Cydnabyddiaeth i aelod staff Prifysgol Aberystwyth am ei chyfraniad i fywyd LGBT+

Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth

Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth

06 Medi 2018

Mae aelod o staff Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth wedi’i henwi’n un o 40 person mwyaf dylanwadol LGBT+ yng Nghymru.

Disgrifir Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chyfle Cyfartal fel “seren ddisglair” yn Rhestr Binc WalesOnline sy’n dathlu cyfraniadau’r bobl at fywyd LGBT+ yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Ruth yn cydlynu Enfys Aber, rhwydwaith lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol staff Prifysgol Aberystwyth.

Sefydlodd Ruth Aberration hefyd, a gefnogir gan y Brifysgol ac sy’n cynnal rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau LGBT+ yng nghanolbarth Cymru.

Yn 2018, bu Enfys Aber yn cyd-weithio gyda’r grŵp cymunedol SpringOut er mwyn mynd ag Aberration ar daith, y cyntaf o’i math o amgylch Cymru.

Roedd y rhaglen yn cynnwys perfformiadau yn yr L Festival yn Llandudno, yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Galeri Caernarfon.

Mae’r Rhestr Binc, sydd yn ei phedwaredd blwyddyn, yn cael ei ddewis gan banel o bobl o gymuned yr LGBT+, aelodau Pride Cymru a staff WalesOnline. Yn 2018, cynigwyd enwebiadau am y tro cyntaf gan ddarllenwyr WalesOnline.

Dywedodd Ruth: “Mae’n anrhydedd cael fy nghydnabod fel hyn, ac mae’n gyfle gwych i hyrwyddo’n ehangach y gymuned LGBT+ yng nghanolbarth Cymru. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r sawl gwnaeth fy enwebu ac i’r rhai gwnaeth fy newis. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr – am gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r gymunedqueer yng Nghymru!”

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies: “Estynnwn ein llongyfarchiadau mwyaf i Ruth ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hyn o’i chyfraniad a’i hymrwymiad i hyrwyddo amrywioldeb. Fel sefydliad, mae Prifysgol Aberystwyth yn meithrin amgylchedd cynhwysol sy’n cydnabod ac yn croesawu amrywioldeb ein cymuned.

“Mae’r diwylliant hwn o barch yn cael ei adlewyrchu yn ein safle diweddaraf ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall lle cyhoeddir fod y Brifysgol yn un o’r 100 cyflogwr gorau yn y DU am gynhwysoldeb yn y gweithle. Rydym hefyd wedi ein henwebu am Wobr sector cyhoeddus cydraddoldeb PinkNews 2018, sy’n cydnabod cyfraniadau’r sefydliadau sector cyhoeddus sy’n hyrwyddo cynhwysiad a hawliau cyflogwyr LGBT+ ag eraill yn y gymuned ehangach.”

Yn mis Tachwedd 2017, cynhaliodd y Brifysgol gynhadledd i gefnogi pobl trawsryweddol a’i cyfeillion, y cyntaf o’i math yng Nghymru. Yn ystod y gynhadledd undydd, cafwyd areithiau a gweithdai gan academyddion ac actifyddion trawsrywedd, adnoddau i hysbysu staff proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd am y materion sy’n wynebu pobl drawsryweddol.

Am y trydydd tro, Prifysgol Aberystwyth yw un o prif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 24-26 Awst 2018.