Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth yn arwain yn yr Wcrain
Neuadd Gyngerdd Glinka, Zaporozhye, Wcrain
30 Ionawr 2019
Bydd Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth yn arweinydd gwadd ar un o gerddorfeydd symffoni mwyaf blaenllaw'r Wcráin mewn cyngerdd yn y wlad ddydd Gwener 1 Chwefror 2019.
Bydd Dr David Russell Hulme, sydd wedi arwain yn rhyngwladol, yn arwain Cerddorfa Symffoni Zaporozhye mewn perfformiad yn Neuadd Gyngerdd Glinka yn Zaporozhye, Wcrain.
Dywedodd Dr Hulme: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn gwahoddiad i arwain Cerddorfa Symffoni Zaporozhye. Bydd rhaglen y noson yn cynnwys cerddoriaeth Brydeinig, gan gynnwys darn enwog Elgar ‘Enigma Variations’ a gweithiau gan Vaughan Williams, Hamilton Harty a Richard Rodney Bennett.
“Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r gerddorfa symffoni ar beth sydd, iddyn nhw’n gerddoriaeth anghyfarwydd a newydd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at uchafbwynt yr wythnos; perfformiad cyhoeddus nos Wener yn neuadd gyngerdd y ddinas.”
Penodwyd Dr Hulme yn Gyfarwyddwr Cerdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1992.
Mae’n awdurdod ar Gilbert a Sullivan a galw amdano fel arweinydd, ac mae wedi arwain yn rhai o neuaddau Prydain, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, yr UDA a Canada.
Dyma’r tro cyntaf iddo arwain yn yr Wcrain.