Cyngor Prydeinig yn cymeradwyo cyrsiau dysgu Saesneg rhyngwladol
Myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Thanh Tan Nguyen yn Hanoi, Fietnam, a dreuliodd dair wythnos yng Nghanolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth.
07 Awst 2017
Mae Canolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn ei hachrediad diweddaraf gan y Cyngor Prydeinig.
Bu’r Cyngor Prydeinig yn ymweld â’r Brifysgol ym mis Mawrth fel rhan o’u Cynllun Achredu ac fe gyhoeddwyd eu hadroddiad ym mis Awst 2017.
Mae'r cynllun achredu yn rhoi sicrwydd ansawdd i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dilyn neu sy’n bwriadu dilyn cyrsiau mewn Saesneg fel iaith dramor mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion yn y DU.
Caiff sefydliadau addysg eu harolygu bob pedair blynedd, gydag ymweliadau dirybudd yn cael eu trefnu rhwng arolygiadau.
Mae'r tîm arolygu yn asesu safonau rheolaeth, adnoddau ac adeiladau, addysgu, lles, a gofal dan 18 oed, gydag achrediad yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau sy’n cwrdd â'r safon gyffredinol i safon ymhob maes sy’n cael ei arolygu.
Yn ei adroddiad achrediad ar gyfer y Ganolfan yn Aberystwyth, mae’r Cyngor Prydeinig yn nodi bod "adnoddau ar gyfer dysgu ac addysgu o safon uchel iawn ac offer technolegol ardderchog a chefnogaeth ar gael".
Dywedodd cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rachael Davey: "Rydym yn hynod o falch o’n hadolygiad positif diweddaraf gan y Cyngor Prydeinig. Mae’n nodi cryfderau Aberystwyth ym meysydd rheolaeth staff, gweinyddu myfyrwyr, sicrhau ansawdd, adnoddau dysgu, dylunio cwrs, rheoli dysgwyr, addysgu, gofalu am fyfyrwyr, llety, a chyfleoedd hamdden. Rhaid diolch i dîm ymroddedig y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol ac i staff eraill ar draws y Brifysgol sy’n gweithio'n galed i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn addysg o’r radd flaenaf a phrofiad myfyrwyr ardderchog."
Fe gyrhaeddodd yr adroddiad diweddaraf yn ystod haf prysur arall i'r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol yn Aberystwyth.
Mae grŵp o uwch o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Thanh Tan Nguyen yn Hanoi, Fietnam, a gyflwynwyd i'r Brifysgol gan y Cyngor Prydeinig, Hanoi, wedi bod yn cael blas ar fywyd prifysgol yn Aberystwyth.
Fe gyrhaeddodd y myfyrwyr 16 a 17 oed Brifysgol Aberystwyth ar 16 Gorffennaf a buon nhw’n aros mewn llety myfyrwyr ar Fferm Penglais.
Yn ystod eu hymweliad dair wythnos, bu’r criw o Fietnam yn cael gwersi Saesneg yn ogystal â sesiynau blasu mewn saith o adrannau academaidd gwahanol ar draws y Brifysgol.
Dywedodd un o’r myfyrwyr o Fietnam, Tong Thi Thanh Thuy: "Rwyf wrth fy modd gyda staff y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol - mae'r athrawon mor ymroddedig ac mae pawb mor garedig. Cefais brofiadau anhygoel yn yr adrannau academaidd, ac mae bod yma wedi fy helpu i wella fy Saesneg a dod yn fwy aeddfed. Byddaf yn sicr yn argymell Aberystwyth i fy ffrindiau."
Ymhlith y grwpiau eraill sy’n treulio cyfnodau yn Aberystwyth dros yr haf y mae myfyrwyr o Sefydliad Technoleg Nanchang yn Tsieina sy'n dilyn cwrs mewn Saesneg gyda Chadwraeth Dŵr, sy’n cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad ag Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Mae myfyrwyr o Brifysgol Hohai yn Tsieina hefyd yn treulio chwe wythnos yn Aberystwyth yn dilyn cwrs Saesneg gyda Gwyddor yr Amgylchedd, sydd eto'n cael ei drefnu ar y cyd gan y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol a’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.