Blwyddyn lwyddiannus arall i’r Cynllun Effaith Gwyrdd

Enillwyr y Wobr Efydd, cynrychiolwyr o ‘Big Plan’ y Tîm Cynllunio a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Enillwyr y Wobr Efydd, cynrychiolwyr o ‘Big Plan’ y Tîm Cynllunio a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

03 Gorffennaf 2015

Dathlodd y Brifysgol flwyddyn lwyddiannus arall i’r Cynllun Effaith Gwyrdd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin, yn ystod y digwyddiad gwobrwyo amser cinio.

Cydnabyddwyd 10 tîm o adrannau gwahanol, gyda phump yn derbyn y Wobr Aur, dau yn derbyn Arian a tri yn derbyn Efydd.

Ymhlith y timau a dderbyn y Wobr Aur oedd cynrychiolwyr o Athrofa Addysg, Datblygu Proffesiynol a Graddedigion (AADPG), yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yr Adran Ystadau, Gwasanaethau Gwybodaeth, ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd / Adnoddau Dynol.

Llwyddodd Seicoleg a “AADPG Llandinam Gwyrdd” i dderbyn statws Arian, a cwblhaodd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg, a’r tîm cynllunio ”Big Plan” y Wobr Efydd.

Mae Effaith Gwyrdd yn gynllun achredu amgylcheddol a gynhelir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mewn sefydliadau ar draws y Deyrnas Gyfunol.  Ei nod yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd ymysg staff a rhoi iddynt y cyfle i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu gweithle.

Yn ogystal â’r gwobrau uchod, enillodd tîm Cledwyn yr Athrofa Addysg, Datblygu Proffesiynol a Graddedigion wobr genedlaethol Effaith Gwyrdd am Weithredu Cymunedol, gan guro cystadleuaeth o sefydliadau ar draws y DG.

Dywedodd  Jane Langford, aelod o dîm AADPG:  “Rydym wrth ein bodd o fod wed ennill y wobr hon.  Pan awgrymodd Rhian y dylem lanhau’r traeth roedden ni’n cytuno ei fod yn syniad gwych i wneud rhywbeth i wella un o adnoddau gorau ardal Aberystwyth, ac mae’n galonogol bod pobl eraill yn amlwg yn cytuno.”

Dyma’r ail flwyddyn i’r Brifysgol gynnal Effaith Gwyrdd.  Mae bellach o dan oruchwyliaeth yr Adran Datlbygu Ystadau a’r Cydlynydd Effaith Gwyrdd, Christopher Woodfield - Hyfforddai Graddedig Amgylcheddol.

Dywedodd Chris:  “Mae arwain y cynllun a gweithio gydag aelodau o staff brwdfrydig ar draws y Brifysgol i wella ein perfformiad amgylcheddol wedi bod yn wych”.

Mae mentrau newid ymddygiad amgylcheddol, fel y Cynllun Effaith Gwyrdd, yn rhan allweddol o ‘Strategaeth Rheolaeth Carbon’ y Brifysgol sydd ar gael yma ac wedi ei amlygu yn Strategaeth Ystadau'r Brifysgol 2012-2017 sydd ar gael yma.

Mae mwy o wybodaeth am Effaith Gwyrdd ar gael yma a thudalennau we Cynaladwyedd y Brifysgol yma.