Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr 2018

Lance Batchelor, Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC, a dderbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn 2017.

Lance Batchelor, Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC, a dderbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn 2017.

12 Gorffennaf 2018

Mae bardd a dramodydd arobryn, gwe-fentrwr, barnwr blaenllaw ac actores a chantores ymhlith y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Wythnos Raddio 2018 dros bedwar diwrnod, o ddydd Mawrth 17 tan ddydd Gwener 20 Gorffennaf, yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Caiff chwe Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.

Yn ogystal, bydd dwy radd Baglor Er Anrhydedd yn cael eu cyflwyno.  Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Heb amheuaeth, graddio yw uchafbwynt calendr y Brifysgol; cyfle i ddathlu llwyddiannau ein graddedigion ac i groesawu eu cefnogwyr i Aberystwyth.  Mae hefyd yn gyfle i anrhydeddu campau’r unigolion hynny sydd wedi rhagori yn eu maes, drwy gyflwyno Cymrodoriaethau Er Anrhydedd.

“Byddwn hefyd yn dathlu cyfraniadau aelodau o’n cymuned leol. Edrychwn ymlaen at gydnabod cyfraniadau aruthrol gŵr sydd wedi trefnu ac arwain hanner cant o deithiau dyngarol i gynorthwyo dioddefwyr rhyfel, ac actores a chantores sydd wedi perfformio ar lwyfan, teledu, ffilm a radio dros bum degawd, gyda Gradd Baglor Er Anrhydedd.

Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2018 yw (yn y drefn y’u cyflwynir):

Ann Sumner

Bu'r hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa, yr Athro Ann Sumner yn Bennaeth ar Gelfyddyd Gain yn Amgueddfa Cymru rhwng 2000 a 2007, ac yn Gyfarwyddwraig ac Athro yn y Celfyddydau Cain ac Ymarfer Curadurol yn Sefydliad Celfyddydau Cain Barber ym Mhrifysgol Birmingham rhwng 2007 a 2012, cyn iddi gael ei phenodi'n Bennaeth Cysylltiadau Diwylliannol ym Mhrifysgol Leeds. Fe'i haddysgwyd yn Sefydliad Celf Courtauld, Prifysgol Llundain, cyn gwneud ei Doethuriaeth yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Cychwynnodd ar ei gyrfa yn yr Oriel Portreadau Cenedlaethol yn Llundain, ac aeth ymlaen i guradu yn Oriel Gelf Whitworth, Prifysgol Manceinion, Oriel Luniau Dulwich, Ymddiriedolaeth Plas Harewood ac Amgueddfa Holburne, Prifysgol Caerfaddon. Fe'i penodwyd yn Gadeirydd Casgliad Celf Fodern y Methodistiaid yn ddiweddar.

Bydd yr Athro Ann Sumner yn cael ei chyflwyno yn ystod Seremoni 1, fore Mawrth 17 Gorffennaf gan yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf.

Menna Elfyn

Mae'r bardd a dramodydd uchel ei bri, yr Athro Menna Elfyn, ymhlith ein llenorion pennaf. Mae'n ysgrifennu ers pum degawd erbyn hyn, yn trafod y Gymraeg a hunaniaeth Gymreig ag angerdd. Mae ganddi bedair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth wedi'u cyhoeddi, yn ogystal â llyfrau plant, blodeugerddi, dramâu llwyfan, addasiadau a sgriptiau teledu, dramâu radio, libreti a sawl rhaglen ddogfen i'r teledu. Mae ei gwaith hi wedi'i gyfieithu'n fwy na'r un bardd Cymraeg arall, i fwy nag ugain iaith. Hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2002-03. Yr Athro Menna Elfyn yw Cyfarwyddwraig Rhaglen Gradd Meistr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn Gymrawd Llenyddol ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd yr Athro Menna Elfyn yn cael ei chyflwyno yn ystod Seremoni 2, brynhawn Mawrth 17 Gorffennaf gan Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Euryn Ogwen Williams

Mae Euryn Ogwen Williams yn ddarlledwr profiadol ac yn ffigur o bwys yn y cyfryngau yng Nghymru. Fe'i magwyd yn y Coed-llai ger yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor, mewn Athroniaeth a Seicoleg. Rhwng 1964 a 1981 fe fu'n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr ar ystod eang o raglenni i'r BBC, ITV ac yn annibynnol. Pan sefydlwyd S4C yn 1982, ef oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol o 1988 tan 1991. Ym mis Mawrth 2018 arweiniodd adolygiad annibynnol ar S4C ar ran Ysgrifennydd Gwladol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ac ysgrifau lu ar sefyllfa gyfnewidiol y cyfryngau. Mae'n darlithio ac yn cynghori am y cyfryngau ac yn cyfrannu at raglenni teledu a radio. 

