Mantais Seicoleg Aberystwyth

 

Cynllunio Mentora Cymheiriaid yr Adran

Manylion:

Pennir mentor ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf o’r flwyddyn uwch. Bydd y mentor yn gallu trosglwyddo ei b/phrofiad o fywyd prifysgol a sut i drafod pynciau pontio sydd weithiau’n digwydd wrth symud o addysg coleg i addysg prifysgol.

Sut gallech chi elwa ohono:

Efallai y bydd ambell gwestiwn nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn holi aelodau academaidd o’r staff yn eu cylch. Bydd y cynllun mentora yn rhoi cyswllt penodol a hyfforddedig i chi a fydd yn gallu gwrando ar eich pryderon. Yn yr ail flwyddyn, cewch gyfle i fod yn fentor i’ch cyd-fyfyrwyr eich hun. Mae cymryd rhan yn y cynllun hwn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad gwerthfawr all roi hwb i’ch siawns o gael swydd ar ôl graddio o’r brifysgol.

Mynnwch Air

Manylion:

Hyfforddiant ar gyfer darparu ymyriadau cryno alcohol

Sut gallech chi elwa ohono: 

Mae’r hyfforddiant hwn yn arbennig o berthnasol ar gyfer y rheiny sy’n mentora eu cymheiriaid a/neu diwtoriaid preswyl, ac wedi’i gynllunio i “annog a chefnogi pobl broffesiynol sy’n darparu ymyriadau cryno’. Bwriedir ymyriadau cryno alcohol i ‘annog rhywun sy’n camddefnyddio alcohol i adolygu’r modd y maent yn yfed, i osod terfynau yfed ac i wneud penderfyniadau i leihau’r yfed peryglus, a gweithredu ar y penderfyniadau hynny’ (www.haveaword.org.uk)

Digwyddiad Profiad Gwaith/Gwirfoddoli

Manylion:

Digwyddiad dwy awr o hyd gyda’r nos, wedi’i drefnu gan Dr Debra Croft a Dr Alison Mackiewicz, ar gyfer Myfyrwyr Seicoleg y flwyddyn 1af a’r 2il flwyddyn.

Sut gallech chi elwa ohono: 

Bydd mudiadau fel MIND, Ysbyty Bronglais, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a DASH a RAY, dwy elusen sy’n cynnig gofal seibiant a gweithgareddau i bobl ifainc anabl, yn bresennol yn y digwyddiad hwn ac yn sôn am sut y gallech chi wirfoddoli. Cewch gyfle i holi gwestiynau a siarad â chynrychiolwyr y mudiadau hyn yn anffurfiol dros baned a chacen!  

Wythnos Wyddoniaeth Prydain

Manylion:

Arddangosfa wyddoniaeth ymarferol yn rhad ac am ddim i nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, gyda’r nod o gynnig profiad difyr a diddorol o weithgareddau gwyddoniaeth i ddisgyblion ysgolion Ceredigion. 

Sut gallech chi elwa ohono: 

Mae gweithgareddau’r arddangosfa hon yn ddrych o wahanol ddisgyblaethau gwyddonol, ac mae’r adran Seicoleg bob amser yn cymryd rhan. Trefnir ein cyfraniad gan fyfyrwyr cyfredol; mae’n gyfle delfrydol i gael profiad o weithio gyda phlant ifainc, o’r cynradd a’r uwchradd, a dysgu’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith tîm da.

PS20600 Modiwl Lleoliad Gwaith 

Manylion:

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gymhwyso seicoleg; gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o wahanol lwybrau gyrfa a chyfleoedd mewn seicoleg. Bydd myfyrwyr yn cwblhau o leiaf 20 awr fel gweithiwr neu wirfoddolwr mewn amryw leoliadau [yn cynnwys clinigol, addysgiadol, diwydiannol, sefydliadol a chymunedol].

Sut gallech chi elwa ohono: 

Mae’r lleoliad gwaith yn cynnig cyfle i bob myfyriwr ddatblygu a myfyrio ar eu profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â gwaith. Gall lleoliad gwaith ar y CV gael effaith gadarnhaol ar eu gallu i gael swydd ar ôl graddio.

