I fyny bo’r nod: personal, civic and spiritual ambition in late-Victorian Wales
20 Tachwedd 2018
Uchelgais, cysyniad a ddaeth yn “obsesiwn” gan y Cymry tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fydd pwnc darlith gyhoeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2018.
Traddodir ‘I fyny bo’r nod: personal, civic and spiritual ambition in late-Victorian Wales’gan y Dr Robin Chapman, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Yn ei ddarlith bydd Dr Chapman yn olrhain gwreiddiau ‘uchelgais’, y canwyd englynion dirifedi iddo, ac a ddaeth yn bwnc cystadlaethau eisteddfodol a thestun pregethau ac anerchiadau, mewn perthynas â phynciau mor amrywiol â diwinyddiaeth ac iechyd, datblygiad ffuglen a thwf Rhyddfrydiaeth.
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am 7:00 yr hwyr, a derbyniad o 6:30 yr hwyr.
Cadeirydd y sesiwn fydd yr Athro Paul O’Leary o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth, a Chymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a bydd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas yn bresennol.
Mae Dr Robin Chapman yn darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth er 2003, yn dilyn cyfnod fel athro ysgol yn Swydd Efrog ac yn gweithio cyn hynny, ymhlith pethau eraill, ar Eiriadur yr Academi Gymreig.
Mae'n awdur sawl cyfrol, gan gynnwys cofiannau i W. J. Gruffydd, Ambrose Bebb, Islwyn Ffowc Elis ac Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (2006).
Enillodd DLitt yn 2004 am ddetholiad o'i waith cyhoeddedig. Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng c.1740 a 2005 ar gyfer cyfres The Oxford Literary History of Wales, dan y teitl amodol A Troubled Heritage.
Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 er mwyn cydnabod a chynrychioli rhagoriaeth a hyrwyddo ysgolheictod ac ymchwil yng Nghymru wrth werthfawrogi’r dimensiwn cenedlaethol a bydol. Mae ganddi fwy na 500 o Gymrodyr a etholwyd mewn cydnabyddiaeth o’u rhagoriaeth academaidd.