-
1. Beth yw’r ABM?
Bob semester, rydym yn gofyn i fyfyrwyr werthuso'r modiwlau y maent yn eu hastudio. Rydym yn gwneud hyn trwy holiadur ar-lein, sef yr ‘Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr' (ABM). Bydd canlyniadau'r ABM yn galluogi cydlynwyr modiwlau i ddeall yn well y gwelliannau y gellir eu gwneud i wella profiad y myfyrwyr o ran eu modiwlau.
-
2. Pryd fydd yr ABM yn digwydd?
Bydd yr ABM yn cael ei gyflwyno ichi rywbryd yn ystod wythnosau dysgu 7 a 10 yn semester un a dau, mewn sesiwn briodol y bydd cydlynydd y modiwl yn ei dewis.
-
3. Pa gwestiynau fydd yn yr ABM?
Mae’r ABM yn holi am eich profiadau ar fodiwl penodol ar eich cwrs. Mae'n gyfle i rannu eich barn a'n helpu i addasu a gwella'r profiad myfyriwr. Mae’r ABM yn cynnwys cwestiynau craidd am agweddau amrywiol ar fod yn fyfyriwr, gan gynnwys:
- Addysgu ar fy nghwrs
- Cyfleoedd Dysgu
- Marcio ac asesu
- Cymorth academaidd
- Trefn a Rheoli
- Adnoddau dysgu
- Llais y myfyrwyr
- Bodlonrwydd cyffredinol
Yn ogystal â hynny, mae'n gyfle i gydlynydd y modiwl ychwanegu hyd at bedwar cwestiwn ychwanegol sy’n berthnasol i’r modiwl.
-
4. Pam mae'r Brifysgol yn cynnal yr holiaduron hyn?
Mae'r Brifysgol yn cynnal yr Arolwy ar Brogiad Myfyrwyr (ABM) i gael gwybodaeth er mwyn gwella profiad myfyrwyr drwy wneud gwelliannau i fodiwlau, defnyddio'r hyn sy'n gweithio'n dda mewn modiwlau eraill a gwella'r profiad dysgu i fyfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol.
Mae'r ABM yn darparu gwybodaeth yn rhan o system sicrhau ansawdd y Brifysgol, ac maent yn cyfrannu at yr atebolrwydd cyhoeddus sy'n rhan o addysg uwch.
Dyma'r pedwar prif ddull o ddefnyddio'r adborth a ddaw yn sgil yr ABM:
- Er mwyn i arweinydd y modiwl ddeall sut mae'r addysgu a'r adborth ynglŷn ag asesiadau wedi cyfrannu at yr hyn y mae myfyrwyr yn ei ddysgu.
- I helpu'r tîm a gynlluniodd y modiwl wybod sut mae'r modd y cynlluniwyd ac y cyflwynwyd y modiwl wedi gweithio'n dda neu beidio, a'r hyn y gellir ei wella i fyfyrwyr y dyfodol.
- Er mwyn i'r Brifysgol yn gyffredinol adolygu sut mae'r modiwl wedi perfformio o'i gymharu â modiwlau eraill yn y gyfadran, ar yr un lefel neu ar draws y Brifysgol.
- Mae'n ffynhonnell wybodaeth i'r Brifysgol sy'n ei helpu i wella ansawdd ei darpariaeth, fel y gall arbenigwyr sy'n ymchwilio i ddysgu ac addysgu, neu sut mae modiwlau wedi'u cynllunio, ddysgu o'r hyn a weithiodd yn dda i chi a'r hyn y gellid ei wella.
-
5. Sawl ABM fydd i’w cwblhau?
Un ar gyfer pob modiwl, unwaith y semester.
-
6. A oes rhaid llenwi’r holiadur?
Nac oes, ond er mwyn i staff gael adborth eglur ynglŷn â'r ffyrdd y gallen nhw wella’r modiwlau, gorau oll po fwyaf o fyfyrwyr sy’n ymateb.
-
7. Sut y galla i gymryd rhan?
Yn ogystal â derbyn negeseuon e-bost am y broses, bydd y staff dysgu ar eich modiwlau yn rhoi gwybod i chi pryd yn union fydd hyn yn digwydd. Bydd yn digwydd rywbryd yn ystod wythnosau dysgu 7-10 yn semester un a dau.
