Amdanom ni
Pwrpas y Gwasanaeth Gyrfaoedd yw darparu gwasanaethau rhagorol a chynhalgar sy’n fodd i fyfyrwyr a graddedigion unigol gyflawni eu dyheadau, gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch bywyd, a chyflawni eu potensial.
Mae’n gwasanaethau i gyflogwyr yn eu galluogi i gysylltu’n uniongyrchol â’n myfyrwyr a graddedigion gan hybu twf cyflogwyr yn nhermau recriwtio staff, cyd-weithio a chreu cyfleoedd newydd.
Gweler ein cenhadaeth llawn yma - Ein Cenhadaeth. Gweler ein polisi gyrfaoedd moesegol yma -Polisi Gyrfaoedd Moesegol
Anelwn at wneud ein gwasanaethau'n gyfleus ac yn agored i'n holl ddefnyddwyr ac rydym yn fwy na bodlon i drafod anghenion penodol. Cysylltwch â ni drwy gyrfaoedd@aber.ac.uk neu dros y ffôn, 01970 622378, i drafod gofynion hygyrchedd unigol.
Myfyrwyr a Graddedigion
Rydym yma i’ch helpu i ddeall sut mae gwenud y defnydd gorau o’ch gradd, a’r holl brofiadau amrywiol a gynigir i chi tra’n y Brifysgol, wrth lunio llwybr gyrfa i’r dyfodol.
Bydd ein staff profiadol a phroffesiynnol yn eich cynorthwyo i
- ddewis a darganfod opsiynau profiad gwaith
- adnabod y sgiliau daw yn rhinwedd eich astudiaethau a’u defnydd i gyflogwyr
- gynllunio llwybr(au) gyrfa addas
- ymgeisio am swyddi gyda hyder
- asesu perthnasedd cyrsiau uwch-raddedig i’ch dyheadau gyrfaol
- ddeall sut i fynd ati i sefydlu busnes eich hun a’r camau angenrheidiol nesaf
- gysylltu â chyflogwyr, cyn-raddedigion a chyrff proffesiynnol i hyrwyddo a datblygu eich cynlluniau gyrfaol
Drwy gynnig gwasanaethau ar-lein, ar sail un-i-un, a thrwy gweminarau a gweithgareddau tebyg, edrychwn ymlaen at eich helpu gyda phob agwedd o’ch siwrne a’ch llwyddiant gyrfaol.
Cyflogwyr
Cynigiwn ystod o wasanaethau fel y gallwch gysylltu’n uniongyrchol gyda’n myfyrwyr a graddedigion, yn ogystal â chyd-weithio gyda’n hadrannau academaidd i ddatblygu a chreu cwricwlwm cyfredol ac addas i anghenion byd gwaith. Gweler restr o’r cyfleoedd rhyng-weithiol a ddarparwn ar ein tudalen i Gyflogwyr.
Gwybodaeth Diogelu Data
I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn. Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn myfyrwyr a graddedigion yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion
Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data perthnasol i gyflogwyr a rhyngddeiliaid yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad
Cysylltwch â Ni
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael ei staffio gan dîm cyfeillgar a phrofiadol sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i adnabod eich cryfderau ac archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd er mwyn i chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol.
Rydym yma i'ch helpu chi ar unrhyw gyfnod yn eich cynnydd trwy brifysgol ac ar ôl i chi raddio, felly galwch heibio am sgwrs.
Mae aelod o’n dîm ar gael bob dydd trwy’r wythnos (Llun i Wener) i gynnig cyngor ar gyfer ymholiadau byr mewn person neu ar-lein. Os oes angen cymorth helaethach arnoch yna gwnawn awgrymu dylech drafod gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd. Bydd apwyntiad hefo Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn cael ei chynnal mewn person neu drwy MS Teams.
Gallwch hefyd drefnu apwyntiad neu anfon ymholiad penodol atom gan ddefnyddio ein porth ar-lein gyrfaoeddABER a ddewis y tab Book neu’r botwm Ymholiad. Neu gallech ein galw ar 01970 622378 neu anfon ebost at gyrfaoedd@aber.ac.uk. Gwnawn ymateb i bob ymholiad o fewn tri diwrnod gwaith.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ei leoli yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Oriau agor swyddfa gyrfaoedd yw 9.00yb-4.00yp.
Cyfarfod â'r Tîm
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr
Ian Munton
Mae gan Ian brif gyfrifoldeb am y Gwasanaethau Myfyrwyr yn eu cyfanrwydd.
E-bost: iam14@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 621761
Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr
Bev Herring
Fel rhan o dîm rheoli yr adran mae gan Bev gyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gyrfaoedd, ei gyfeiriad strategol a'i dargedau a dangosyddion perfformiad.
E-bost: bch@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr
Gareth Jones
Rheolwr Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Mae Gareth yn rheoli, yn hwyluso ac yn gweithredu'r gwasanaethau rheng flaen yr adran i holl fyfyrwyr a graddedigion y Brifysgol. Yn ogystal, mae Gareth yn monitro llinellau cyllideb a chyllid adrannol ar sail barhaus.
E-bost: gaj39@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Abigail West
Ymgynghorydd Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Mae Summer yn gyfrifol am hwyluso a gweithredu'r gwasanaethau rheng flaen yr adran i holl fyfyrwyr a graddedigion y Brifysgol.
E-bost: abw31@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Ymgysylltu â Chyflogwyr
Jacqui Ho
Swyddog Cydlynu â Chyflogwyr
Mae Jacqui yn gyfrifol am gysylltu cyflogwyr gyda myfyrwyr presennol trwy ddigwyddiadau ar gampws i hyrwyddo interniaethau a chyfleoedd i raddedigion. Mae hi'n adnabod ac yn dod o hyd i ystod eang o gyflogwyr sy'n cyfateb i fyny ag anghenion ein myfyrwyr ac adrannau academaidd er mwyn cefnogi datblygiad cwricwla a helpu ein myfyrwyr i fod mor barod i waith ac sy’n bosib.
E-bost: jah30@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 628670
Tîm Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Manon Charles
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Manon yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am yr adrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Seicoleg, ac Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Mae Manon yn cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol.
E-bost: mac187@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
James Cuffe
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
James yw Ymgynghorydd Gyrfaoedd Adran Gwyddorau Bywyd, sydd â chyfrifoldeb dros gyrsiau sy'n amrywio o amaethyddiaeth i sŵoleg. Mae’n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hefyd yn gyfrifol am gydlynu datblygiadau o fewn gyrfaoeddABER, porth swyddi gwag a digwyddiadau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.
E-bost: jpc11@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Joanne Hiatt
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Jo yw’r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am yr adrannau Addysg, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Ieithoedd Modern, Celf, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Hi hefyd yw Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda chyfrifoldeb am gydlynu datblygiadau o fewn y maes hwn.
E-bost: jeb@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Morwenna Jeffery
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Morwenna yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am Chyfrifiadureg, Ysgol y Graddedigion, ac Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Mae hi'n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am gydlynu gwaith ddatblygu a diweddaru gwefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a hefyd datblygu a hyrwyddo cynllun eFentora y Brifysgol sy'n cysylltu myfyrwyr presennol gyda chyn-fyfyrwyr.
E-bost: mrj11@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tony Orme
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Tony yw'r Ymgynghorydd Gyrfaoedd sy'n gyfrifol am Ysgol y Gyfraith, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Hanes a Hanes Cymru. Mae’n cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o addysg, gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaol. Mae hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar helpu myfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn menter, hunan-gyflogaeth a chychwyn busnes newydd, i droi eu syniadau da yn fusnesau da.
E-bost: awo@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Lorraine Lewis
Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Ymgynghorydd Gyrfaoedd gyda chyfrifoldeb am yr Ysgol Fusnes, Fathemateg a Ffiseg, yn cyflwyno darlithoedd, gweithdai, digwyddiadau, ymgynghoriadau unigol a sesiynau grŵp rhyngweithiol i sicrhau bod pob myfyriwr yn yr adrannau yna yn elwa o addysg, gwybodaeth a cyfarwyddyd gyrfaol.
E-bost: lms9@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa
Lewis Richards
Rheolwr Strategol
Lewis yw’r Rheolwr Strategol ar gyfer y Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa. Mae Lewis yn goruchwylio’r rhaglen hon o gymorth a chyfleoedd wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr ifanc sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
E-bost: lhr@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622099
Stanislav Kollarik
Ymgynghorydd Datblygiad
Mae Stanislav yn Ymgynghorydd Datblygiad ar gyfer Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa. Mae Stanislav yn cysylltu â chyflogwyr ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
E-bost: stk25@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 628509
Summer McDonnell
Ymgynghorydd Datblygiad
Mae Summer yn Ymgynghorydd Datblygiad ar gyfer Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa. Mae Summer yn cysylltu â chyflogwyr ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
E-bost: slm17@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 621937
Cheryl Skelton
Swyddog Cyllid a Gweinyddu
Cheryl yw Swyddog Gweinyddol ar gyfer y Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa. Mae Cheryl yn darparu cymorth gweinyddol gyda hawliadau ariannol, dogfennaeth a llwybrau archwilio ar gyfer y prosiect gan gynnwys gefnogi'r Ymgynghorwyr ym mhob agwedd o'i dasgau o ddydd i ddydd.
E-bost: cas66@aber.ac.uk
Ffôn:(01970) 628518
Sarah Thomas
Ymgynghorydd Graddedigion
Mae Sarah hefyd yn Ymgynghorydd Graddedigion ar gyfer rhaglen Cymorth i Raddedigion. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
E-bost: smt@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Tîm Menter
Tony Orme
Ymgynghorydd Gyrfaoedd (gyda chyfrifoldeb am y prosiect Menter)
Fel rhan o'i rôl Ymgynghorydd Gyrfaoedd, mae Tony hefyd yn rhan o'r tîm menter sy'n gyfrifol am bob agwedd o ddarpariaeth menter, yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn menter, hunan-gyflogaeth a chychwyn busnes newydd. I droi eu syniadau da yn fusnesau da.
E-bost: awo@aber.ac.uk
Ffôn: (01970) 622378
Louise Somerfield
Swyddog Menter
Louise yw'r Swyddog Menter ar gyfer y prosiect Menter. Cefnogi myfyrwyr, graddedigion a staff ym mhob agwedd o weithio iddyn nhw eu hunain, naill ai'n dechrau eu busnes/menter gymdeithasol eu hunain, weithio fel gweithwyr llawrydd neu hunangyflogaeth.
E-bost: los14@aber.ac.uk
Ffôn:(01970) 628451