Dysgu Myfyrwyr – Camu ymlaen; Cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu Prifysgol Aberystwyth

Chwith i’r Dde: Rheolwr Grŵp E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth Kate Wright, Oliver Wood, Athro Jonathan Shaw a Thamu Dube o’r Distuptive Media Learning Lab, Prifysgol Coventry, a Dr James Woolley, Arweinydd Thema, Gwella & Ymgysylltu E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth a threfnydd y gynhadledd dysgu ac addysgu.

Chwith i’r Dde: Rheolwr Grŵp E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth Kate Wright, Oliver Wood, Athro Jonathan Shaw a Thamu Dube o’r Distuptive Media Learning Lab, Prifysgol Coventry, a Dr James Woolley, Arweinydd Thema, Gwella & Ymgysylltu E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth a threfnydd y gynhadledd dysgu ac addysgu.

11 Medi 2018

Blwyddyn wedi iddi ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu gan The Times a’rSunday Times Good University Guide 2018, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yr wythnos hon ar sut i wella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Trefnir Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth (AUTEL) gan Dîm E-ddysgu’r Brifysgol, o ddydd Mawrth 11 i ddydd Iau 13 Medi 2018.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae’r digwyddiad yn gyfle i rannu’r datblygiadau diweddaraf ac arfer da ym maes dysgu ac addysgu.

Ym mis Mehefin 2018 dyfarnwyd Gwobr Aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) i Brifysgol Aberystwyth, a thema’r gynhadledd eleni yw ‘Dysgu Myfyrwyr – Camu ymlaen’, sy’n canolbwyntio ar dri pheth: Dysgu ac Ymgysylltu Annibynnol; Pontio; a pherchnogaeth y Myfyrwyr o’u dysgu.

Lleolir y gynhadledd yn Adeilad Llandinam ar gampws Penglais. Cafodd ei hagor gan yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyriwr) a Megan Hatfield, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Prif siaradwr y gynhadledd eleni oedd yr Athro Jonathan Shaw o’r Distuptive Media Learning Lab, Prifysgol Coventry.

Disgrifiwyd y labordy fel pwll tywod a deorfa i arferion dysgu ac addysgu arbrofol ac archwiliadol, sydd yn cynnull tîm amlddisgyblaethol o gydweithwyr a defnyddwyr ehangach i gymell i feddwl yn greadigol a dulliau radical mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu addysg uwch.

Bu’r Athro Shaw yn trafod sut mae’r labordy yn canolbwyntio ar ddulliau prif ffrwd ag amgen i dechnolegau a sut maent yn cael eu harchwilio a’u haddasu tuag at ddatblygu cysyniad mwy hybrid ac agored tuag at ddysgu ac addysgu er mwyn ateb anghenion a disgwyliadau ehangach rhanddeiliaid.

Yn ymuno â’r Athro Shaw mae ei gydweithwyr o’r Disruptive Media Learning Lab, Oliver Wood a Thamu Dube sydd yn arwain sesiynau ar y defnydd o LEGO ar gyfer dysgu, a sut i gefnogi myfyrwyr sydd am fod yn gyfranogwyr gweithgar i’r We ac adeiladu’r cymwyseddau hanfodol sydd eu hangen ar raddedigion sy’n gweithio a byw mewn byd hyper-gysylltiedig.

Dywedodd yr Athro Tim Woods: “Unwaith eto mae cynhadledd flynyddol AUTEL yn cynnig syniadau dysgu ac addysgu heriol, arloesol ac amrywiol. Mae’r uchafbwyntiau eleni yn cynnwys cyflwyniadau gan Disruptive Media Learning Lab Prifysgol Coventry a’r cysylltiadau gan Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae’r gynhadledd yn gyfle i arddangos yr arferion addysgu rhagorol sy’n parhau i ysbrydoli myfyrwyr a staff ar draws yr adrannau yn Aberystwyth; ac rwy’n hyderus y bydd addysgu ac arferion cyfranogwyr yn cael eu bywiogi, a’u gorwelion yn cael eu hymestyn.”

Dywedodd trefnydd y gynhadledd ac Arweinydd Thema Gwella ac Ymgysylltu E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth, Dr James Woolley: “Mae Cynhadledd Flynyddol Technoleg Dysgu yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr y Brifysgol erbyn hyn. Mae’n ddathliad o’r gweithgaredd addysgu a dysgu amrywiol sy’n digwydd ar draws y Brifysgol ac yn gyfle i staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o’r Brifysgol i ddod at ei gilydd i’w rhannu mewn cymuned o arferion enghreifftiol. Y nod gyda thema’r gynhadledd eleni yw adlewyrchu ymrwymiad staff Prifysgol Aberystwyth i ddarparu profiad addysgol o’r radd flaenaf.”

Mae'r gynhadledd yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac mae'n agored i bob aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n cyfrannu at y dysgu a’r addysgu.

Mae rhaglen lawn cynhadledd AUTEL 2018, gan gynnwys crynodebau ar gyfer pob sesiwn ar gael i'w lawr lwytho yma neu oddi ar ApAber. Mae modd hefyd dilyn y gynhadledd ar twitter #AUTEL18.

Mae croeso i staff nad ydynt wedi cofrestru ymlaen llaw i fynychu’r gynhadledd. Gofynnir iddynt gofrestru yn swyddfa’r gynhadledd (B20) ar y diwrnod.

Rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â Thîm y Gynhadledd drwy ebost
elearning@aber.ac.uk / eddysgu@aber.ac.uk