Cyn-fyfyrwyr Aber yn cipio’r Goron
Enillydd y Goron, Gwion Hallam. Tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth bu'n astudio ysgrifennu creadigol o dan y diweddar Athro John Rowlands a Mihangel Morgan.
07 Awst 2017
Cyflwynwyd y Goron eleni am bryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych.
Y beirniaid oedd M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams. Wrth draddodi’r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn, dywedodd M Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid eu bod yn “llawen o gytûn inni gael eleni nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd y safon aruchel hon.”
Dywedodd nad oedd dod i benderfyniad unfrydol ddim yn hawdd chwaith. “Dyna chi’n cyfyng gyngor gwych ni’n tri felly. Cymaint o bryddestau rhagorol, ond dim ond un a all gipio’r goron.”
Ond roedd y tri ohonynt yn unfryd ychwanegodd, “mai drych elwyn/annie/janet/jiws ‘ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern.”
Llongyfarchwyd Gwion ar ei lwyddiant gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd: “Mae cyhoeddi enillydd y Goron ymhlith uchafbwyntiau pob Eisteddfod ond mae 'na wefr ychwanegol heddiw o glywed bod y Prifardd yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a bod ysgrifennu creadigol ymhlith y pynciau a astudiodd. Llongyfarchiadau mawr i Gwion ac edrychwn ymlaen at ddarllen ei bryddest fuddugol.”
Ar y nos Sadwrn olaf, daeth llwyddiant i gyn lywydd arall Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, wrth i Steffan Prys Roberts gipio Gwobr Goffa David Ellis a'r Rhuban Glas am yr unawdydd lleisiol gorau. Graddiodd Steffan mewn Rheoli Cefn Gwlad yn 2009 ac mae'n drefnydd cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd ar hyn o bryd.