Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
01 Awst 2017
Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Maes B unwaith eto eleni wrth i’r llwyfan cerddoriaeth poblogaidd ddathlu ei ugeinfed pen-blwydd.
Mae gan y Brifysgol raglen lawn hefyd o ddigwyddiadau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn - 4-12 Awst 2017.
Ymysg y pynciau fydd yn cael eu trafod ar stondin y sefydliad eleni fydd sut gall swigod a mathemateg dorri ar amser teithio, hanes rhai o droseddwyr benywaidd Cymru, yr heriau sydd yn wynebu darparwyr iechyd mewn ardaloedd gwledig, a goblygiadau eira mawr 1947.
Bydd cyfle hefyd i glywed mwy am y cynlluniau cyffrous ar gyfer Neuadd Pantycelyn a’r Hen Goleg Ddydd Llun (7 Awst), ac yn ystod yr wythnos bydd dwy gyfrol newydd yn cael eu lansio -,Perfformio’r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru)ac Evan James Williams (Gwasg Prifysgol Cymru)sydd yn olrhain hanes un o brif wyddonwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif a ddarganfyddodd y meson tra’n gweithio yn y Coleg ger y Lli.
Fore Mawrth bydd y Brifysgol yn lansio gradd gyffrous newydd BA Creu Ffilm sydd wedi ei datblygu gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar y cyd â’r cynhyrchydd ffilm profiadol Huw Penallt Jones sy’n Uwch-Ddarlithydd yn yr Adran.
Brynhawn Mercher bydd cyfle i gyn-fyfyrwyr ddod at ei gilydd ar gyfer yr aduniad blynyddol poblogaidd, ac ar y bore Gwener bydd y stondin yn llwyfan i ddoniau arbennig myfyrwyr presennol y Brifysgol wrth i UMCA ddathlu ei Awr Fawr.
Yn ogystal, bydd dau aelod o staff y Brifysgol yn darlithio yn ystod yr wythnos.
Ddydd Llun 7 Awst am 2 y prynhawn bydd yr Athro Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru yn traddodi darlith ar y pwnc Yn ôl i'r Dyfodol: Gorffennol Newydd y Gell Danwydd yn Cymdeithasau 1.
Ddydd Mawrth 8 Awst am 10:45 y bore yn y Babell Lên bydd Dr Eryn M White o Adran Hanes a Hanes Cymru yn traddodi Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Tros Bedair Gwaith o Gwmpas y Byd: teithiau a gweithiau William Williams Pantycelyn.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser gennym gyflwyno rhaglen lawn o weithgareddau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto eleni. Mae’r rhaglen yn un amrywiol sydd mynd i’r afael â rhai o’r heriau sydd yn wynebu Cymru a’r Gymraeg, yn ogystal â’r difyr a’r ysgafn - rhywbeth at ddant pawb. Fe fydd cyfle hefyd i sgwrsio gyda staff y Brifysgol a chael cyngor ar fywyd prifysgol a’r ystod eang o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd yn cael eu cynnig gennym yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r Ysgoloriaethau Astudio trwy’r Gymraeg newydd fydd ar gael i fyfyrwyr sydd yn dechrau yn Aberystwyth o fis Medi 2018 ac a fydd werth hyd at £250 y flwyddyn i’r myfyriwr. Galwch draw am fwy o fanylion.”
Rhaglen Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Dydd Sadwrn 5 Awst
14:00 Dewch i gael tynnu’ch llun gyda thlws PRO12 Guinness!
Mae’n bleser mawr gallu cadarnhau y bydd y Sglarlets, yn rhan o’u ‘taith tlws’, yn dangos tlws PRO12 Guinness ar ein stondin.
Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â chlwb rygbi’r Sgarlets, yn hybu ‘Menter Bwyta’n Iach.
Dydd Llun 7 Awst
9:30 Beth yw'r ffordd fyrraf o gyrraedd gartref?
Dewch i ddysgu sut gall swigod (ie, swigod!) gael eu defnyddio i ddatrys problemau mathemategol cymhleth gan gynnwys y broblem o ddarganfod y ffordd fyrraf o gyrraedd gartref gyda Dr Tudur Davies o’r Adran Fathemateg.
10:30 Deddfwriaeth, rheoleiddio, anogaeth – sut i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?
Trafodaeth ar rôl safonau’r Gymraeg gyda phanel yn cynnwys Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, ac wedi ei gadeirio gan Rhys Evans o gwmni Ateb.
12:00 Pantycelyn 2019
Cyfle i weld cynlluniau pensaernïol i adnewyddu neuadd breswyl Pantycelyn a chlywed mwy am y datblygiad yng nghwmni Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd y Bwrdd Prosiect.
14:00 Bywyd Newydd i’r Hen Goleg
Edrychwn yn ôl ar hanes adeilad eiconig yr Hen Goleg, a darganfod cynlluniau i ddatblygu’r gofod at y dyfodol.
