Dangosiad cyntaf y ffilm o Gymru/Nigeria DRY
DRY
25 Tachwedd 2014
Bydd y ffilmDRY (I want to be a girl again), sy’n cael ei disgrifio fel “un o'r prosiectau ffilm Affricanaidd mwyaf perthnasol yn gymdeithasol a wnaed erioed”, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd, 2014.
Seiliwyd y ffilm yng Nghymru (Aberystwyth) a Nigeria ac fe’i chynhyrchwyd gan Next Page Productions, ac mae’n ymwneud â merched ifanc sy’n cael eu gorfodi i briodi a’r cyflwr meddygol Ffistwla’r Bledren a’r Wain (VVF) sy’n cael ei achosi gan enedigaeth neu drais rhywiol.
Mae’r ffilm yn dilyn hanes Halima, merch 13 mlwydd oed sy’n cael ei gorfodi gan ei rhieni i briodi gwr 60 mlwydd oed o’r enw Sani, a’r meddyg Dr Zara.
Mae Zara yn cynorthwyo Halima, sy’n dioddef o VVF ar ol genedigaeth, a’i gŵr wedi cefni arni a chymdeithas wedi ei chau allan.
Credir bod y cyflwr VVF yn effeithio ar mwy na 2 filiwn o ferched ifanc o gwmpas y byd a bod rhwng 50,000 a 100,000 o achosion newydd bob blwyddyn. Mae 800,000 o fenywod yn byw gyda'r cyflwr yn Nigeria.
Mae ymchwil yn dangos bod merched ifanc sy’n cael eu gorfodi i briodi yn un o'r ffactorau mawr sy'n cyfrannu at VVF. Mae hyn wedi bod yn achos dioddefaint a diraddio i filiynau o ferched ifanc yn ogystal ag achosi tlodi eithafol a marwolaeth o ganlyniad i'r ynysu cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r cyflwr.
Awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm yw Stephanie Linus (nee Okereke). Hi hefyd sy’n chwarae’r brif ran, Dr Zara. Enillodd Linus Wobr Ddyngarol ‘Beyond Tears’ yn 2008 am ei gwaith yn erbyn trais rhywiol a VVF.
Mae Darwin Shaw, sy'n chwarae rôl Dr Alex, wedi ymddangos yn Casino Royale (James Bond), Prometheus a Call the Midwife y BBC.
Bydd Stephanie Linus a Darwin Shaw yn bresennol yn y dangosiad ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Disgwylir y bydd nifer o uwch gynrychiolwyr o Uchel Gomisiwn Ghana, Uchel Gomisiwn Rwanda a Gweriniaeth Ffederal Nigeria yn mynychu’r dangosiad cyntaf.
Cynhyrchwyd y ffilm mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth a ddarparodd rai o'r lleoliadau ffilmio. Yn ogystal, bu myfyrwyr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol yn gweithio ar y cynhyrchiad.
AU49014