Gwobrwyo prosiectau ymchwil ar malaria ac ieithoedd lleiafrifol
Cafodd gwobrau am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil eu cyflwyno gan yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, i’r Dr Andy Hardy o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystod seremoni graddio ddydd Gwener 20 Gorffennaf 2018.
20 Gorffennaf 2018
Mae staff sy'n gweithio ar ddau brosiect ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael eu dewis ar gyfer cydnabyddiaeth arbennig yn ystod wythnos graddio 2018.
Cafodd y wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil Gwyddoniaeth ei chyflwyno i Dr Andy Hardy o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ar gyfer prosiect sy'n defnyddio drôns yn y frwydr fyd-eang yn erbyn malaria.
Cyflwynwyd y wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am eu gwaith yn bwydo i drafodaethau polisi cyfoes ar ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg.
Sefydlwyd y gwobrau gan yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure i gydnabod llwyddiant staff sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil er budd ehangach cymdeithas ac fe gafodd yr enillwyr cyntaf eu hanrhydeddu yn ystod seremoni graddio olaf 2018 ddydd Gwener 20 Gorffennaf.
Adfywio Ieithoedd Lleiafrifol
Mae’r Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio ar brosiectau ymchwil ar adfywio ieithoedd lleiafrifol.
Dywedodd Dr Elin Royles, sy’n Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Mae ymateb i'r dirywiad byd-eang mewn amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yn her fyd-eang gynyddol sy'n ennyn sylw ymgyrchwyr amrywiol a llunwyr polisi fel ei gilydd. Fel rhan o’n gwaith yn y maes hwn rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Caeredin, gan sefydlu rhwydwaith sy'n dod ag ystod o ysgolheigion gwahanol ac ymarferwyr polisi ynghyd. Ar sail y trafodaethau hyn, ein prif nod yw adnabod gwersi allai gynorthwyo llunwyr polisi nid yn unig yng Nghymru ond hefyd mewn gwledydd eraill sydd ynghlwm â hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol."
Dywedodd Dr Huw Lewis, sy’n Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Un o'r cwestiynau mawr i ni yw i ba raddau mae'r rhai sy'n ymwneud â datblygu a llunio polisïau i adfywio ieithoedd lleiafrifol yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i'r newidiadau byd-eang yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau heddiw a goblygiadau’r trawsnewidiadau yma ar gyfer ymdrechion i adfywio ieithoedd lleiafrifol.”
Dywedodd Dr Catrin Wyn Edwards, sy’n Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn arbenigo yn benodol ar oblygiadau mewnfudo rhyngwladol i gymunedau iaith lleiafrifol: "Mae Cymru yn enghraifft amlwg o'r ymdrechion i ymateb i'r her fyd-eang o adfywio iaith leiafrifol, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Trwy ein gwaith ymchwil, ein nod yw adnabod gwersi a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi yng Nghymru a thu hwnt."
Mae hwn yn brosiect dwy flynedd sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
Mapio Malaria
Yn ddarlithydd ym maes synhwyro o bell a GPS yn Aberystwyth, mae’r Dr Andy Hardy yn arwain prosiect ar Ynys Zanzibar sy’n defnyddio drôns i fapio dyfroedd megis afonydd, corsydd a chaeau reis lle mae mosgitos sy'n cario malaria yn dodwy wyau ac yn bridio.
Caiff delweddau o'r drôn eu lanlwytho i ap ar ffôn clyfar sy'n galluogi aelodau o'r gymuned leol i nodi'n union ble i roi larfa-laddwr ag iddo lefel isel o wenwyndra a difa larfa’r mosgito lle mae’n tarddu.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Dr Hardy: "Menter sy’n cael ei harwain gan aelodau’r gymuned yw hon gyda'r nod o leihau'r boblogaeth o fosgitos sy’n cario malaria a thrwy hynny leihau nifer yr achosion o’r haint led led Zanzibar, gan gyfrannu at ymdrechion yr ynys i waredu malaria unwaith ac am byth. Y gobaith yw y gallwn gymryd y fethodoleg hon a'i defnyddio ar draws cyfandir Affrica i’r de o Sahara y byd er mwyn cael effaith go iawn ar malaria, sy’n lladd mwy o bobl yn fydean nag unrhyw glefyd arall bron."
Caiff y prosiect ei ariannu gan gonsortiwm Innovative Vector Control, cwmni di-elw sy’n cael ei gefnogi gan Sefydliad Bill a Melinda Gates, UK Aid a mudiadau eraill.