15:00 Sesiwn lansio Perfformio’r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards
Trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Dr Anwen Jones (Adran Theatr, Ffilm a Theledu) i lansio’r gyfrol 'Perfformio’r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards’(Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
16:30 Seremoni’r Coroni
Dewch draw i wylio’r Coroni ar ein sgrin fawr dros baned a chacen.
Dydd Mawrth 8 Awst
10:30 Lansiad BA newydd: Creu Ffilm
Ymunwch ag Adran Theatr, Ffilm a Theledu i lansio gradd BA newydd sy’n ateb gofynion creu ffilm yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio gan Huw Penallt Jones ac yn y sesiwn bydd Huw yn rhannu ei brofiadau helaeth o weithio ym myd ffilm.
12:30 Cwrdd â’r Myfyrwyr: Gorwelion y Gymraeg
Sesiwn hwyliog yn rhannu doniau rhai o fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yr Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gyda Marged Tudur, Miriam Elin Jones ac eraill.
14:00 Sgragsabia! Sesiwn stori ‘Cyfres Sgragan’, gyda Mair Tomos Ifans.
Sgragsabia! Ymunwch â CAA Cymru a Mair Tomos Ifans wrth iddi ddarllen o lyfrau’r gyfres Sgragan. Dewch am lond trol o hwyl i’r holl deulu.
15:30 O Gymru i Botany Bay: Troseddwyr Benywaidd o Gymru
Dr Lowri Cunnington Wyn, darlithydd troseddeg Adran y Gyfraith sydd trafod hanes lliwgar troseddwyr benywaidd o Gymru.
Dydd Mercher 9 Awst
10:30 Lansiad cyfrol Evan James Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
Dewch i lansiad cyfrol ddifyr a dadlennol am un o brif wyddonwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif, a ffisegydd gorau Cymru erioed, yr Athro Evan James Williams. Bydd awdur y gyfrol, Rowland Wynne, yn trafod y dyn a’i waith mewn sgwrs gyda Gareth Ffowc Roberts.
11:30 Gweithdy Polisi a Chynllunio Iaith
Sesiwn anffurfiol lle bydd cyfle i rannu prosiectau ar waith (ymarferol neu ymchwil) ym maes cynllunio iaith. Arweinir y sesiwn gan Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD.
14:00 Aduniad Aber
Wedi astudio yn Aber? Dewch draw i’r stondin am luniaeth ysgafn a chyfle i hel atgofion gyda hen ffrindiau. Croeso i bawb.
Dydd Iau 10 Awst
10:30 Iechyd Gwledig: Beth yw’r sialensiau?
Dr Rachel Rahman, o’r Ganolfan am Ragoriaeth yn Ymchwil Iechyd Gwledig sydd yn cyflwyno ymchwil ar y cyd â Byrddau iechyd Hywel Dda a Powys ar sialensiau gofal iechyd gwledig.
12:00 Darlith Flynyddol E G Bowen: ‘Eira 1947: 70 mlynedd o gofio’
Dr Cerys Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear sydd yn traddodi’r ddarlith flynyddol gan edrych yn ôl ar oblygiadau eira mawr 1947.
15:00 Seremoni Wobrwyo “Her Gyfieithu 2017”
Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2017 - cyfieithu cerdd gan y bardd Twrceg Nazim Hikmet i’r Gymraeg. Cynhelir gan Gyfnewidfa Lên Cymru (Prifysgol Aberystwyth) mewn cydweithrediad â PEN Cymru, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Desg Gymorth Llywodraeth Cymru Ewrop Greadigol (yr Undeb Ewropeaidd).
Dydd Gwener 11 Awst
12:00 Sesiwn wybodaeth am y cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Paned a sgwrs am y cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Hefyd, helfa drysor cyfieithu a chyfle i ennill taleb gwerth £35!
14:00 Cwis mawreddog ‘Her y Brifysgol’
Cwis hwyliog rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol dan ofal y cwis-feistr Dr Russell Davies.
15:30 Aduniad Haf UMCA
Cyfle i fyfyrwyr cyfredol UMCA rannu eu clecs am holl anturiaethau'r haf.
16:30 Seremoni’r Cadeirio
Dewch draw i wylio’r Cadeirio ar ein sgrin fawr dros baned a chacen.
Hefyd yn ystod yr wythnos...
Dydd Sul 6 Awst
13:00 Y Cwt Drama:
Er Cof Perfformiad gan bedair myfyrwraig o Adran Theatr, Ffilm a Theledu
www.ercof.cymru
Dydd Llun 7 Awst
14:00 Cymdeithasau 1
Yn ôl i'r Dyfodol: Gorffennol Newydd y Gell Danwydd
Yr Athro Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru yn traddodi Darlith Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Dydd Mawrth 8 Awst
10:45 Y Babell Lên
Tros Bedair Gwaith o Gwmpas y Byd: teithiau a gweithiau William Williams Pantycelyn
Dr Eryn M White o Adran Hanes a Hanes Cymru yn traddodi Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dydd Mercher 9 Awst
11:30-12:30 Sinemaes
’Detholiad o ffilmiau arobryn gan fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu'r Brifysgol’