Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)?

I israddedigion ac uwchraddedigion sy'n hanu o wledydd Prydain, efallai y gallai'r Lwfans Myfyrwyr Anabl dalu am gymorth unigol, darpariaeth mewn arholiadau, ac unrhyw offer ychwanegol sydd ei angen arnoch o ganlyniad uniongyrchol i'ch anabledd. Mae angen tystiolaeth a diagnosis er mwyn gwneud cais am y Lwfans, er enghraifft llythyr gan feddyg teulu, adroddiad clinigol, adroddiad addysg diagnostig.

Diffinnir 'anabledd' fel anabledd corfforol, synhwyraidd neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau arferol bob dydd, gan gynnwys addysg. Er mwyn cael ei hystyried yn effaith hirdymor, mae'n rhaid iddi fod wedi para, neu fod yn debygol o bara, am 12 mis o leiaf.

Cysylltwch ag accessibility@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth, neu ewch i wefan eich corff cyllido:

I fyfyrwyr o Loegr

I fyfyrwyr o Ogledd Iwerddon

I fyfyrwyr o Gweriniaeth Iwerddon

I fyfyrwyr o'r Alban

I fyfyrwyr o Gymru

I fyfyrwyr rhyngwladol a'r rhai nad ydynt yn preswylio yn y DU, fe allwn ddarparu asesiadau wedi'u seilio ar dystiolaeth berthnasol am gymorth unigol a darpariaeth mewn arholiadau. Cysylltwch ag accessibility@aber.ac.uk am rhagor o gyngor.

Os ydych yn cael cyllid drwy un o Gynghorau Ymchwil a Menter y DU, gellir gwneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl drwy gynghorydd anabledd y corff ymchwil, am ragor o wybodaeth, gweler:  https://www.ukri.org/our-work/developing-people-and-skills/

Sut mae gwneud cais am LFA?

Mae'r ffordd rydych chi'n gwneud cais am y Lwfans yn dibynnu a ydych chi eisoes yn derbyn cyllid myfyrwyr.

Eisoes yn derbyn cyllid myfyrwyr:

Os ydych chi’n derbyn cyllid myfyriwr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mewngofnodwch i'ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Cymru neu Gogledd Iwerddon i ddechrau eich cais am Lwfans. Dylai gwneud cais am y Lwfans fod ar eich 'rhestr o bethau i'w gwneud'.

Os nad yw ar eich ‘rhestr o bethau i’w gwneud', dewch o hyd i'r cais am fenthyciad eleni a chliciwch ar Expand your application. Dewiswch Apply for additional support, yna clicio ar Disabled Students’ Allowance. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud cais.

 

Ddim yn derbyn cyllid myfyrwyr:

Os nad ydych yn derbyn cyllid myfyrwyr, os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig, neu'n fyfyriwr o'r Alban, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, mae angen i chi lenwi ffurflen i ddechrau'r broses. Gweler How to apply for DSA | Undergraduate, Conservatoires, Apprenticeships | UCAS

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk

Sut mae trefnu cefnogaeth Lwfans 1:1?

Ar ôl eich asesiad anghenion Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, byddwch yn derbyn llythyr hawl DSA2 drwy e-bost.

Anfonwch y llythyr hawl DSA2 ymlaen i gyfeiriadau e-bost y darparwyr cymorth a restrir yn y llythyr ei hun. Gallwn eich helpu i wneud hyn os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau: hygyrchedd@aber.ac.uk

Os oes gennych hawl i unrhyw feddalwedd neu offer, bydd y cyflenwr a restrir yn y llythyr hawl DSA2 yn cysylltu â chi i drefnu danfoniad. Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â ni: hygyrchedd@aber.ac.uk

Mae angen addasiadau i'm llety. Beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch ddewis lleoliad ac ystafell o’ch dewis drwy'r Porth llety.

Os oes angen llety mwy penodol arnoch am resymau iechyd/anabledd, cysylltwch â ni i drafod pa lety wedi'i addasu sydd ar gael ar hygyrchedd@aber.ac.uk

Ar gyfer unrhyw ofynion ychwanegol e.e. oergell feddygol, rhybuddion byddar, cadeiriau cawod, rheiliau llaw ac ati, cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk

Sut mae rhoi cymorth arholiad ar waith?

Yn y lle cyntaf, gwnewch gais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (Beth yw LFA?) mewn da bryd i sicrhau bod modd rhoi darpariaeth yn yr arholiadau ar waith.

Os nad oes gennych Lwfans, ond bod gennych dystiolaeth o gyflwr tymor hir neu wahaniaeth dysgu penodol, cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk i drafod pa addasiadau a allai fod yn bosibl.

Ni fydd unrhyw gymorth arholiad, fel amser ychwanegol neu ddefnydd cyfrifiadur, a oedd gennych yn yr ysgol/coleg yn parhau yn awtomatig yn y brifysgol. Cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk i drafod eich dewisiadau.

Os ydych chi'n profi unrhyw anawsterau o ran arholiadau ar hyn o bryd, cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk

Sut mae cael cymorth ychwanegol ar gyfer materion astudio?

Ar gyfer cymorth sgiliau astudio cyffredinol, edrychwch ar  SgiliauAber : Prifysgol Aberystwyth

I drafod rhagor o gymorth sgiliau astudio arbenigol cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk

Rwy'n credu efallai fod gen i ADHD/Awtistiaeth/Dyslecsia/Dyspracsia. Beth ddylwn i ei wneud?

Nid ydym yn darparu profion nac asesiadau ar gyfer gwahaniaethau dysgu nac awtistiaeth. Cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk am ddolenni i offer sgrinio a allai roi syniad i chi a yw'n werth mynd ar drywydd diagnosis. Gallwn hefyd roi cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cael diagnosis e.e. Asesiad Seicolegydd Addysg (EPA).

Fel myfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth, os oes angen i chi dalu am EPA a bod hyn yn eich rhoi mewn caledi ariannol, e-bostiwch cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk am gyngor pellach.

Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol â chyflwr sydd wedi cael diagnosis. Sut mae cael cymorth ar gyfer fy astudiaethau?

Ar gyfer cymorth sgiliau astudio cyffredinol, edrychwch ar  SgiliauAber  : Prifysgol Aberystwyth

I drafod cymorth pellach cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk

Sut ydw i'n trefnu addasiadau rhesymol?

Mae'r Tîm Hygyrchedd yn hapus i gynghori ar addasiadau rhesymol. Cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk i drafod.

Sut mae cael trwydded barcio hygyrch?

Os oes angen i chi barcio'n agos at eich mannau addysgu, bydd angen i chi brynu trwydded barcio o hyd: https://www.aber.ac.uk/cy/efr/parking/student/  

Yna bydd angen i chi gysylltu â hygyrchedd@aber.ac.uk gyda thystiolaeth berthnasol a manylion y car (rhif cofrestru, gwneuthuriad a model).

Rwy'n cael trafferth cael mynediad i'm mannau addysgu. Beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk gyda manylion am y trafferthion yr ydych yn eu profi am ragor o wybodaeth.