwybodaeth Ychwanegol
Unwaith y byddwch wedi cael asesiad o’ch anghenion, bydd Canolfan Access Prifysgol Aberystwyth yn anelu at gael eich adroddiad yn barod ichi ei ddarllen o fewn pythefnos.
Gallwn roi mwy o gymorth a chyfarpar yn ddiweddarach yn eich cwrs, os bydd angen. Bydd angen i’r Ganolfan Access drafod yr angen ychwanegol â chi, a bydd yn ysgrifennu at yr Corff Cyllido, gan ofyn am unrhyw eitemau ychwanegol y bo eu hangen.
Mae'r Ganolfan Access yn gweithio i'r amseroedd canlynol:
Beth fyddwn ni’n ei wneud
|
Graddfa amser
|
Cynnig apwyntiad chi ar gyfer Asesiad Anghenion unwaith y byddwn wedi derbyn y papurau angenrheidiol (fel rheol cadarnhad Corff Cyllido a naill ai tystiolaeth feddygol neu adroddiad Seicolegydd Addysg)...
|
... cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon gennym a'n bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi
|
Cynnig apwyntiad i chi ar gyfer Asesiad Anghenion o fewn ...
|
... y 15 diwrnod gwaith nesaf
|
Ar ôl i chi gael eich asesiad, byddwn yn anfon copi drafft o’r adroddiad atoch i’w ddarllen (a chytuno â’r cynnwys drwy lenwi’r ffurflen amgaeedig) ...
|
... o fewn 10 diwrnod gwaith o’ch apwyntiad asesiad
|
Cytuno a gwneud unrhyw newidiadau i’ch adroddiad Asesiad unwaith y byddwn wedi clywed oddi wrthych ...
|
... o fewn 2 ddiwrnod gwaith
|
Anfon copi terfynol eich adroddiad Asesiad Anghenion at eich corff cyllido ...
|
... o fewn 1 diwrnod gwaith
|
Anfon copi terfynol o’ch adroddiad Asesiad Anghenion atoch ...
|
... o fewn 3 diwrnod gwaith
|