Bwyta'n Iach
Yr Athro John Draper
Canolbwynt fy ymchwil yw datblygu diagnosteg foleciwlaidd i fesur yn gywir beth mae pobl yn ei fwyta a dangos sut y gellir canfod metabolion sy’n deillio o gemegau nodedig mewn bwydydd penodol mewn wrin y diwrnod ar ôl eu bwyta.
Mae wedi arloesi o ran datblygu a masnacheiddio pecynnau samplo wrin y gellir eu postio sy’n addas i’w defnyddio yn y cartref, y gymuned a lleoliadau clinigol drwy’r byd.
Mae’r dull hwn llawer yn fwy dibynadwy na’r asesiad traddodiadol o gymeriant dietegol drwy hunanadrodd yn defnyddio holiaduron neu ddyddiaduron diet, sy’n llawn problemau oherwydd camadrodd a chymhlethdod y bwydydd sydd wedi’u prosesu sydd ar gael mewn archfarchnadoedd.
Gall biofarcwyr cymeriant bwyd gynnig gwybodaeth wrthrychol ar ddiet arferol, sy’n bwysig er mwyn cysylltu amlygiad i fwydydd arwahanol â chanlyniadau iechyd penodol a thrwy hynny gynghori polisïau iechyd cyhoeddus. Gall biofarcwyr cymeriant bwyd hefyd gynnig cyfle i ddatblygu sail o dystiolaeth ar gyfer cynllunio ‘Bwydydd Ymarferol’ y dyfodol a allai helpu i leddfu problemau’n gysylltiedig â llawer o gyflyrau cronig fel diabetes, gordewdra a chlefyd y galon.
Mwy o wybodaeth
Yr Athro John Draper
- E-bost: jhd@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Yr Athro John Draper
- Proffil Porth Ymchwil - Yr Athro John Draper