Cymorth Dysgu ac Anabledd

I fyfyrwyr anabl, myfyrwyr sydd â chyflyrau corfforol/meddyliol hirsefydlog neu wahaniaethau dysgu penodol, ein nod yw sicrhau cwricwlwm cynhwysol sy’n hygyrch i bawb, llety addasedig, a mynediad at fannau dysgu sy’n cynnwys cyfrifiaduron, caledwedd arbennig, meddalwedd ychwanegol a mynediad at liniaduron. Gallwn gynnig cyngor i chi ar drefniadau unigol ar gyfer arholiadau a thechnoleg i’ch galluogi i gyrraedd eich llawn botensial a chael y canlyniadau da rydych yn eu haeddu.

Llety hygyrch

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystafelloedd cwbl hygyrch gyda defnydd o geginau cymunedol wedi’u haddasu yn ogystal â fflatiau wedi'u haddasu. Gallwn hefyd ddarparu addasiadau megis larymau tân sy'n fflachio, clustogau sy’n dirgrynu ac oergelloedd meddygol.

Gallwn addasu ystafelloedd yn ôl anghenion unigol, er enghraifft darparu rheiliau llaw, gostwng silffoedd ac ati a gallwn gymeradwyo ceisiadau am en suite, ystafelloedd ar y lloriau uchaf/isaf, ystafelloedd ar y campws/ar lan y môr ac ati. Mae mwy o wybodaeth am ddewisiadau llety ar gael yn y Llawlyfr Llety.

Os oes angen gofalwr personol preswyl, efallai y bydd y Brifysgol yn gallu darparu ystafell ar y campws. Bydd angen i chi sicrhau y gellir talu cost ystafell y gofalwr. Efallai y bydd myfyrwyr sy'n talu ffioedd cartref yn gallu adennill cost llety'r gofalwr gan eu Hadran Gwasanaethau Cymdeithasol gartref.

Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno gofyn am gymorth ariannol gan eu Hadran Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau, yn dilyn asesiad cymunedol, fod y 'Cynllun Gofal' yn argymell darparu cynorthwyydd personol/gofalwr.

Sut alla i wneud cais am lety hygyrch?

Nodwch ar eich cais am lety ar-lein os oes gennych anabledd neu gyflwr meddygol y mae angen ei ystyried, neu y dylai'r Brifysgol fod yn ymwybodol ohono.

Dylech nodi'r gofynion hyn ar eich cais, ni waeth pa breswylfa rydych chi'n gwneud cais amdani, neu hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r Ymgynghorydd Hygyrchedd o ran gofynion arbennig. Gwnewch gais am lety cyn gynted â phosibl i sicrhau y gellir bodloni gofynion eich ystafell cyn i chi gyrraedd.

Gyda'ch caniatâd, bydd yr wybodaeth feddygol a ddarperir ar eich Ffurflen Cais am Lety yn cael ei throsglwyddo i ni, y Tîm Hygyrchedd o fewn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, er mwyn asesu eich anghenion. Bydd angen i gadarnhad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol gael ei gyflwyno i gefnogi eich cais ac unwaith y bydd hyn wedi dod i law gallwn drafod gyda chi pa fath o lety fydd fwyaf priodol. Dylid anfon tystiolaeth feddygol at: hygyrchedd@aber.ac.uk.

Mae'r holl wybodaeth am anabledd neu gyflwr meddygol ar eich ffurflen gais am lety yn cael ei thrin yn gyfrinachol, ac fe'i defnyddir at y dibenion a nodir yn unig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn am unrhyw beth a allai effeithio ar eich Iechyd a'ch Diogelwch neu Iechyd a Diogelwch y rhai sy'n byw o'ch cwmpas.

Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng

Er mwyn sicrhau eich diogelwch, bydd angen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng arnoch i nodi dull priodol o ddianc os bydd argyfwng (gan gynnwys driliau gwagio adeilad) yn llety'r Brifysgol ac mewn adeiladau academaidd. Bydd hyn yn berthnasol ni waeth beth yw achos eich anhawster a ph’un ai yw’n anhawster tymor byr neu hirdymor.

Cysylltwch â hygyrchedd@aber.ac.uk, neu bydd aelod o'r tîm hygyrchedd yn cysylltu â chi a fydd yn cwblhau Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng gyda chi cyn i chi symud ar y campws.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau penodol,Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr: Gwasanaethau Hygyrchedd cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hygyrchedd@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621761.

Hefyd, gall ein Cwestiynau a Holir yn Aml isod eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â:

Anhawster Dysgu Penodol

Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Adroddiadau ar Asesiad Diagnostig / Asesiad Seicolegydd Addysg

Lwfans Myfyrwyr Anabl

Asesiad Anghenion Astudio

Darpariaeth Unigol ar gyfer Arholiadau a sut i gael Darpariaeth Unigol ar gyfer Arholiadau

Llety a Chynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng