Cyflogadwyedd graddedigion Aberystwyth yn parhau i godi
06 Gorffennaf 2018
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio nac erioed o’r blaen.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod 96.8% o raddedigion gradd gyntaf amser llawn Aberystwyth o’r DU/UE naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio mis Gorffennaf 2017.
Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd ddydd Iau 28 Mehefin 2018 fel rhan o arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch blynyddol yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn gosod Aberystwyth 2.2 pwynt canran ar y blaen i gyfartaledd y sector yn gyffredinol.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod 99% o raddedigion Aberystwyth sydd wedi astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg mewn swyddi chwe mis ar ôl graddio yn 2017.
Dengys data Aberystwyth hefyd bod 78.2% o raddedigion gradd gyntaf amser llawn Aberystwyth o’r DU/UE mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach mewn swyddi o safon broffesiynol neu’n parhau gyda’u hastudiaethau ar safon raddedig.
Yn ogystal mae rhai perfformiadau nodedig ymhlith adrannau academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae 100% o raddedigion 2017 y Gymraeg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl cwblhau eu cwrs, a 99.4% o raddedigion Hanes a Hanes Cymru a 98.2% o raddedigion Cyfrifiadureg.
Ac mae tair-adran-ar-ddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi perfformio yn well na chyfartaledd y sector am y myfyrwyr sydd naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Ein bwriad ym Mhrifysgol Aberystwyth yw galluogi ein myfyrwyr i ddatgloi eu potensial a datblygu fel dysgwyr annibynnol mewn cymuned ddwyieithog gefnogol a chreadigol. Mae eu paratoi at y daith y tu hwnt i brifysgol a rhoi iddynt y sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt yn rhan annatod o’r profiad yr ydym yn ei gynnig, wrth i ni ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws ein ystod o raglenni gan gynnwys cyfleoedd profiad gwaith, gwirfoddoli, profiadau rhyngwladol, a sgiliau trosglwyddadwy eraill. Mae’r elfennau hyn oll yn ychwanegu at werth rhagorol gradd o Brifysgol Aberystwyth, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd gan HESA.”
Ymysg y rhai a dderbyniodd dystysgrif gradd o Brifysgol Aberystwyth mis Gorffennaf 2017 y mae Sean Anderson (BSc Cyfrifiadureg) a Charlotte McKenna (BSc Gwyddorau Daear Amgylcheddol).
Ar ôl graddio, ymunodd Sean ag ymgyngoriaeth Filament yn Llundain sy’n datblygu Deallusrwydd Artiffisial ac atebion Dysgu Peirianyddol ar gyfer busnesau.
Gan weithio fel Peiriannydd Meddalwedd Dysgu Peirianyddol, mae Sean yn rhan o dîm sy’n adeiladu piblinellau Prosesu Iaith Naturiol a ddefnyddir i ddatblygu’r rhyngweithio rhwng cyfrifiaduron a ieithoedd dynol, a dylunio’r genhedlaeth nesaf o chatbots.
Cyd-gyhoeddodd Sean bapur a dderbyniwyd fel tystiolaeth i Dŷ’r Arglwyddi yn ymwneud â phenderfyniadau, ac ystyriaethau moesegol Deallusrwydd Artiffisial, ac wedi darparu hyfforddiant ar Ddeallusrwydd Artiffisial i fusnesau, gan gynnwys American Express.
Mae Charlotte yn gweithio fel Peiriannydd Diogelwch Amgylcheddol i EDF Energy. Ymunodd â chynllun i raddedigion peirianneg y cwmni ar ôl cwblhau interniaethau haf gyda’r cwmni tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth.
Fel rhan o’r cynllun i raddedigion, mae Charlotte wedi hyfforddi mewn diogelwch radiolegol ac wedi gweithio mewn amryw safle gwaith EDF Energy ar ddiogelwch amgylcheddol, diogelwch radiolegol, diffoddiadau a gweithrediadau.
Ym mis Medi 2018, bydd Charlotte yn gorffen ei chynllun i raddedigion ac yn derbyn swydd llawn amser fel Peiriannydd Diogelwch Amgylcheddol o fewn diogelwch radiolegol.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod cynyddol eang o gyrsiau pedair blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant integredig, sy’n caniatáu i fyfyrwyr dreulio amser yn gweithio i gwmni yn eu dewis faes.
Mae’r cynnig hwn, ochr yn ochr gyda chynllun Blwyddyn Mewn Gwaith y Brifysgol sydd bellach yn ei 41ain blwyddyn, yn golygu bod gan bob myfyriwr y dewis o flwyddyn o brofiad gwaith gwerthfawr cyn graddio.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol hefyd yn darparu ystod gynhwysfawr o gyfleoedd i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu rhagolygon gyrfa, gan gynnwys y lleoliadau gwaith poblogaidd AberYmlaen.
A gall graddedigion sy’n awyddus i wireddu syniadau busnes fanteisio ar raglen lawn o ddigwyddiadau arloesedd sy’n cael eu trefnu gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd fel rhan o raglen AberPreneurs, sydd yn cynnwys y gystadleuaeth syniadau myfyrwyr poblogaidd, InventerPrize.
Ac, ar gyfer y rhai sy'n chwilio am gyngor gan cylch ehangach, mae’r llwyfan ar-lein cyffrous eFentora yn caniatáu i gyn-fyfyrwyr Aber gynnig mentora ac arweiniad i fyfyrwyr presennol a graddedigion ifanc.
Os am wybod mwy am gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i’n tudalennau Cyflogadwyedd ar-lein.