Silff Iâ'r Ynys Las yn fwy sensitif i newid hinsawdd

Llynoedd ar wyneb yr iâ, cyn y llifeiriant Llun: Sam Doyle

Llynoedd ar wyneb yr iâ, cyn y llifeiriant Llun: Sam Doyle

30 Medi 2014

Mae astudiaeth sydd wedi ddefnyddio mesuriadau newydd yn y maes i arwain model rhifiadol wedi canfod bod Silff Iâ'r Ynys Las (Greenland) yn fwy sensitif i newid hinsawdd nag a feddyliwyd yn flaenorol.

Mae'r model diweddaraf 3D o silff iâ a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac a gyfyngwyd gan fesuriadau maes manwl a gymerwyd ar y silff iâ gan Brifysgol Aberystwyth yn datgelu bod y silff iâ enfawr, sy’n ymddangos yn sefydlog ac yn gorchuddio’r rhan fwyaf o'r Ynys Las, yn fwy sensitif i newid yn yr hinsawdd nag awgrymwyd yn flaenorol. Byddai hyn yn cyflymu’r cynnydd yn lefel y môr sy'n bygwth cymunedau arfordirol ledled y byd.

Yn ogystal ag asesu effaith lefelau cynyddol o ddŵr tawdd sy’n cael ei ollwng i mewn i'r môr bob blwyddyn wrth i'r hinsawdd barhau i gynhesu, mae'r model newydd hefyd yn ystyried y rôl y mae gwaddodion meddal ac anffurfiol yn chwarae o dan y silff iâ wrth reoleiddio ei llif a’i sefydlogrwydd.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth lawn, Sensitive response of the Greenland Ice Sheet to surface melt drainage over a soft bed, yn y cyfnodolyn Nature Communications ar ddydd Llun 29 Medi.

Mae Silff Iâ’r Ynys Las, yr ail silff iâ fwyaf yn y byd, yn 1.7 miliwn cilometr sgwâr - ardal tua wyth gwaith maint y Deyrnas Gyfunol - ac yn cynnwys digon o iâ i achosi cynnydd yn lefel y môr o fwy na saith metr petai’n diflannu’n gyfan gwbl.

Ar hyn o bryd, o ganlyniad i doddi ar yr wyneb yn unig, mae’n colli iâ ar gyfradd flynyddol o fwy na 200 cilomedr ciwbig, sy'n cyfateb i gynnydd o 0.6 milimetr yn lefel y môr ar draws y byd.

Mae ffynhonnell yr un mor fawr, ond llai sicr yn y pen draw, o gynnydd yn lefel y môr wedi ei gysylltu â chynnydd yn llif y silff iâ, sy’n golygu bod mwy o iâ yn cael ei ryddhau i’r môr.  Ar draws y byd mae lefelau'r môr yn codi tri milimedr bob blwyddyn.

Nid yw silffoedd iâ mawr fel un yr Ynys Las yn llonydd. Mae gwahanol rannau o'r rhew yn aml yn symud ar wahanol gyflymder, gan achosi rhew i lithro ac anffurfio fel mêl, ffenomenon a elwir yn llif iâ.

Er bod modelau eraill Silff Iâ’r Ynys Las fel arfer yn cymryd yn ganiataol bod yr iâ yn llithro dros wely caled o graig - rhagdybiaeth sy'n seiliedig yn bennaf ar ddiffyg data ac arsylwadau - mae’r astudiaeth hon yn cynnwys tystiolaeth newydd o archwyliadau o’r ddaear dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, sy'n dangos gwaddodion meddal a mandyllog ar wely'r silff iâ, sy’n debycach i waelod llyn mwdlyd na silff o graig solet.

Mae'r astudiaeth newydd yn nodi yn benodol bod llif dŵr tawdd, a’r modd y mae’n cael ei storio mewn mwd gwan islaw’r silff, yn hanfodol er mwyn rheoli llif yr iâ.

Gan ddefnyddio model tri-dimensiwn o ddalen iâ, ynghyd â chofnod arsylwadol o ddŵr tawdd ar yr arwyneb a gynhyrchwyd gan Brifysgol Aberystwyth, roedd y model yn gallu atgynhyrchu yn gywir sut roedd newidiadau symudiad tymhorol y silff iâ yn ymateb i faint o ddŵr tawdd ar yr arwyneb oedd yn cael ei gyflenwi i'r ddaear oddi tano.

Mae llynnoedd sy'n ffurfio ar wyneb rhewlifoedd, llynnoedd supraglacial, yn aml yn cael eu creu yn ystod y tymor toddi, ac fel arfer yn para o ddechrau Mehefin tan ddiwedd Awst.

Bu cydawdur y papur, yr Athro Alun Hubbard, a'i dîm o Brifysgol Aberystwyth yn astudio’r llynnoedd hyn a gwelwyd bod llawer ohonynt yn gwagio mewn oriau’n unig pan fo’r iâ yn cael ei hollti gan y dŵr a hafnau llawn dŵr yn cael eu creu sy’n gollwng llifeiriant anferth o ddŵr i’r amgylchedd islaw’r iâ. Mewn blynyddoedd cynhesach, disgwylir i ddigwyddiadau llifeiriant anferth ddigwydd yn amlach.

Dywedodd yr Athro Hubbard; "Roeddem yn gwersylla drws nesaf i un o'r llynnoedd glas hyn, tua 70 km i fyny ar y silff iâ. Yr oedd tua deg gwaith maint Tal-y-llyn ac o fewn ychydig dros awr roedd y dŵr wedi diflannu. Symudodd y ddaear, y silff iâ yn yr achos hwn, ac roeddem yn gallu teimlo a chlywed sŵn yr hollti o dan ein traed wrth i flociau enfawr, 10au o fetrau o uchder, gael eu rhwygo a’u hyrddio o gwmpas yn y trobwll.

“Agorodd hollt enfawr 2 fetr o hyd ac 20 metr o led ar draws gwely’r llyn, a llyncwyd bron i 10 miliwn tunnell o ddŵr a’i wthio drwy fwy na chilometr o rew i’r gwely'r iâ islaw. Ond dyna pan yr oedden ni yno, a llwyddom i osod pob un o'n 12 gorsaf seismig a geoffisegol o amgylch y llyn mewn pryd i gofnodi'r digwyddiad gyda’r fath fanylder na welwyd o’r blaen."

Er y bernir ei bod yn hynod annhebygol y bydd holl iâ’r Ynys Las yn diflannu yn ystod y ganrif hon, mae maint y toddi ar yr wyneb yn y degawd diwethaf yn dangos yn glir fod y silff iâ yn ddi-os yn ymateb yn gyflym i newid yn hinsawdd y Ddaear.

Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

AU42114