'Dynladdiad trwy esgeulustod garw, problemau o ddiffiniad; problemau gyda dedfrydu, bwriad a chanlyniadau '
Y Barnwr Nicholas Cooke
21 Tachwedd 2014
Bydd y Barnwr Nicholas Cooke yn traddordi darlith wadd ar y pwnc 'Dynladdiad trwy esgeulustod garw, problemau o ddiffiniad; problemau gyda dedfrydu, bwriad a chanlyniadau'.
Cynhelir y ddarlith ar ddydd Gwener 21 Tachwedd am 6.30pm yn narlithfa 1.21 yn Adeilad Elystan Morgan, Canolfan Llanbadarn.
Mae’r Barnwr Cooke yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddo radd dosbarth cyntaf ag anrhydedd ac ef oedd enillydd Gwobr Sweet a Maxwell. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1977 a’i benodi’n Gwnsler Frenhines yn 1998.
Ar hyn o bryd ef yw’r Barnwr Ychwanegol yn y Llys Troseddol Canolog (yr "Old Bailey") ac mae’n eistedd fel Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys. Mae’n Ryddfreiniwr Dinas Llundain, ac ef yw Canghellor Esgobaeth Tyddewi.