Bydd yr Euryn Ogwen Williams yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni 3, fore Mercher 18 Gorffennaf gan Dr Jamie Medhurst o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

John Dawes

Enillodd John Dawes OBE, y cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi, ei gap cyntaf i Gymru yn 1964 yn 23 oed.  Ac yntau hefyd yn gyn-fyfyriwr Aberystwyth (Cemeg, 1962), aeth ymlaen i ennill 21 cap arall dros y degawd canlynol - a bu'n Gapten ar y tîm chwe gwaith; gan gynnwys tîm Camp Lawn 1971.  Yn 1971 ef oedd Capten ar daith y Llewod i Seland Newydd - y tîm cyntaf i ennill cyfres yn Seland Newydd, a'r unig dîm i wneud hynny hyd heddiw. Ar ôl ymddeol o'r maes chwarae, bu'n hyfforddwr ar dîm Cymru o 1974 i 1979, gan ennill Coron Driphlyg y Pum Gwlad bedair gwaith mewn pum mlynedd, gan gynnwys dwy Gamp Lawn. Ef hefyd oedd hyfforddwr taith y Llewod i Seland Newydd yn 1977. Cafodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 1972 am ei wasanaethau i chwaraeon. Mae ganddo record hynod falch i unrhyw Gymro - ni chollodd erioed i dîm Lloegr, fel chwaraewr nac fel hyfforddwr.

Bydd John Dawes yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni 4, brynhawn Mercher 18 Gorffennaf gan Dr Rhys Thatcher o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Milwyn Jarman

Ganed ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC i deulu ffermio yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd ym Mhowys. Ar ôl mynd i Ysgol Uwchradd y Drenewydd a Choleg Addysg Bellach Maldwyn, daeth i Aberystwyth i astudio'r Gyfraith. Aeth ymlaen i Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt, i wneud gradd Meistr cyn astudio am arholiadau'r bar yn Ysbyty Gray. Aeth yn ddisgybl fargyfreithiwr yn y Siambrau yn 34 Park Place (9 Park Place wedyn) yng Nghaerdydd. Aeth ymlaen i ymarfer o'r siambrau hynny am y 27 o flynyddoedd wedi hynny, gan ddatblygu arbenigedd mewn achosion busnes ac eiddo, cynlluniau a'r gyfraith gyhoeddus; nes dod yn Bennaeth y Siambrau yn y pen draw. Daeth yn un o Gofiaduron yn Llys y Goron yn 2000 wedi'i bennu i Gylchdaith Cymru a Chaer, a fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2001. Penodwyd ef yn Farnwr Siawnsri Arbenigol i Gymru yn 2007, ac mae hefyd yn eistedd fel barnwr yr Uchel Lys yn Adran Mainc y Frenhines, y Llys Gweinyddol ac fel Barnwr yr Uwch Dribiwnlys.

Bydd ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni 5, fore Iau 19 Gorffennaf gan Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Bonamy Grimes

Magwyd y gwe-fentrwr Bonamy Grimes MBE yma yn y gorllewin, ac aeth i Ysgol Gyfun Aberaeron, lle'r oedd ymhlith y flwyddyn gyntaf o ddisgyblion i astudio cyfrifiadureg ar y safonau cyffredin ac uwch - sef lefel O a lefel A - yn y 1980au. Aeth yn ei flaen i fod yn un o sefydlwyr gwefan cymharu prisiau hedfan o'r enw Skyscanner, yn gweithio o'i atig yn Llundain ar ddechrau 2002. Ers hynny mae'r cwmni wedi tyfu i fod y cwmni chwilio teithio mwyaf yn y byd, a chanddo fwy na 700 o staff a swyddfeydd bedwar ban byd. Cafodd MBE am wasanaethau i dechnoleg a theithio yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2016. Ym mis Tachwedd 2016 gwerthwyd Skyscanner i’r asiant deithio ar-lein Ctrip am £1.4 biliwn. Ar ôl ildio awenau gwaith rheoli'r cwmni bob-dydd, mae Bonamy erbyn hyn yn mentora sawl busnes newydd ym Mhrydain ac mae'n ymwneud ag ystod o brosiectau elusennol. 

