Lansio ymgynghoriad eang i gyrchu barn am lety myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg

Pantycelyn

Pantycelyn

10 Tachwedd 2015

Mae cyfnod o ymgynghori eang wedi cychwyn er mwyn cyrchu barn am y math o lety a gofod cymdeithasol a fydd yn ateb gofynion ac anghenion myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth am y deugain mlynedd nesaf.

Daw hyn wedi i Fwrdd Prosiect Pantycelyn benodi cwmni Old Bell 3 i gynnal ymgynghoriad annibynnol o’r hyn y mae pobl yn dymuno ei weld mewn llety dynodedig Cymraeg.

Cam cyntaf yr ymgynghori fydd holiadur a ddatblygwyd gan Old Bell 3. Bydd yr holiadur yn agor heddiw, ddydd Mawrth 10 Tachwedd, ac ar gael tan ddydd Llun 30 Tachwedd i unrhyw un sy’n dymuno ei gwblhau. Mae’r holiadur ar gael arlein yma https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=144714907590.

Yn ogystal â’r holiadur bydd Old Bell 3 yn ymgynghori’n helaeth â myfyrwyr presennol, darpar-fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, staff y Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Gellir hefyd gyfrannu at yr ymgynghoriad drwy gyflwyno sylwadau cyffredinol mewn e-bost at pantycelyn@oldbell3.co.uk, neu dros y ffôn ar 07805 265 158.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: “O’r dechrau’n deg, mae aelodau’r Bwrdd wedi bod yn glir ynglŷn â’r angen i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol ar natur y ddarpariaeth o ran llety a gofod cymdeithasol a fydd yn debygol o gwrdd â disgwyliadau siaradwyr Cymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am y 40 mlynedd nesaf.

“Yn dilyn proses gystadleuol, rwy’n falch iawn bod cwmni Old Bell 3, sydd â’u swyddfa yn Llandeilo, wedi ei benodi i ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng-Cymraeg, ac rwy’n gobeithio y bydd cynifer â phosibl yn cyfrannu at y drafodaeth wrth i ni fynd ati i adeiladu ar lwyddiannau Neuadd Pantycelyn a datblygu cynlluniau cyffrous i ddarparu ar gyfer anghenion a disgwyliadau'r cenedlaethau nesaf o fyfyrwyr Cymraeg.”

Bydd y dystiolaeth a gesglir gan Old Bell 3 yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd Prosiect cyn y Nadolig.  Yna bydd y Bwrdd Prosiect yn defnyddio canlyniadau’r gwaith ymchwil i baratoi briff dylunio ar gyfer llety a gofod cymdeithasol cyfrwng-Cymraeg o’r radd flaenaf, ac yn ystyried sut y gellid gwireddu’r dyluniad yn Neuadd Pantycelyn cyn cytuno ar adroddiad terfynol erbyn 30 Ebrill 2016 i fynd gerbron Cyngor y Brifysgol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Bwrdd Prosiect Pantycelyn
Sefydlwyd Bwrdd Prosiect Pantycelyn er mwyn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu briff cynllunio ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd y Bwrdd yn dilyn penderfyniad Cyngor y Brifysgol ym mis Mehefin i gymeradwyo cynnig yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg ac i ddarparu llety Cymraeg penodedig o fewn y Brifysgol

Ceir mwy o wybodaeth am Fwrdd Prosiect Pantycelyn, gan gynnwys penderfyniad y Cyngor a arweiniodd at ei sefydlu, aelodaeth a’r cylch gorchwyl yma   https://www.aber.ac.uk/cy/university/pantycelyn/.

AU36015