Ffrwydryn tir y Dywysoges Diana yn rhan o arddangosfa ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ffrwydryn tir (y Dywysoges Diana), Conrad Atkinson, 1997
22 Awst 2017
Ugain mlynedd ers ei marwolaeth, mae replica porslen hynod o ffrwydryn tir wedi’i addurno â delweddau o Diana, Tywysoges Cymru, yn cael ei arddangos yn Oriel yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Crëwyd y ‘ffrwydryn tir’ gan y seramegydd Prydeinig Conrad Atkinson yn 1997, ac fe’i prynwyd ar gyfer Casgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth y flwyddyn ganlynol.
Mae gan weithiau celf Atkinson themâu cymdeithasol neu wleidyddol fel rheol; ef oedd artist swyddogol Ymgyrch yr Unol Daleithiau i Wahardd Ffrwydron Tir, ac fe gynhyrchodd nifer o ffrwydron tir porslen fel rhan o’r ymgyrch honno.
Crëwyd y ffrwydron o fowld o ffrwydryn Valmara 69 gwreiddiol, ac mae pob un wedi’i addurno â delweddau pryfoclyd.
Mae’r darn sydd yng nghasgliad Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys ffotograffau o’r Dywysoges Diana yn ymweld ag ardal ffrwydron tir yn Angola ym mis Ionawr 1997.
Ymwelodd y Dywysoges Diana â’r wlad fel gwestai i’r Groes Goch Ryngwladol.
Yn ystod ei hymweliad eiconig â Kuito a Huambo, teithiodd o amgylch y meysydd ffrwydron, gwyliodd weithwyr yn clirio ffrwydron, a chyfarfu â rhai o’r bobl a anafwyd gan ffrwydron o’r fath.
Ar ôl ei hymweliad galwodd yn gyhoeddus am foratoriwm rhyngwladol ar y defnydd o ffrwydron tir gwrth-bersonél, gan ddod â mater ffrwydron tir i amlygrwydd rhyngwladol.
Mae Karen Westendorf, Cynorthwyydd Curadurol a Thechnegol yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wedi ymchwilio i hanes y gwrthrych: “Defnyddiwyd proses castio slip i greu’r ffrwydryn tir; mae hyn yn golygu bod y slip castio wedi cael ei arllwys i fowld ac, wrth i’r plastr amsugno’r dŵr, sychodd y clai yn y siâp priodol. Yna, cafodd ei grasu â bisg. Crasu bisg yw’r crasiad cyntaf ar dymheredd cymharol isel cyn i’r gwrthrych gael ei wydro. Yna gellir ei addurno a/neu ei wydro a’i grasu eilwaith. Mae’n cynnwys pin metel a manylion aur. Ychwanegwyd y delweddau a gymerwyd o bapurau newydd trwy ddefnyddio trosluniau mewnwydrog.”
“Cynhyrchodd Conrad Atkinson hyd at ugain o’r ‘ffrwydron tir’ hyn. Er eu bod wedi’u gwneud â llaw o borslen prydferth, a’u bod yn cynnwys delweddau megis Dwylo’n Gweddïo Dürer, golygfeydd o’r ffilm Gone with the Wind neu hyd yn oed luniau del o gŵn a chathod bach, ni ellir anwybyddu’r bygythiad sy’n tarddu ohonynt. Mae eu siâp, sy’n efelychu’r ffrwydron ‘go iawn’, yn gorbwyso eu nodweddion esthetig bron yn llwyr.
“Yn yr un modd ag y mae ffrwydryn tir Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi ei osod mewn cypyrddau arddangos ymhlith porslen addurniadol Abertawe yn Oriel Serameg Canolfan y Celfyddydau, gosodwyd y ffrwydron tir eraill gyda gwrthrychau amgueddfa megis clociau o’r 18fed ganrif, cerfluniau hynafol neu garw wedi’i stwffio mewn arddangosfa naturyddol. Yn yr un modd ag y maent yn olygfa annisgwyl i ymwelwyr yn yr amgueddfa neu oriel, mae’r rhai go iawn yn taro pobl yn ddirybudd, heb obaith i ddianc.”
Mae ffrwydryn tir y Dywysoges Diana yn cael ei arddangos fel rhan o’r arddangosfa ‘Ffeithiau Amgen’: Dehongli Gweithiau o Gasgliad yr Ysgol Gelf yn Oriel yr Ysgol Gelf, tan 28 Medi 2017. Mae’r Oriel ar agor o 10yb-5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Conrad Atkinson
Ganwyd Conrad Atkinson yng ngorllewin Cumbria ym 1940. Fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Celf Caerliwelydd, Coleg Celf Lerpwl a’r Academi Frenhinol yn Llundain, ond y prif elfennau sydd wedi dylanwadu ar ei waith erioed yw ei fagwraeth dosbarth gweithiol a materion gwleidyddol cyfoes.
Yn artist gwleidyddol a chysyniadol rhyngwladol, mae Atkinson yn defnyddio llawer o wahanol gyfryngau, yn cynnwys paentio, ffotograffiaeth, brodwaith a serameg. Mae ei waith wedi cael ei arddangos o gwmpas y byd.
AU27117