Yr Hen Goleg i gydnabod cyn-fyfyriwr wrth i’r prosiect uchelgeisiol dderbyn hwb ariannol sylweddol
Dr Rhidian Lawrence (chwith) yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr doethuriaeth yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y llun hefyd mae Bryn Price (ar ei eistedd), a chwith i’r dde, Emyr Evans, Emyr Winstanley a Dan Rees.
16 Rhagfyr 2024
Mi fydd sinema newydd yn yr Hen Goleg yn cael ei henwi ar ôl myfyriwr oedd yn raddedig o Aberystwyth ac a ddechreuodd ei yrfa academaidd yn yr adeilad ac y cydnabuwyd ei waith gan NASA.
Graddiodd Dr Rhidian Lawrence o Drefin yn Sir Benfro gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg ym 1962 ac astudiodd ar gyfer doethuriaeth fel aelod o grŵp ymchwil siocdonnau’r Brifysgol.
Fel rhan o gymynrodd o dros £720,000 i'w gyn-brifysgol, mae Dr Lawrence wedi gadael dros £360,000 i brosiect yr Hen Goleg.
Bydd y sinema, ym mharth Byd Gwybodaeth y prosiect uchelgeisiol yn cael ei henwi er cof amdano a bydd darlith gyhoeddus flynyddol yn cael ei chynnal yno yn ei enw.
Bydd ei rodd hefyd yn cefnogi catalogio casgliad hanesyddol yr Adran Ffiseg.
Mi fydd cydnabyddiaeth bellach wrth ymyl arddangosfa sy’n nodi hanes yr Athro E J Williams FRS, y ffisegydd o Geredigion a gyflawnodd y gamp o arddangos dadfeiliad pelydryn cosmig meson i electron yn yr Hen Goleg ym 1940.
Yn ystod gyrfa broffesiynol o bron i ddeugain mlynedd, bu Dr Lawrence yn gweithio i gwmnïau awyrofod yn Alabama a Seattle, a’r Weinyddiaeth Eigionol ac Atmosfferig Genedlaethol yn Colorado.
Roedd yn arbenigwr mewn technoleg laser, a pharhaodd ei gariad at yr iaith Gymraeg a’i diwylliant gan ganu gyda Chôr Cymreig Seattle a chefnogi digwyddiadau fel y Gymanfa Ganu Genedlaethol.
Roedd Dr Lawrence, a fu farw ym mis Gorffennaf 2023, hefyd yn gefnogwr mawr o wyddonwyr Cymreig ac ysgrifennodd lyfr o’r enw Gwyddonwyr Pwysig o Gymru sy’n cael ei olygu ar hyn o bryd i’w gyhoeddi.
Mae ei haelioni yn hwb mawr i Apêl yr Hen Goleg, yr ymgyrch godi arian fwyaf llwyddiannus yn hanes Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r prosiect hefyd wedi sicrhau £5.4m o gyllid ychwanegol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NHLF).
Mae cyfraniad diweddaraf NHLF yn golygu bod £37.4m wedi’i godi o ffynonellau allanol ar gyfer prosiect yr Hen Goleg, gyda dros £4.5m wedi’i ddarparu gan ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion fel Dr Lawrence.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac Arweinydd Gweithredol prosiect yr Hen Goleg:
“Mae’n bleser gennym ni gydnabod cefnogaeth Dr Rhidian Lawrence drwy enwi sinema’r Hen Goleg ar ei ôl. Prifysgol Aberystwyth oedd man lansio ei yrfa hynod lwyddiannus yng Nghanada a’r Unol Daleithiau ac mae’n hyfryd y bydd cenedlaethau’r dyfodol yma yn Aberystwyth yn elwa o’i haelioni at yr Hen Goleg.”
“Rydym ni wrth ein bodd gyda’r datblygiad hwn ac yn ddyledus iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n gwneud trawsnewid yr adeilad nodedig hwn yn bosibl.
“Mae cynnydd rhagorol wedi’i wneud ar y safle dros y misoedd diwethaf. Oherwydd natur yr adeilad, mae’r Hen Goleg wedi golygu nifer o heriau pensaernïol ac adeiladu, ynghyd â’r pwysau chwyddiant a welwyd ar draws y sector adeiladu yn y blynyddoedd diwethaf, wedi effeithio ar gynnydd ac ar gostau. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn golygu ein bod bellach yn gallu bwrw ymlaen yn hyderus i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn.”
Bywyd Newydd i'r Hen Goleg
Bywyd Newydd i'r Hen Goleg: Prifysgol Aberystwyth
Bydd prosiect yr Hen Goleg yn darparu canolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio a sinema flaengar.
Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.
Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ar yr Hen Goleg, y filas Sioraidd a’r atriwm newydd gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2026.