Pam dewis Seicoleg?

Astudiaeth o’r meddwl ac ymddygiad yw Seicoleg.

Yn Aberystwyth credwn ei bod yn wyddor ymarferol iawn ac y gellir ei chymhwyso mewn nifer o ffyrdd i’r byd go iawn.

Yn ystod eich amser yma byddwch yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i allu meddwl fel Seicolegydd. 

Yn Aberystwyth gallwch ddysgu:

  • Sut mae’r ymennydd yn gweithio
  • Sut mae Niwroleg yn dylanwadu ar ymddygiad pobl
  • Seicoleg Gymdeithasol a sut y gall cymdeithas ddylanwadu arnom ni a sut y gallwn ni ddylanwadu ar gymdeithas
  • Sut yr ydym yn datblygu ar hyd ein hoes o’r cyfnod cyn ein geni i fod yn oedolion hŷn
  • Seicoleg Wybyddol a phrosesau gwybyddol i helpu i ddysgu sut yr ydym yn meddwl
  • Seicoleg ymddygiad troseddol
  • Sut mae ein hemosiynau’n dylanwadu ar ein seicoleg
  • Gwahaniaethau unigol a’r hyn sy’n ein gwneud yn debyg ac yn wahanol i’r bobl o’n cwmpas
  • Sut i gynllunio a chynnal ymchwiliadau mewn gwyddor Ymddygiadol
  • Sut i ddefnyddio’r sgiliau yr ydych yn eu dysgu i hybu eich rhagolygon am waith

Yn ogystal â’r radd y byddwch yn gweithio tuag ati, mae cyfleoedd eraill ar gael i ychwanegu at eich CV a’ch helpu i ennill y blaen ar y gweddill, sef 'Mantais Seicoleg Aberystwyth', ac mae’n cynnwys cyrsiau a digwyddiadau a drefnir gan y brifysgol a’r adran ynghyd â modiwlau a gynlluniwyd yn arbennig i wella eich gwybodaeth a’ch cyflogadwyedd ar ôl graddio.

 

Pam Aberystwyth? Mae Aberystwyth yn dref glan y môr hardd a phrysur ar arfordir gorllewinol y Canolbarth. Mae gan Aber ymdeimlad o gymuned ac mae’i phoblogaeth sylweddol o fyfyrwyr yn creu amgylchedd prysur a chosmopolitan yn yr ardal eithriadol o hardd hon.