Cyn y sesiwn...
- Lawrlwythwch ApAber o'ch storfa apiau - gallwch weld yr arolygon drwy deilsen yr ABM
Neu
- Dewch â gliniadur neu ddyfais glyfar i'r sesiwn, a bydd cydlynydd eich modiwl yn darparu dolen i'r ABM
- Sicrhewch fod y ddyfais rydych wedi'i dewis yn gallu defnyddio'r rhwydwaith Eduroam
- Os nad oes gennych ddyfais addas, bydd nifer fechan o dabledi ar gael i’w benthyca yn ystod y sesiwn er mwyn cwblhau'r arolwg
Yn ystod y sesiwn...
- Bydd eich darlithydd yn egluro pwrpas yr ABM, sut i’w gwblhau’n gywir, ac yn ateb unrhyw gwestiynau
- Yna gofynnir ichi gysylltu â'r rhwydwaith Eduroam
- Defnyddiwch y cod QR, a bydd rhif PIN y modiwl yn cael ei roi ar sleid PowerPoint
- Dyfeisiau clyfar: tapiwch ar deilsen yr ABM yn ApAber
- Gliniaduron neu gyfrifiaduron: rhowch yr URL yn eich bar chwilio
- Rhowch y rhif PIN a neilltuwyd ar gyfer cod eich modiwl
- Llenwch yr holiadur
- Pan fyddwch yn fodlon â’ch atebion, cliciwch 'Cyflwyno'
- Ar ôl ichi ei anfon, ni fydd modd ichi fynd yn ôl i’r holiadur
- Rydym yn rhagweld na fydd y broses hon yn cymryd mwy na chwarter awr.
-
8. Pam dylwn i gymryd rhan?
Mae’ch llais chi'n cyfri ac mae eich adborth yn ein helpu i ni ddylanwadu ar eich profiad myfyriwr! Mae Rho Wybod Nawr eisoes yn rhoi sylw i feysydd rhagoriaeth, ac mae'n ein galluogi i ddod i wybod am broblemau ac i roi gwelliannau ar waith. Mae eich ymatebion i’r holiaduron yn hanfodol gan eu bod yn ein helpu ni i wella profiad myfyrwyr trwy wneud newidiadau a fydd o fantais i chi ac i fyfyrwyr eraill. Po uchaf fydd nifer yr ymatebion, y mwyaf cywir ac effeithiol y byddwn ninnau yn gallu gwella eich cyfnod yma.
-
9. Sut y caiff y canlyniadau eu defnyddio?
Bydd cydlynydd y modiwl yn dadansoddi’r canlyniadau a, lle bo hynny’n bosibl, bydd yn gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau ar sail y canfyddiadau. Bydd cydlynydd y modiwl yna'n egluro’r newidiadau (neu’r rhesymau pam nad oes modd gwneud newidiadau) yn ystod darlith ddilynol a/neu ar eich tudalen AberLearn ar Blackboard Ultra.
Mae'n bosib y bydd rhai o’r canfyddiadau yn arwain at ymchwil pellach a fydd yn ein galluogi ni i ddeall eich barn am rai materion yn well. Bydd canlyniadau’r holiaduron yn cael eu defnyddio i wella ansawdd ar draws y Brifysgol.
-
10. Pa fodiwlau sy’n cael eu cloriannu?
Bydd pob modiwl yn cael ei gloriannu. Cafodd modiwlau uwchraddedig a Dysgu o Bell eu cynnwys yn yr ABM.
-
11. Sylwadau rhydd – a allaf ysgrifennu beth bynnag ddymunaf?
Gallwch, ond dylai'ch adborth fod yn adeiladol, proffesiynol, cwrtais ac wedi’i gyflwyno er mwyn annog gwelliannau. Mae sylwadau a syniadau sy'n mynd i helpu'r Brifysgol yn cael eu cynnwys yn y gwaith cynllunio strategol, ac maent yn arwain at newidiadau gwirioneddol y byddwch chi, a myfyrwyr y dyfodol, yn elwa arnynt.
