Anrhydeddu un o'n prif farnwyr â Chymrodoriaeth

Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC, Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth

Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC, Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth

19 Gorffennaf 2018

Mae ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.

Ganed i deulu ffermio yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd ym Mhowys, aeth ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC i Ysgol Uwchradd y Drenewydd a Choleg Addysg Bellach Maldwyn.

Daeth i Aberystwyth i astudio'r Gyfraith ac aeth ymlaen wedyn i Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt, i wneud gradd Meistr cyn astudio am arholiadau'r bar yn Ysbyty Gray.

Aeth yn ddisgybl fargyfreithiwr yn y Siambrau yn 34 Park Place (9 Park Place wedyn) yng Nghaerdydd. Aeth ymlaen i ymarfer o'r siambrau hynny am y 27 o flynyddoedd wedi hynny, gan ddatblygu arbenigedd mewn achosion busnes ac eiddo, cynlluniau a'r gyfraith gyhoeddus; nes dod yn Bennaeth y Siambrau yn y pen draw.

Daeth yn un o Gofiaduron yn Llys y Goron yn 2000 wedi'i bennu i Gylchdaith Cymru a Chaer, a fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2001.

Penodwyd ef yn Farnwr Siawnsri Arbenigol i Gymru yn 2007, ac mae hefyd yn eistedd fel barnwr yr Uchel Lys yn Adran Mainc y Frenhines, y Llys Gweinyddol ac fel Barnwr yr Uwch Dribiwnlys.

Cafodd ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC ei gyflwyno gan Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Gorffennaf 2018. Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y traddodwyd ef ynddi.

Cyflwyniad i'w Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC gan Gwerfyl Pierce Jones:

Ganghellor, Is-Ganghellor, a chyfeillion y mae’n bleser o’r mwyaf gennyf gyflwyno’r Anrhydeddus Farnwr, Milwyn Jarman CF, i’w urddo’n Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor and friends it is a great pleasure for me to introduce His Honour, Judge Milwyn Jarman QC, as a Fellow of Aberystwyth University.

Brodor o Lanllwchaearn ger y Drenewydd yw Milwyn Jarman. Fe’i magwyd ar fferm, yr ieuengaf  o bump o frodyr. Nid oedd modd i’r pump ymarfer crefft hynaf dynol ryw, ac yn achos Milwyn roedd hynny’n fendith gan iddo roi’i fryd erioed ar fod yn fargyfreithiwr. Roedd Aberystwyth yn ddewis amlwg iddo ac yma y daeth ym 1975 i astudio dan rai o fawrion y cyfnod: John Andrews, Hywel Moseley a Dafydd Jenkins (y Gyfraith) ymhlith eraill. Aeth ymlaen i Gaer-grawnt i astudio ar gyfer gradd Meistr ac yna i wneud arholiadau ar gyfer y Bar cyn symud i Gaerdydd fel disgybl fargyfreithiwr o dan adain Winston Roddick CF, Cymrawd o’r Brifysgol hon a chyn Is-Lywydd.

Milwyn Jarman is a native of Llanllwchaearn, near Newtown, the youngest of five sons of farmers. His two eldest brothers farmed with their parents but the remaining three had to find alternative paths. And in Milwyn’s case this enabled him to fulfil his lifelong ambition of becoming a barrister. The Aberystwyth Law Department was for him the obvious choice and he graduated in 1978. He pays tribute to many of his teachers at that time: John Andrews, Hywel Moseley, Dafydd Jenkins, John Trice, as well as some of the younger lecturers at the time: including John Williams, Chris Harding and Richard Ireland who has just retired.

After graduating he read for a Master of Law at Sidney Sussex, Cambridge and then for the bar exams, becoming a member of Gray’s Inn where he has since become a Bencher. He proceeded to Cardiff as a pupil barrister in Chambers in Park Place. His pupil master was Winston Roddick QC, also a Fellow of Aberystwyth University and a former Vice-President.

Milwyn practised from his Chambers in Park Place for the next 27 years, eventually becoming Head of Chambers.  He specialised in business and property, planning and public law cases. He became a Recorder of the Crown Court in 2000 and a QC in 2001. He was appointed to the panel of counsel for the Welsh Assembly Government.  He became a full-time judge as the Specialist Chancery Judge for Wales in 2007; he is also authorised to sit in the Technology and Construction Court, and the Commercial Court, now part of the Business and Property Courts in Wales. He also sits as a judge of the High Court in the Queen’s Bench Division, Administrative Court, also as an Upper Tribunal Judge. He is a Diversity and Community Relations Judge, and a tutor judge for the Judicial College; he is the Welsh Judge Member of the Civil Procedure Rules Committee and an advisory editor of Sweet and Maxwell’s Civil Procedure. He serves on the editorial board of the University of Wales Press Public Law of Wales series. He also chairs the Legal Wales Foundation Board, which organises the annual Legal Wales Conference.

Ar nodyn mwy personol rwyf am ychwanegu i Milwyn Jarman gael ei benodi’n Gwnsler Mygedol Cyngor Llyfrau Cymru pan oeddwn i’n Bennaeth a bu’n hael ei gyngor a’i arweiniad i’r sefydliad hwnnw am nifer o flynyddoedd. Pan ddois i i’w adnabod gyntaf nid oedd yn rhugl yn y Gymraeg er ei fod yn ymddiddori’n fawr yn yr iaith a’i diwylliant. Erbyn heddiw mae ganddo’r hyder i wrando ar achosion trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac roedd yn arbennig o falch o’r gwahoddiad i draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas y Cyfreithwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015, ei sir enedigol.

He served as Honorary Counsel to the Welsh Books Council for several years during my time at the helm and it was during this period that he began to learn Welsh in earnest. His commitment was never in doubt and it was really just a matter of confidence. The Books Council is just one of a number of organisations which have benefited from his sound advice and support. He is also a governor of Christ College Brecon.

He once quipped that he opted for law rather than farming as ‘it seemed like less work’ (his words). I suppose that’s a matter of opinion! However, he does find the time to enjoy sport, and is a keen follower of Wales rugby and football teams, and especially Cardiff City FC which hasn’t done too badly in recent months! He enjoys walking and cycling and has a passion for skiing. In April he and a number of his fellow judges cycled from Brecon to Cardiff to raise money for a charity known as PSU which gives help to litigants who cannot afford legal representation.

But the Law is all around him! His partner Nicola is also a judge, and he has three children: Rebecca, Thomas, and David. David graduated in Aberystwyth in Criminology and Psychology.

Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw Milwyn Jarman wedi gwireddu ei freuddwyd i gyrraedd yr uchelfannau ym myd y gyfraith.

Ganghellor: Y mae’n bleser ac yn fraint i gyflwyno’r anrhydeddus Farnwr Milwyn Jarman i chi i’w urddo’n Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Chancellor: It is indeed an honour and a pleasure to present to you His Honour, Judge Milwyn Jarman as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actor a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.

 

AU31618