Ysgrifennydd Addysg yn mynychu Seremoni Raddio'r Brifysgol Haf
25 Awst 2017
Roedd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, yn westai anrhydeddus yn Seremoni Graddio Prifysgol Haf Aberystwyth ar 25 Awst 2017.
Adeilad hynaf Campws Penglais yn ennill statws cofrestredig Gradd II
22 Awst 2017
Mae'r adeilad cyntaf a godwyd ar Gampws Penglais wedi cael statws cofrestredig Gradd II er mwyn ei ddiogelu i'r oesoedd a ddêl.
Un o raddedigion Aber, Rhodri Siôn yw enillydd Gwobr Goffa yr Athro Gwyn Thomas
22 Awst 2017
Dyfarnwyd Gwobr Goffa yr Athro Gwyn Thomas i un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Rhodri Siôn.
Ffrwydryn tir y Dywysoges Diana yn rhan o arddangosfa ym Mhrifysgol Aberystwyth
22 Awst 2017
Ugain mlynedd ers ei marwolaeth, mae replica porslen hynod o ffrwydryn tir wedi’i addurno â delweddau o Diana, Tywysoges Cymru, yn cael ei arddangos yn Oriel yr Ysgol Gelf.
Academydd o Aberystwyth i gynghori'r Cynulliad ar heriau masnach Brexit
18 Awst 2017
Mae Athro o Ysgol Fusnes Aberystwyth yn darparu cyngor ymchwil arbenigol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sut mae Brexit yn debygol o effeithio ar economi Cymru.
Gwyddonwyr solar yn yr Unol Daleithiau i astudio clip yr haul
17 Awst 2017
Mae ymchwilwyr Aberystwyth yn ymuno â thîm rhyngwladol o wyddonwyr solar yn UDA'r wythnos hon wrth iddynt baratoi i astudio clip llwyr diweddaraf yr haul.
Cynigion Clirio ar y cyfryngau cymdeithasol
16 Awst 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf i wneud cynigion i ymgeiswyr yn ystod cyfnod Clirio.
Cynlluniau gradd newydd ar gael yn y Clirio
16 Awst 2017
Mae cwrs tair blynedd mewn creu ffilm yn un o sawl cynllun gradd newydd sbon sydd ar gael trwy’r broses Clirio ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni.
Flashdance yn ffrwydro ar y llwyfan
16 Awst 2017
Bydd y Sioe Gerdd, Flashdance yn ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno (nos Fercher 16 Awst), gyda pherfformiadau tan ddydd Sadwrn 2 Medi.
Cadeirio cyn-fyfyriwr o Aber yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol Môn
11 Awst 2017
Osian Rhys Jones, a raddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn.
Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2017
10 Awst 2017
Am y tro cyntaf erioed, mae gwaith gan un o feirdd amlycaf Twrci’r ugeinfed ganrif wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg.
Cadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth
09 Awst 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi bod Dr Emyr Roberts wedi ei benodi yn Gadeirydd nesaf y Cyngor.
Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a’r 5 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr
09 Awst 2017
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig gyfan, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Mercher 9 Awst 2017.
Teyrngedau i’r Athro Emeritws D J Bowen
08 Awst 2017
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Emeritws D. J. Bowen a fu farw ddydd Iau 3 Awst 2017.
Cyn-fyfyrwyr Aber yn cipio’r Goron
07 Awst 2017
Gwion Hallam, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fôn.
Cyngor Prydeinig yn cymeradwyo cyrsiau dysgu Saesneg rhyngwladol
07 Awst 2017
Mae Canolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn ei hachrediad diweddaraf gan y Cyngor Prydeinig.
O Gymru i Botany Bay: Troseddwyr Benywaidd o Gymru
07 Awst 2017
Bydd hynt y menywod o Gymru yn eu plith yn cael ei drafod gan y ddarlithwraig mewn troseddeg o Brifysgol Aberystwyth, Dr Lowri Cunnington Wynn, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ddydd Mawrth 8 o Awst 2017.
Galw am atgofion o Monty Python
07 Awst 2017
Mae un o eiconau mwyaf hirhoedlog comedi o’r 1970au a’r 1980au, Monty Python, yn ganolbwynt astudiaeth newydd gan Dr Kate Egan, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
01 Awst 2017
Mae gan y Brifysgol raglen lawn hefyd o ddigwyddiadau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn - 4-12 Awst 2017.
Prifysgol Aberystwyth yn brif noddwr Maes B
01 Awst 2017
Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Maes B eleni, wrth i’r llwyfan poblogaidd ddathlu ei benblwydd yn 20 oed.