Wythnos Dechrau Busnes 2018
![](/cy/news/archive/2018/05/business-start-up-week---web.jpg)
30 Mai 2018
Os oes gennych syniad busnes yr hoffech ei wireddu, neu os hoffech ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd, fe allai Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth fod yn ddelfrydol i chi.
Yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 4ydd i ddydd Gwener 8fed Mehefin ceir rhaglen o weithdai sgiliau busnes wedi'u seilio ar faterion allweddol sy'n wynebu busnes neu fenter gymdeithasol ar y cychwyn. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Eleni, bydd rhaglen yr Wythnos Dechrau Busnes yn cynnwys sesiynau ar ymchwil i'r farchnad, marchnata, technegau gwerthu, marchnata digidol, darogan a rheoli cyllidol, gwerthu, eiddo deallusol a materion cyfreithiol.
Mae'r amserlen hefyd yn cynnwys tri chyflwyniad gan unigolion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus.
Fel y dywed Tony Orme, Rheolwr Menter y Brifysgol, sydd wedi bod yn gyfrifol am yr Wythnos Dechrau Busnes ers degawd: "Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, bydd hon yn wythnos ddelfrydol ichi.
“Gan ganolbwyntio ar hyfforddi sgiliau busnes hanfodol, bydd y gweithdai rhad ac am ddim yn cynnig ysbrydoliaeth a phrofiad uniongyrchol gan rai sydd wedi mentro'u hunain yn ogystal ag awgrymiadau ac arweiniad ymarferol gan gynghorwyr busnes a staff y Brifysgol.
"Mae'r fformat yn un hyblyg fel y gellir dod i raglen gyflawn o sesiynau, neu ddethol a dewis agweddau sydd o ddiddordeb penodol.
"Mantais ychwanegol dod i'r digwyddiad yw'r cyfle a geir i gwrdd ag unigolion o'r un bryd a chreu rhwydwaith o gefnogaeth i'w ddefnyddio wrth symud eich syniad busnes yn ei flaen.”
Bydd y gweithdai, sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth, yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais.
Mae'r Wythnos Dechrau Busnes yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar un neu fwy o'r gweithdai, cysylltwch ag aberpreneurs@aber.ac.uk.