Helen Jones

 Helen Jones

Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Ymunodd Helen ag Ymchwil, Busnes ac Arloesi ym mis Chwefror 2021 o Brifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Sydney, Awstralia, lle bu'n arwain gwaith cyswllt allanol strategol, sicrhau grantiau, gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, prosiectau cydweithio ar raddfa fawr gyda sawl partner ym maes ymchwil busnes, diogelu a masnacheiddio eiddo deallusol, negodi contractau, deori busnesau yn ogystal â chydlynu rhaglennu cyllido sefydliadol i gyflymu canlyniadau ymchwil sy'n cael effaith sylweddol. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cefndir Helen ym maes Biocemeg o Brifysgol Warwick ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o arwain rhaglenni a thimau arloesi yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys rheoli rhaglenni arloesi yn y sector corfforaethol (FMCG) ledled y Deyrnas Unedig, Awstralasia ac Asia a'r Môr Tawel, ac yn fwyaf diweddar yn arwain timau a gweithrediadau ymchwil a datblygu amldalaith ar gyfer adain fasnachol y cwmni cynhyrchu bwyd mwyaf yn Awstralia a Seland Newydd nad ydyw mewn perchnogaeth y tu hwnt i’r gwledydd hynny.  

Un o Gymru'n wreiddiol yw Helen, a daw ag arbenigedd i Brifysgol Aberystwyth mewn amrywiaeth o dirweddau cyllido, hinsoddau economaidd a phroffiliau sefydliadol. O'r herwydd, gall feithrin strwythurau cefnogi ar gyfer partneriaethau ymchwil hirdymor a phrosiectau cydweithio amlwladol ac amlddisgyblaeth; gall roi ei chrebwyll busnes ar waith yn yr amgylchedd cyllid ymchwil gan reoli risgiau gweithredol ar yr un pryd, yn ogystal ag arwain timau proffesiynol sy'n perfformio ar lefel uchel.

Cyfrifoldebau

Helen yw arweinydd strategol Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Mae'n cefnogi Gweithrediaeth y Brifysgol i ddatblygu strategaethau, polisïau a strwythurau sy'n creu, yn rheoli ac yn adrodd ar ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â rheoli gwasanaethau sy'n cefnogi ymdrechion ymchwilwyr i ariannu, monitro a throsi eu hymchwil mewn modd sy'n sicrhau'r effaith ehangaf bosibl ac sydd er budd y gymdeithas.

Ymhlith cyfrifoldebau Helen mae cynyddu cyllid ymchwil allanol, datblygu gallu cyfnewid gwybodaeth y Brifysgol a gwaith cyswllt allanol ar faterion ymchwil ac arloesi, gan gynnwys gwaith gyda'r Llywodraeth, Cynghorau Ymchwil, cyrff sector cyhoeddus a phreifat, a chymunedau. Mae hi hefyd yn llofnodwr dirprwyedig ar gyfer contractau ac yn cynrychioli'r Brifysgol fel Cyfarwyddwr ei his-gwmnïau.