Aberystwyth ar rhestr fer Gwobrau 'Green Gown'
Gwobrau 'Green Gown'
25 Tachwedd 2015
Mae cynllun ‘O’r Pridd i’r Plât’ Prifysgol Aberystwyth ar restr fer am un o wobrau 'Green Gown' gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rownd derfynol y category Bwyd a Diod y Gwobrau sy’n cydnabod llwyddiant prosiectau cynaliadwyedd mewn sefydliadau addysg uwch ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Maent yn annog prifysgolion i fabwysiadu polisïau cynaliadwy er mwyn gwella effeithlonrwydd defnydd ynni a lleihau gwastraff, a darparu llwyfan i rannu’r syniadau a mentrau yma ar draws y sector addysg uwch a thu hwnt.
Ers eu sefydlu yn 2004, Cymdeithas Amgylcheddol y Prifysgolion a’r Colegau sydd wedi bod yn cynnal y Gwobrau, a bellach maent yn cael eu hystyried gyda’r uchaf eu bri o ran cydnabyddiaeth o arferion cynaliadwy o fewn sector addysg uwch y DG.
Y prifysgolion eraill swydd wedi eu cynnwys ar restr fer y category Bwyd a Diod yw Lancaster, Brighton, Reading, the Arts London a Cymru Drindod Dewi Sant.
Mae ‘O’r Pridd i’r Plât’ yn gynllun gan Brifysgol Aberystwyth i wella cynaliadwyedd trwy ymgorffori amrediad o brosesau’r Brifysgol, o ymchwil cnydau i ddarparu o gynnyrch lleol.
Mae’r holl gig oen a chig eidion a weinir yn lleoliadau Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth yn dod o ffermydd y Brifysgol, tra bod 90% o gynnyrch llaeth a 100% o’r tatws yn dod o Gymru. Mae hyn yn cyfrannu tuag at leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon ac yn sicrhau cynnyrch o safon uchel.
Mae ymchwilwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn datblygu rhygwellt siwgr uchel sydd yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchu llaeth a chig tra ar yr un pryd yn lleihau faint o fethan a gynhyrchir gan anifeiliaid fferm.
Dywedodd Beirniaid y Gwobrau: “Mae’r amrediad o weithgareddau yn grêt, gan ddefnyddio academia a dulliau ymarferol o gyrchu a thyfu y gellir eu hailadrodd ar draws Cymru”.
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth: “Trwy “O'r Pridd i'r Plat” mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cysylltiadau uniongyrchol rhwng ein gwaith ymchwil sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol a’n gwasanaethau bwyd a diod gwych i fyfyrwyr, staff a'r gymuned. Rydym yn ffodus bod gennym staff ymchwil a gwasanaethau proffesiynol sy’n ymroddedig i gefnogi rhagoriaeth mewn ffermio sy’n amgylcheddol gynaliadwy a lleihau milltiroedd bwyd, gan sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â'r Brifysgol yn mwynhau bwyd o'r ansawdd uchaf.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn brifysgol Masnach Deg, a mae hefyd wedi sicrhau Gwobr Nod Arlwyo Efydd Bwyd am Fywyd i’w holl fwytai ar y campws, gwobr sy’n prysur ddod yn safon i’r diwydiant ar gyfer bwyd lleol, cynaliadwy a ffynonellau moesegol.
AU22315