Drwy fyfyrio ar eich profiad dysgu chi eich hun, a thrwy gloriannu pob modiwl, byddwch yn dod i ddeall eich dull personol chi o ddysgu, eich blaenoriaethau fel dysgwr a'ch ymateb i fathau gwahanol o ddulliau addysgu y dowch ar eu traws.
Os oedd y modiwl yn un rhagorol a oedd yn ennyn eich diddordeb, rhowch wybod i'ch darlithwyr ba elfennau a roddodd y boddhad mwyaf ichi. Os nad yw'r modiwl wedi bodloni eich disgwyliadau, esboniwch sut y gellid gwella pethau. Wrth gynnig adborth i staff academaidd, meddyliwch am eich profiadau eich hunan o gael adborth am eich gwaith eich hun. Myfyriwch ar eich profiad yn llawn, a chynhigiwch awgrymiadau adeiladol ar sut y gellid newid pethau. A ydych chi wedi clywed am ragfarn ddiarwybod? Gall fod tueddiad i roi marciau uwch wrth werthuso modiwlau academyddion a allai fod yn nes at y ddelwedd fwy hen ffasiwn o academydd. Mae'n bwysig eich bod yn ystyried unrhyw dueddiad diarwybod ynoch at greu stereoteipiau.
Hysbysir myfyrwyr bod Penaethiaid Adrannau a'r tîm arolygu canolog yn cadw'r hawl i olygu neu ddileu sylwadau y bernir eu bod yn annerbyniol. Gall sylwadau gael eu dileu os ydynt yn ymosodol, yn sarhaus, yn fygythiol, yn ddiangen o bersonol, neu yn niweidiol yn emosiynol. Caiff yr holl sylwadau a gyflwynir drwy'r ABM eu gwneud yn unol â'r Rheolau a Rheoliadau i Fyfyrwyr.
-
12. A yw’r ABM ar gael yn Gymraeg?
Ydy - gofynnwch i gydlynydd eich modiwl am fanylion.
-
13. A yw’r ABM yn ddienw?
Ydy. Mae'r Brifysgol yn dilyn canllawiau llym iawn i sicrhau nad oes modd adnabod neb yn y data a gawn drwy'r adborth, yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data diweddaraf. Gwnewch yn siŵr nad yw'r sylwadau rhydd a wnewch yn datgelu dim manylion personol - oni bai eich bod am i bobl wybod pwy yr ydych chi yn eich sylwadau.
-
14. Dydw i ddim am ateb y cwestiwn yna/cwblhau’r ABM
Does dim ichi gwblhau'r ABM, ond rydym yn eich annog i wneud hynny ac i ateb yr holl gwestiynau. Bydd gwneud hynny yn darparu gwybodaeth angenrheidiol i’ch adran ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio’n dda, a’r meysydd y gellid eu newid neu eu gwella. Bydd hynny o fantais i chithau a myfyrwyr eraill yn Aberystwyth.
-
15. Sut mae’r canlyniadau yn cael eu rhannu?
Bydd yr holiaduron gwerthuso yn cael eu hadolygu gan Gydlynwyr y Modiwlau, Arweinyddion Rhaglenni a Phenaethiaid Adrannau. Anogir Cydlynwyr Modiwlau i drafod canlyniadau'r holiaduron â myfyrwyr ac i wneud newidiadau lle bo angen. Os gwnaed unrhyw newidiadau oherwydd yr ymarfer gwerthuso, bydd y garfan nesaf o fyfyrwyr yn cael gwybod am hyn yn y ddarlith gychwynnol sy'n eu cyflwyno i'r modiwl.
Edrychwch am y posteri Dy Lais ar Waith yn yr adran, o gwmpas y campws, ar wefan Dy Lais ar Waith ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi wir yn hoffi rhywbeth, byddwn yn sicrhau ein bod yn dathlu hyn hefyd ac yn rhannu'r arferion da.
-
16. Beth yw ystyr yr ymatebion gwahanol?
Gofynnwn ichi ddweud i ba raddau yr ydych yn cytuno â phob datganiad gan ddefnyddio graddfa Likert 5 pwynt fel hyn:
5 = Cytuno'n gryf
4 = Cytuno
3 = Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
2 = Anghytuno
1 = Anghytuno'n gryf
Mae opsiwn hefyd i ddewis 'Nid yw'n berthnasol'.