Darlithwyr Gwadd

Manylion:

Mae’r Pennaeth Adran yn awyddus iawn i wahodd siaradwyr gwadd i gyfrannu at eich modiwlau yn ystod eich cyfnod yma.

Sut gallech chi elwa ohono: 

Daw’r darlithwyr hyn o rai o’r prifysgolion gorau a mwyaf sefydlog yn y DU ac yn wir y byd, ac maen nhw’n arweinwyr yn eu meysydd. Efallai y cewch ddarlithoedd gan staff o Harvard, Amsterdam neu Brifysgol Caerfaddon, er enghraifft. Fe’u dewisir fel arbenigwyr i gyd-fynd â’ch modiwlau yma.

Cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Manylion:

Mae’r cwrs deuddydd yn galluogi myfyrwyr y 3edd flwyddyn i adnabod ac ymdrin â phroblemau iechyd meddwl mewn eraill nes y gallant ddod o hyd i gymorth ychwanegol.

Sut gallech chi elwa ohono: 

Mae’r cwrs yn arbennig o werthfawr ac rydym ni mewn seicoleg o’r farn ei bod hi’n bwysig fod myfyrwyr sy’n graddio o Aberystwyth yn meddu ar y gallu hwn, a hefyd yn credu y bydd gennych well siawns o gael swydd o’r herwydd, os bydd y cwrs defnyddiol hwn yn cael ei ychwanegu at eich CV.

Tiwtora Personol

Manylion:

Pennir tiwtor personol ar eich cyfer pan ddechreuwch yn y brifysgol a byddwch gyda’r tiwtor hwnnw drwy gydol eich amser yma. Eu gwaith fydd eich cyfarwyddo’n academaidd a darparu gofal bugeiliol.

Sut gallech chi elwa ohono: 

Felly os ydych yn pendilio rhwng un peth a’r llall, a bod angen gwneud penderfyniad anodd ar eich cwrs arnoch, gallwch eu holi am gymorth ac arweiniad – nid dweud yw hynny na chewch holi unrhyw aelod o staff am gymorth, ond fel arfer eich tiwtor personol yw’r person sy’n eich adnabod orau.

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Manylion:

Rydym yn falch o allu cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio elfennau o’u gradd Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod pob blwyddyn astudio. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr gyflwyno unrhyw ddarn o waith cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a chael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.

Sut gallech chi elwa ohono:

Mae dwyieithrwydd yn sgìl sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr. Gall dangos eich bod yn medru gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg fod o fudd sylweddol i fyfyrwyr sy’n dymuno gweithio yng Nghymru.

PS11710 Cynllunio Datblygiad Personol (PDP)

Manylion:

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich gyrfa ac i ddeall yr hyn yw bywyd gwaith o safbwynt seicolegol.

Sut gallech chi elwa ohono: 

Bydd ffocysu a pharatoi yn gynnar yn rhoi mantais i chi yn eich gyrfa. Mae’r modiwl arbennig hwn yn mabwysiadu Cynllunio Datblygiad Personol y Brifysgol fel asesiad, sy’n golygu y bydd myfyrwyr yn ymygysylltu’n fanylach o lawer, ac mae’n sylfaen ar gyfer y modiwl lleoliad gwaith PS20600 yn lefel 2.

Digwyddiad Cyflogadwyedd y 3edd flwyddyn

Manylion:

Digwyddiad hanner diwrnod ar gyfer myfyrwyr seicoleg y 3edd flwyddyn sy’n “meddwl am fywyd ar ôl graddio!”

Sut gallech chi elwa ohono:

Rydym wedi holi i rai o’n graddedigion seicoleg rannu eu profiadau yn y digwyddiad hwn: yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn eu bywydau ers graddio 3 blynedd yn ôl, a fydd yn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl. Bydd Tony Orme a staff gwasanaeth gyrfaoedd y brifysgol yn sôn am eich dewisiadau o ran gyrfa, a bydd cyfle hefyd i ‘rwydweithio’ a thrafod eich syniadau gyda’r staff.