Bydd Bonamy Grimes yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni 6, brynhawn Iau 19 Gorffennaf gan Dr Bernie Tiddeman, Pennaeth Adran Cyfrifiadureg.

Doethuriaeth er Anrhydedd

John Thompson

Graddiodd John Thompson o Aberystwyth mewn Cyfrifiadureg yn 1992, a dechreuodd ar ei yrfa mewn ymchwil technegol yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn 2001 roedd yn un o sefydlwyr Commerce Decisions Ltd lle y bu'n Brif Swyddog Gweithredol, gan gydweithio'n agos â'i frawd Ian (a raddiodd o Aberystwyth mewn Astudiaethau Busnes) i greu meddalwedd i helpu cwsmeriaid ledled y byd i ymgymryd â phrosiectau caffael cymhleth. Mae'r feddalwedd wedi'i defnyddio mewn 12,000 o brosiectau, gwerth £265bn gyda'i gilydd. Gwerthodd John y cwmni i QinetiQ plc ym mis Hydref 2008 mewn cytundeb gwerth £12m. Yn 2012 creodd UserReplay Limited, sef technoleg i helpu perchnogion gwefannau i ddeall a datrys materion sy'n achosi rhwystredigaeth i gwsmeriaid. Erbyn hyn mae'n gadeirydd ac yn ymgynghorydd i sawl cwmni technoleg sydd ar gamau cynnar eu datblygiad.

Bydd John Thompson yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni 6, brynhawn Iau 19 Gorffennaf gan yr Athro Qiang Shen, Cyfarwyddwr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg.

Graddau Baglor er Anrhydedd

Sue Jones-Davies

Graddiodd Sue Jones-Davies o Brifysgol Bryste yn 1971, a daeth yn actores a chantores. Mae wedi gweithio ym meysydd y teledu, ffilm, radio a'r theatr, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ar y llwyfan bu'n rhan o gynhyrchiad gwreiddiol Jesus Christ Superstar yn Llundain.  Ar y teledu mae hi wedi actio yn How Green was My Valley, y gyfres ITV Rock Follies, a chwaraeodd ran Megan Lloyd George yng nghyfres y BBC The Life and Times of David Lloyd George.  Mae ei hymddangosiadau mwyaf nodedig ar ffilm yn cynnwys Monty Python’s Life of Brian (1979) a Solomon a Gaenor (1999) a gafodd enwebiad am Oscar am y Ffilm Orau mewn Iaith Dramor.  Yn y 1970au canai gyda The Bowles Brothers Band, ac erbyn hyn mae'n canu yn y band acwstig Cusan Tân.  Mae'n dysgu ioga ym mro Aberystwyth, lle y mae'n rhan o'r grŵp Yoga i Bawb, sy'n ymdrechu i ddod ag ioga i bob rhan o'r gymuned. Mae'n gynghorydd dref i Blaid Cymru a bu'n Faer Aberystwyth yn 2008-2009. 

Cyflwynir Gradd er Anrhydedd yn y Celfyddydau i Sue Jones-Davies yn ystod Seremoni 3, fore Mercher 18 Gorffennaf gan Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Eric Harries

Ac yntau'n gyn-Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, bu Eric Harries yn trefnu ac arwain 50 taith ddyngarol o Aberystwyth i Fosnia, Croatia, Belarws a Romania dros 18 mlynedd rhwng 1994 a 2013. Teimlai nad oedd ganddo ddewis ond cynorthwyo pobl gyffredin a ddioddefai oherwydd rhyfeloedd, a dechreuodd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned leol a'r cyfryngau am yr angen taer am gymorth dyngarol a chyflenwadau, gan gydlynu gwaith casglu a chodi arian ar draws Ceredigion. Wedyn defnyddiai ei wyliau blynyddol i yrru ei fan ar y daith 3,500 milltir i fynd â bwyd, a deunydd ymolchi a meddygol i'r ardaloedd a ddioddefai oherwydd y rhyfela. Mae ei ymdrechion dyngarol wedi gwella nifer dirifedi o fywydau.

Cyflwynir Gradd er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Eric Harries yn ystod Seremoni 7, fore Gwener 20 Gorffennaf gan Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Meic Stephens

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.