'Ysbryd Aber' yn Gafael
#AberYnGafael
Pan fydd yr Hen Goleg yn ailagor i’r cyhoedd bydd yn cynnwys orielau newydd sbon i arddangos hanes a chasgliadau rhyfeddol y brifysgol. Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn cynnig cipolwg i chi os gwnewch chi ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac edrych am #AberYnGafael. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gymryd rhan a rhannu eich atgofion a’ch straeon am y brifysgol. Dr Bleddyn Huws sy’n egluro’r ysbrydoliaeth y tu ôl i #AberYnGafael, a ddaeth gan ein bardd eiconig ac Athro’r Gymraeg T.H. Parry Williams.
Rhanwch sut mae Aber yn Gafael arnoch chi yma.
‘Ysbryd Aber’ yn gafael
Mae’r gyfrol The College by the Sea (A Record and a Review), a gyhoeddwyd yn 1928, yn cynnwys casgliad o ysgrifau sy’n croniclo amrywiol agweddau ar hanes a bywyd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn eu plith ceir ysgrif yn Saesneg gan T. H. Parry-Williams (1887–1975), sef yr Athro Cymraeg ar y pryd, a oedd hefyd yn un o gyn-fyfyrwyr y Coleg ger y lli. Teitl sy’n fenthyciad o’r Lladin sydd i’r ysgrif, ‘Genius Loci’, sy’n golygu naill ai ysbryd gwarchodol man a lle, neu gymeriad ac awyrgylch man a lle.
Ar ôl graddio yn y Gymraeg yn 1908 a threulio blwyddyn arall yn astudio Lladin, gadawodd Aberystwyth a mynd yn fyfyriwr ymchwil i Goleg Iesu, Rhydychen. Treuliodd ddwy flynedd yno cyn mynd fel cymrawd ymchwil i Brifysgol Freiburg yn yr Almaen ac wedyn i’r Sorbonne a’r École des Hautes-Études ym Mharis. Dychwelodd o Baris i Aberystwyth yn Ionawr 1914 i fod yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg. Pan gyhoeddwyd yr ysgrif yr oedd ei hawdur wedi bod ar staff y Coleg ers pedair blynedd ar ddeg, ac wedi treulio wyth o’r rheini yn Athro’r Gymraeg.
Sôn y mae’r ysgrif yn benodol am un agwedd ar ‘ysbryd Aber’, sef y profiad a gaiff cyn-fyfyriwr o ailymweld ag adeilad yr Hen Goleg fel yr oedd yn y cyfnod cyn codi adeiladau ac adleoli rhai o adrannau’r brifysgol ar gampws Pen-glais. Wrth i’r cyn-fyfyriwr ailymweld mae’r hen adnabyddiaeth o’r lle yn cael ei hadnewyddu drachefn. Mae nodweddion pensaernïol gweladwy a chyffyrddadwy yn bwysig iddo. Trwy edrych ar bethau diriaethol fel lloriau a muriau, gwaith haearn a gwaith coed, a chyffwrdd ag ymyl concrid balconi’r Cwad, mae’r cyn-fyfyriwr yn gallu ail-fyw ac ailbrofi’r cyffroadau a deimlodd gynt.
Nid yw synhwyrau’r glasfyfyriwr yn gallu uniaethu â golygfeydd, synau ac arogleuon y lle ar y cyfarfyddiad cyntaf, meddai Parry-Williams. Dim ond ar ôl arfer â nhw dros gyfnod o amser y mae modd dod i’w hadnabod a’u gwerthfawrogi’n llawn. Yn ei achos ef, cafodd y profiad unigryw o fod yn lasfyfyriwr yn Aberystwyth ddwy waith, y tro cyntaf yn llanc deunaw oed yn Hydref 1905, a’r ail dro yn Hydref 1919 pan gefnodd ar ei swydd fel darlithydd er mwyn astudio gwyddoniaeth, ac yntau erbyn hynny yn dri deg a dwy mlwydd oed.
Daeth i ddarganfod yr hen bethau cyfarwydd o’r newydd pan gofrestrodd fel myfyriwr blwyddyn gyntaf yng Nghyfadran y Gwyddorau yn ystod sesiwn academaidd 1919–20. Ar ôl i’r brifysgol fethu â’i benodi’n Athro oherwydd y gwrthwynebiad cyhoeddus i’w safiad fel heddychwr yn ystod y Rhyfel, penderfynodd Parry-Williams newid ei yrfa a throi i fyd meddygaeth. Er mwyn cael mynediad i ysgol feddygol Ysbyty St Bartholomew yn Llundain, rhaid oedd cwblhau’r flwyddyn yn astudio’r pedwar pwnc gwyddonol sylfaenol, a dyna sut y’i cafodd ei hun yn lasfyfyriwr gwyddonol yn trin offer gwahanol i’r ysgrifbin a’r potyn inc yr oedd wedi arfer â nhw.
I gymeriad mor effro ei synhwyrau ag ef, yr oedd y profiadau a gafodd wrth fyseddu a bodio pethau materol yn brofiadau real a ddyfnhaodd ei hoffter a’i anwyldeb tuag at y Coleg ei hun (endearment yw’r gair a ddefnyddia yn yr ysgrif). Dyna ddangos sut y mae’r ymdeimlad o berthyn i fan a lle a phethau arbennig yn cydio mewn dyn ac yn dal eu gafael arno.
Chwarter canrif wedi’r cyfnod y cyfeiria ato yn ‘Genius Loci’, cyhoeddodd Parry-Williams ysgrif arall yn trafod ei ail gyfnod yn lasfyfyriwr. Yn ei gyfrol O’r Pedwar Gwynt yn 1944 yr ymddangosodd yr ysgrif ‘Y Flwyddyn Honno’, lle’r oedd yn dwyn i gof gyda chryn gyffro ac afiaith y profiadau a gafodd fel myfyriwr gwyddonol. Ystyriai’r flwyddyn yn un o uchafbwyntiau ei yrfa am iddo lwyr fwynhau’r profiadau newydd a gafodd fel glasfyfyriwr am yr ail dro, a chael cystal hwyl ar astudio pynciau mor wahanol i iaith a llên.
Ffoto: T.H. Parry-Williams, o archif deuluol Ann Meire.
Yn haf 1920, fodd bynnag, penderfynodd y Coleg ailhysbysebu’r Gadair Gymraeg a pherswadiwyd Parry-Williams i gynnig amdani drachefn. Y tro hwn cafodd ei benodi, a rhoddodd y gorau i’w fwriad i hyfforddi’n feddyg yn Barts. Yn ôl tystiolaeth ei ysgrif am y ‘flwyddyn honno’, nid oedd yn difaru dim ei fod wedi astudio gwyddoniaeth fel myfyriwr blwyddyn gyntaf. Mwynhaodd y profiad yn ddirfawr ac, yn dawel bach, difaru yr oedd, os rhywbeth, na fyddai wedi dal ati a graddio mewn meddygaeth. Ond yn ôl i’r Adran Gymraeg yr aeth ac aros yno yn Athro a Phennaeth yr Adran tan iddo ymddeol yn 1952. Mae’n bosibl fod ‘ysbryd Aber’ wedi gafael ynddo yn fwy di-ildio nag yr oedd ef ei hun erioed wedi’i ddychmygu.
Rhanwch sut mae Aber yn Gafael arnoch chi yma.