Ebrill 2024

Croeso i’r adroddiad diweddaraf am y cynnydd ar ein cynlluniau cyffrous i ddod a bywyd newydd i’r Hen Goleg, cartref addysg brifysgol yng Nghymru.

Gwaith i ddechrau ar fynedfa newydd

Mae’n bleser adrodd y bydd y gwaith yn dechrau’n fuan ar yr atriwm, mynedfa drawiadol newydd i’r Hen Goleg. Bydd yr atriwm yn ymestyn dros saith llawr gan gynnig mynediad i bawb i bob lefel ac yn datgloi potensial aruthrol yr Hen Goleg am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn cynnwys ystafell ddigwyddiadau wydr i 200 o bobl â golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.

•    Darllenwch fwy yma

Llawr newydd i’r Cwad

Mae gan y Cwad - calon yr Hen Goleg ers bron i 140 o flynyddoedd - lawr newydd ar ôl i arolygon ddatgelu bod angen cryfhau’r llawr gwreiddiol oedd wedi’i wneud o goncrit wedi’i gymysgu â brics wedi torri a hyd yn oed llwch glo.

Datgelodd y gwaith weddillion y tân a anrheithiodd yr adeilad ym mis Gorffennaf 1885. Rydym yn disgwyl dod o hyd i ragor o olion wrth i’r gwaith ar yr orielau arddangos newydd ddod yn ei flaen.

•    Darllenwch fwy yma

Tân mawr 1885

Yn ôl adroddiadau ar y pryd achoswyd y tân gan “hylosgi digymell ymhlith y gwastraff cotwm a ddefnyddiwyd i lanhau ar ôl yr arbrofion cemegol yn adran y labordy”. Llosgwyd rhan ogleddol yr Hen Goleg yn ulw a bu farw tri dyn lleol yn y tân. Cyhoeddwyd adroddiad manwl am ddigwyddiadau noson y tân a’r wythnos ganlynol yn The Cambrian News and Meirionethshire Standard ar 17 Gorffennaf 1885.

•    Darllenwch fwy yma

Sefydlu brand i’r Hen Goleg

Comisiynwyd y cwmni brandio creadigol Elfen i edrych ar y gwerthoedd mae ein prosiect yn eu cynrychioli yn ogystal â syniadau ar gyfer yr hunaniaeth brand. Mae Elfen wedi cynnal gweithdai rhagarweiniol gyda staff ac eisiau ymestyn y gwaith a’ch gwahodd i gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwn drwy gwblhau’r holiadur isod.

•    Holiadur Hen Goleg Elfen

Lluniau 3D rhyfeddol

Cyn i’r gwaith ddechrau cafodd yr Hen Goleg a’r Cambria eu cofnodi ar ffurf sganiau 3D gan AMP Digital. Ewch am dro o amgylch yr adeilad drwy glicio ar y dolenni isod. Rydym yn siwr y byddwch yn cytuno eu bod yn anhygoel.

•    Yr Hen Goleg (Gogledd)
•    Yr Hen Goleg (De)
•    Y Cambria

Adeilad hynod ag iddo hanes hynod

O ddyddiau Tŷ’r Castell i’r presennol, mae hanes yr Hen Goleg yn un o adnewyddu a datblygu. Dyma Elgan Philip Davies yn egluro pam na chafodd y cynlluniau uchelgeisiol gwreiddiol eu gwireddu.

•    Yr Hen Goleg: adeilad hynod ag iddo hanes hynod

Cynlluniau’r Hen Goleg

Wrth i’r gwaith adeiladu brysuro ac i’n gweledigaeth ar gyfer yr adeilad rhyfeddol hwn ddechrau cael ei gwireddu, gallwch ddysgu rhagor am y cynllun cyffrous hwn yn Nelwedd-lyfr yr Hen Goleg, sydd newydd ei ddiweddaru.

•    Darllenwch fwy yma

Apêl yr Hen Goleg

Apêl yr Hen Goleg yw un o ymgyrchoedd codi arian mwyaf llwyddiannus yn hanes Prifysgol Aberystwyth â thros £30m eisoes wedi ei godi. Fodd bynnag, mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn i ni allu gwireddu’r prosiect hwn.

•    Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi apêl yr Hen Goleg
•    Mae prif gyllidwyr a phartneriaid y prosiect i’w gweld ar Ddelwedd-lyfr yr Hen Goleg

Y diweddaraf i chi

Gobeithiwn yn fawr y bydd y diweddariad hwn o ddiddordeb i chi. 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,

Tîm Prosiect yr Hen Goleg