Achrededig gan y BPS
Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yw’r corff cynrychioladol ar gyfer seicoleg a seicolegwyr yn y DU.
Mae Seicoleg yn Aberystwyth wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ers 2013
Mae’r Gymdeithas yn gyfrifol am hyrwyddo rhagoriaeth ac arferion moesegol yng nghymwysiadau gwyddonol, addysgol ac ymarferol y ddisgyblaeth.
Mae ein holl gyrsiau wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, sef arwyddnod ansawdd a gydnabyddir yn eang ymhlith cyflogwyr yn y byd proffesiynol sy’n rhoi’r cyfle i raddedigion yr adran ddod yn aelodau Graddedig o’r gymdeithas. Mae achrediad y BPS yn bwysig i fyfyrwyr sydd am amlhau i’r eithaf eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
Manteision dewis cwrs sydd wedi’i achredu gan y BPS:
- Mae’n arwyddnod ansawdd y mae cyflogwyr yn ei ddeall ac yn ei werthfawrogi
- Mae’n rhoi cyfle i ddod yn aelod Graddedig a/neu Siartredig o Gymdeithas broffesiynol
- Mae’n agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi, datblygu a chyflogaeth.
I gael gwybod rhagor am y BPS a’i dylanwad ym maes Seicoleg, gweler: bps.org.uk
Aelodaeth Myfyrwyr y BPS
Mae Aelodaeth Myfyriwr y BPS yn agored i bawb sydd yn astudio cyrsiau gradd yr adran sydd wedi’u hachredu gan y BPS.
- tanysgrifiad digidol i The Psychologist a PsychTalk
- aelodaeth o’ch cangen leol, a fydd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio a gwybodaeth werthfawr i chi ar gyfer eich astudiaethau
- gostyngiadau unigryw ar lyfrau, digwyddiadau ac e-ddysgu
- mynediad am ddim ar-lein i archif y Gymdeithas o gyfnodolion academaidd
- cyfle i newid i aelodaeth graddedig yn rhad ac am ddim ar ôl cwblhau eich gradd israddedig
To find out other benefits and sign up,
gweler tudalen aelodaeth myfyrwyr y BPS