Rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd

03 Gorffennaf 2018

Mae rhaglen arloesol ar gyfer hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei hachredu am gyfnod o bum mlynedd gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Dathlu 100 mlynedd o Ddaearyddiaeth

03 Gorffennaf 2018

Daeth dros 200 o gyn-fyfyrwyr a staff at ei gilydd yn Aberystwyth dros benwythnos 29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2018 i ddathlu canmlwyddiant Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.

Byd Plentyn – Esgidiau newydd, Cyfeiriad Newydd

05 Gorffennaf 2018

Bydd addysgwyr ar draws 89 o wledydd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 11-13 Gorffennaf i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn addysg plant.

Enwi model ExoMars ar ôl arloeswr roboteg y gofod o Brifysgol Aberystwyth

05 Gorffennaf 2018

Mae model maint llawn o grwydryn ExoMars a fydd yn chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn 2021 wedi ei enwi ar ôl arloeswr roboteg y gofod o Brifysgol Aberystwyth.

Cyflogadwyedd graddedigion Aberystwyth yn parhau i godi

06 Gorffennaf 2018

Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio nac erioed o’r blaen.

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld â Neuadd Pantycelyn

09 Gorffennaf 2018

Cafodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru ei thywys o amgylch neuadd breswyl hanesyddol Prifysgol Aberystwyth, Pantycelyn, ddydd Iau 5 Gorffennaf 2018.

Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones

09 Gorffennaf 2018

Bu fawr cyn-bennaeth Adran Hanes Cymru a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones, yn 97 oed.

Olrhain hanes ffilm a sinema yn y Gymru wledig

10 Gorffennaf 2018

Ffilmiau o’r gorffennol a hanes sinemâu yng nghefn gwlad fydd yn cael sylw mewn noson yn Amgueddfa Ceredigion nos Sadwrn 14 Gorffennaf 2018. Drysau yn agor am 7.

Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr 2018

12 Gorffennaf 2018

Mae bardd a dramodydd arobryn, gwe-fentrwr, barnwr blaenllaw ac actores a chantores ymhlith y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Thomas Edison: gweledydd, athrylith neu or dwyllwr?

12 Gorffennaf 2018

Mewn erthygl yn y Conversation mae'r Athro Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru yn herio'r ddelwedd o'r dyfeisiwr athrylithgar diwyd y bu Edison yn gweithio mor galed i'w meithrin. Cyhoeddwyd yr erthygl yn Saesneg.

Prifysgol Aberystwyth i arwain prosiect £3m technoleg geo-ofodol a thechnoleg y gofod yng Nghymru

13 Gorffennaf 2018

Mae menter newydd sydd wedi derbyn cefnogaeth yr UE i helpu cwmniau yng Nghymru i fanteisio ar y farchnad gwybodaeth ddaearyddol yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.

Rhoi hwb i arwyr yr awyr

17 Gorffennaf 2018

Ambiwlans Awyr Cymru a ddewiswyd yn Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2018-19.

Urddo’r hanesydd celf a chyfarwyddwraig amgueddfa yr Athro Ann Sumner yn Gymrawd

17 Gorffennaf 2018

Mae’r hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa yr Athro Ann Sumner wedi cael ei hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Y bardd a dramodydd o Gymru, yr Athro Menna Elfyn, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

17 Gorffennaf 2018

Mae'r bardd a dramodydd uchel ei bri, Menna Elfyn, wedi’i hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

‘Cawr y diwydiant cyfryngau yng Nghymru’ yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

18 Gorffennaf 2018

Mae’r darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru, Euryn Ogwen Williams, wedi cael ei anrhydeddu’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth i gydnabod ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.

Yr actor a’r gantores, Sue Jones-Davies, yn cael ei hanrhydeddu â Gradd Baglor yn y Celfyddydau

18 Gorffennaf 2018

Cyflwynwyd Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i’r actores, cantores a chyn faer Aberystwyth, Sue Jones-Davies.

Mae gwyliau celfyddydol yn fusnes mawr - ond dyw hynny ddim yn golygu eu bod wedi colli eu hysbryd di-ofal

19 Gorffennaf 2018

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Sam Saville, Ymchwilydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, yn trafod a yw masnacheiddio a’i bod nhw bellach yn ddigwyddiadau corfforaethol yn golygu eu bod wedi colli eu hysbryd di-ofal?

Cymrodoriaeth er Anrhydedd i un o arwyr rygbi Cymru

19 Gorffennaf 2018

Mae’r cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol, John Dawes OBE, wedi cael ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddu un o'n prif farnwyr â Chymrodoriaeth

19 Gorffennaf 2018

Mae ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.

Cyflwyno Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Bonamy Grimes MBE, gwe-fentergarwr Skyscanner

19 Gorffennaf 2018

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i’r gwe-fentergarwr, Bonamy Grimes MBE, cyd-sylfaenydd gwefan cymharu prisiau Skyscanner.

Dyfarnu Doethuriaeth er Anrhydedd i’r mentergarwr technoleg, John Thompson

20 Gorffennaf 2018

Yn rhan o ddathliadau’r Graddio eleni, cyflwynwyd gradd Doethur er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth i’r mentergarwr technoleg, John Thompson.

Prifysgol Aberystwyth yn dathlu rhagoriaeth mewn addysgu

20 Gorffennaf 2018

Modiwlau dan arweiniad yr academyddion Dr Adam Vellender, Dr Catherine O'Hanlon, Dr Daniel Low a Dr Stephen Chapman yw enillwyr Gwobrau Cwrs Nodedig Prifysgol Aberystwyth 2017-2018.

Gwobrwyo prosiectau ymchwil ar malaria ac ieithoedd lleiafrifol

20 Gorffennaf 2018

Mae staff sy'n gweithio ar ddau brosiect ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael eu dewis ar gyfer cydnabyddiaeth arbennig yn ystod wythnos graddio 2018.

Gradd er Anrhydedd wedi'i rhoi am waith dyngarol

20 Gorffennaf 2018

Mae cyn-swyddog tân a fu'n trefnu ac arwain 50 taith ddyngarol i ddwyrain Ewrop am ddau ddegawd o leiaf wedi cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau gan Brifysgol Aberystwyth.

Gwyddonydd cyfrifiadureg o Aberystwyth yn esgyn i Oriel Enwogion Technoleg Gwybodaeth

24 Gorffennaf 2018

Mae gwyddonydd ym maes cyfrifiadureg o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi treulio tipyn o'i gyrfa broffesiynol yn hyrwyddo rôl menywod mewn technoleg wedi cael ei anrhydeddu gan wefan newyddion technoleg flaenllaw.

Gwobr John Davies i fyfyrwraig o Aber

26 Gorffennaf 2018

Mi fydd myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn derbyn un o brif wobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.

Gwyddonwyr o Aber i ddilyn clip y lleuad

27 Gorffennaf 2018

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cofnodi'r clip lleuad diweddaraf a fydd yn digwydd heno, nos Wener 27 Gorffennaf 2018.

Aber ar y brig am fodlonrwydd myfyrwyr yng Nghymru

27 Gorffennaf 2018

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2018.

Penodiadau newydd i’r Cyngor

31 Gorffennaf 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi penodiad tri aelod annibynnol newydd o gorff llywodraethu'r Brifysgol.

Consortiwm rhyngwladol i ddatblygu prawf am y TB buchol

20 Gorffennaf 2018

Mae gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm rhyngwladol newydd a sefydlwyd i ddatblygu prawf newydd am y diciâu mewn gwartheg - twbercwlosis buchol.