Mewn rhai achosion, byddai dewis 'Nid yw'n berthnasol' yn fwy priodol na 'ddim yn cytuno nac yn anghytuno'. Os penderfynwch chi nad yw cwestiwn yn berthnasol mewn gwirionedd i'ch modiwl, dewiswch 'nid yw'n berthnasol' gan y bydd ateb 'ddim yn cytuno nac yn anghytuno' yn cael ei ystyried yn ateb negyddol, nid niwtral.
Mae cyfle gennych chi yn y blychau sylwadau i fynegi eich barn am y cwestiynau a ofynnwyd ac i ddweud wrthym ni beth weithiodd yn dda, beth yr oeddech yn ei hoffi a pha welliannau y gellid eu gwneud. Rydym yn ddiolchgar iawn ichi am gymryd amser i gwblhau'r HGM a gwerthfawrogwn eich gonestrwydd a'ch adborth adeiladol. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dangos parch at eraill a'ch bod yn defnyddio iaith briodol.
-
18. Ai’r un arolwg yw’r ABM a’r ACM (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr/NSS)?
Na, holiadur yw’r ABM i gloriannu profiadau’r holl fyfyrwyr israddedig ar y modiwlau y byddan nhw'n eu hastudio yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Defnyddir yr ABM i wella profiad myfyrwyr Aberystwyth yn unig. Mae’r ACM yn gyfrifiad cenedlaethol o bron i hanner miliwn o fyfyrwyr a gynhelir bob blwyddyn. Fe'i hanelir yn bennaf at fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a’i ddefnyddio fel ffynhonnell o wybodaeth gyhoeddus am addysg uwch.
-
19. Pwy fydd yn gweinyddu’r arolwg?
Bydd yr arolwg fel rheol yn cael ei weinyddu gan gydlynydd eich modiwl, neu gan un o staff dysgu'r modiwl. Ar adegau, fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol neu’n briodol i’r ABM gael ei weinyddu gan aelod o’r tîm Rho Wybod Nawr neu staff gweinyddol yr adran.
-
20. Pwy sy’n gweithredu’r system ar-lein?
Mae’r system ar-lein yn cael ei gweithredu a’i gweinyddu yn ganolog gan staff y tîm prosiect Rho Wybod Nawr.
-
21. Sut y galla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ABM?
Anfonwch e-bost at hgm-meq@aber.ac.uk os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau nad ydynt efallai wedi'u hegluro yma.
-
22. Beth os nad yw'r arolwg yn gweithio i mi?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr fod gennych chi’r rhif PIN cywir. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio gwneud yr arolwg yn ystod yr amser y mae’r arolwg ar agor. Cynhelir yr arolwg mewn sesiwn benodol.
Nesaf, a ydych chi'n ceisio mynd at yr arolwg drwy dabled/ap ffôn neu liniadur? Caiff y deilsen ar ApAber ei dileu'n aml wrth ichi newid yr ap i siwtio'ch anghenion chi, felly awgrymwn eich bod yn ceisio defnyddio'r ddolen. Os ydych chi’n ceisio mynd at yr arolwg drwy weddalen porwr, gwnewch yn siŵr nad yw’r ffurflen yn rhoi’r rhif PIN yn awtomatig neu nad ydych yn ceisio defnyddio fersiwn o’r ffurflen yr ydych wedi’i gwneud o’r blaen.
Datrysiad Sydyn – agorwch borwr newydd a theipiwch yr URL a rhoi’r rhif PIN newydd. Gallwch hefyd geisio clirio storfa’r porwr a’r cwcis. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cysylltu â'r rhyngrwyd.
-
23. Sut y galla i weld beth sydd wedi'i wneud o ganlyniad i'm sylwadau?
Mae myfyrwyr yn cael ateb oddi wrth gydlynydd y modiwl mewn ymateb i fy adborth i. Hefyd, lle bo hynny'n briodol, byddant yn cael manylion y newidiadau a wneir i'r modiwl. Bydd hyn yn eich cyrraedd dros e-bost, a bydd Blackboard hefyd yn cael ei ddiweddaru.
