Y Brifysgol yn croesawu gwasanaeth trên bob awr
Chwith i’r dde: Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Grace Burton, Swyddog Digwyddiadau Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Harriet O’Shea, Dirprwy Is-Ganghellor Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cynghorydd Ynni Janet Sanders a Christ Woodfield, Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant, yn lansiad y gwasanaeth newydd.
19 Mai 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu gwasanaeth trên newydd bob awr ar lein y Cambria rhwng Aberystwyth a'r Amwythig.
Ar yr adegau prysuraf ar ddyddiau Llun i Sadwrn, bydd gwasanaethau ychwanegol am 06.30, 08.30, 12.30 a 18.30 ac o Amwythig am 06,26, 10.29, 18.31, 20.30.
Ar y Sul, bydd dau wasanaeth newydd yn eu lle, gan adael Aberystwyth am 10.30 a 14.33, ac o'r Amwythig am 16.29 a 18.28.
Bydd hyn yn gwneud Aberystwyth yn fwy hygyrch ar y trên nag y bu ers blynyddoedd.
Roedd y Dirprwy Is-Ganghellor dros Iaith a Diwylliant Cymraeg ac Ymgysylltu Allanol, Dr Rhodri Llwyd Morgan yn lansiad swyddogol y gwasanaeth yng ngorsaf drenau Aberystwyth ar ddydd Llun 18 Mai. Meddai: "Rydym wrth ein bodd gyda'r gwelliannau i’r gwasanaeth trên, ac rydym yn falch o weld bod hyn wedi dod ar ôl dwy flynedd o weithio ochr yn ochr â Undeb y Myfyrwyr fel rhan o Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth. Mae hyn yn amlwg yn newyddion da i'r myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth a'r ardal leol yn gyffredinol. Mae hefyd yn berthnasol i ymwelwyr sy’n dod i’r Brifysgol, boed yn fyfyrwyr, academyddion neu siaradwyr yn ogystal â busnesau a chyflogwyr a fydd yn helpu i roi hwb i'r economi.
Mae hefyd yn braf gweld dylanwad cadarnhaol cymuned gyfan y Brifysgol wrth wneud yr achos dros y gwelliannau hyn a dwi'n hapus i dalu teyrnged i ymdrechion Undeb y Myfyrwyr fel rhan o hynny."
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Trenau Arriva Cymru.