Penodiadau newydd i’r Cyngor

Penodiadau newydd i'r Cyngor o’r Chwith i’r Dde: Yr Athro Syr Ian Diamond; Yr Athro Robin Williams a Samantha Blackie

Penodiadau newydd i'r Cyngor o’r Chwith i’r Dde: Yr Athro Syr Ian Diamond; Yr Athro Robin Williams a Samantha Blackie

31 Gorffennaf 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi penodiad tri aelod annibynnol newydd o gorff llywodraethu'r Brifysgol.

Mae'r Athro Syr Ian Diamond, yr Athro Robin Williams a Samantha Blackie wedi ymuno â Chyngor y Brifysgol a byddant yn cychwyn ar eu swyddi ar 1 Awst 2018, gan wasanaethu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

O dan gadeiryddiaeth Dr Emyr Roberts, mae gan y Cyngor fwyafrif o aelodau annibynnol gan fwyaf o'r sectorau preifat a chyhoeddus er mwyn dod ag ystod o brofiad ac arbenigedd proffesiynol i lywodraethiant y Brifysgol..

Mae'r Athro Syr Ian Diamond yn gorffen ei swydd fel Prifathro ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen ar 31 Gorffennaf 2018 ar ôl deng mlynedd wrth y llyw. Bu’n gadeirydd Adolygiad Llywodraeth Cymru o Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru, a chyhoeddodd ei argymhellion yn 2016. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), Cynllun Rhyngwladol y DU, a Choleg Addysg Bellach Caeredin. Mae hefyd yn Aelod o'r Bwrdd Ymchwil ac Arloesi yn y DU ac Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Yr Athro Robin Williams yw cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe. Bu'n aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o 2009 i 31 Gorffennaf 2018 ac yn gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu. Mae'r Athro Williams yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac fe ddyfarnwyd CBE iddo yn 2004 am ei wasanaeth i addysg uwch. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.

Mae Samantha Blackie yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol corfforaethol, sydd wedi dal swyddi uwch gyda The Royal London Group, cwmni yswiriant bywyd a phensiynau mwyaf y DU, a Grŵp Bancio Lloyds. Mae hi'n Ymddiriedolwr elusen Meningitis Now.

Wrth groesawu'r penodiadau, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Dr Emyr Roberts: 'Mae'r penodiadau hyn yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i'r Cyngor. Rwy'n falch iawn o benodi aelodau o'r safon hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw er budd y Brifysgol hanesyddol hon."

Y Cyngor yw corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol ac mae'n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y Brifysgol yn ogystal ag ymddygiad materion gweinyddol a materion eraill y Brifysgol, yn unol â'i amcanion.