-
24. A yw pob myfyriwr yn ateb yr un cwestiynau?
Mae pob modiwl yn dilyn yr un strwythur ar gyfer yr ABM.
-
25. A alla i newid fy ymatebion i'r ABM, neu eu tynnu'n ôl?
Am fod yr holiaduron yn ddienw, nid oes modd newid neu dynnu ymateb yn ôl ar ôl ichi ei gyflwyno.
-
26. A oes modd cwblhau'r ABM ar ôl y dyddiad cau?
Gan mai proses wedi'i hawtomeiddio yw hon, nid oes modd llenwi holiadur ar ôl y dyddiad cau.
-
27. Sut y galla i fod yn siŵr y bydd camau'n cael eu cymryd yn sgil fy sylwad
Mae Cydlynwyr Modiwlau yn adolygu eu ABM er mwyn gwybod beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella. Bydd y sylwadau hynny'n cael eu rhannu â chydlynydd eich modiwl, a bydd ef/hi yn defnyddio'r adborth i ddatblygu'r modiwl i wella eich profiad ar y modiwl. Caiff yr adborth sy'n ymwneud â modiwlau ei ddadansoddi er mwyn nodi themâu allweddol.
Mae eich adborth yn rhan bwysig o broses ansawdd y Brifysgol.
Trafodir yr Holiaduron Gwerthuso Modiwlau yn ôl sgôr y ganran sy'n cytuno.
Down at y ganran sy'n cytuno drwy gyfuno'r ymatebion sydd â marc "4" a "5" a'u rhannu â swm yr holl ymatebion a roddwyd i'r datganiad.
Ni chaiff ymatebion 'Nid yw'n berthnasol' ("0") eu cynnwys. Trinnir ymatebion a adawyd yn wag hefyd fel rhai ‘Nid yw’n berthnasol’ ac felly ni chânt eu cynnwys wrth gyfrifo. Yn unol â hynny, rhoddir “0” am unrhyw ymateb a adawyd yn wag wrth gyfrifo’r ganran sy’n cytuno, a hynny er mwyn ei drin fel ateb 'Nid yw'n berthnasol'.
Cyfrifir y ganran sy'n cytuno fesul modiwl a datganiad unigol, fel y disgrifir yn y tabl isod:
Graddfa Bodlonrwydd |
Mae'r staff yn dda am esbonio pethau |
Cyfrifiad |
(5) Cyfanswm 'Cytuno'n bendant' |
65 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "5" - Cytuno'n bendant |
(4) Cyfanswm 'Cytuno ar y cyfan' |
72 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "4" - Cytuno ar y cyfan |
(3) Cyfanswm 'Ddim yn cytuno nac yn anghytuno' |
10 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "3" - Ddim y cytuno nac yn anghytuno |
(2) Cyfanswm 'Anghytuno ar y cyfan' |
2 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "4" - Anghytuno ar y cyfan |
(2) Cyfanswm 'Anghytuno'n bendant' |
0 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "1" - Anghytuno'n bendant |
(0) Cyfanswm 'Nid yw'n berthnasol' |
2 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc "0" - Nid yw'n berthnasol |
Nifer yr ymatebwyr i bob cwestiwn |
149 |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc 1, 2, 3, 4 neu 5 |
Graddfa Bodlonrwydd Myfyrwyr |
91.9% |
Cyfanswm yr ymatebion sydd â marc 4 neu 5 wedi'i rannu â chyfanswm yr ymatebion sydd â marc 1, 2, 3, 4 neu 5 |
Yn yr enghraifft uchod, y cyfrifiad yw 137 (65 + 72) / 149 (65 + 72 + 10 + 2), felly nid yw'n cynnwys y 2 ymateb ychwanegol sydd â marc 'Nid yw'n berthnasol'. Felly, wrth gyfrifo ar gyfer pob un o’r cwestiynau ar raddfa Likert, yn aml fe ddown at y canlyniad drwy rannu â nifer wahanol o ymatebion bob tro.
Os penderfynwch chi nad yw cwestiwn yn berthnasol mewn gwirionedd i'ch modiwl, dewiswch 'Nid yw'n berthnasol' gan y bydd ateb 'Ddim yn cytuno nac yn anghytuno' yn cael ei ystyried yn ateb negyddol, nid niwtral.