Rhestr Fer Gwobrau Rheoli Pobl CIPD

(Chith - dde) Sue Chambers o HR, Kath Williams Rheolwr Athrofa, Nia Jones a Heather Hinkin o HR

(Chith - dde) Sue Chambers o HR, Kath Williams Rheolwr Athrofa, Nia Jones a Heather Hinkin o HR

30 Medi 2014

Mae Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth ar restr fer ar gyfer Gwobrau Rheoli Pobl CIPD sy'n cael eu hystyried gyda’r gwobrau mwyaf mawreddog yn y proffesiwn Adnoddau Dynol.

Aberystwyth yw'r unig brifysgol i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau CIPD a gynhelir heno (30 Medi) yng Ngwesty'r Grosvenor yn Llundain.

Mae'r Brifysgol wedi ei chynnwys yn y categori Menter Cysylltiadau Gweithwyr Gorau ar gyfer gwaith a wnaed ers mis Medi 2013 ar adolygu strwythurau a'r gofynion ar gyfer gwasanaethau gweinyddol a chlerigol o fewn Athrofeydd y Brifysgol.

Gweithiodd Prifysgol Aberystwyth yn agos gyda chynrychiolwyr lleol a swyddogion llawn-amser undebau llafur cydnabyddedig y Brifysgol UNSAIN, UNITE a UCU i ddatblygu'r broses beilot ‘paru a slotio’.

Fe wnaeth hyn hwyluso'r broses o drosglwyddo staff o’u swyddi presenol i rolau newydd a graddau cymharol yn y strwythur newydd arfaethedig heb roi staff mewn perygl o gael eu diswyddo.

Wedi'i sefydlu yn 1872, mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned o 12,000 o fyfyrwyr a 2,300 o staff.

Mae’rnBrifysgol wedi ei rhestru yn safle 35ain yn y Deyrnas Gyfunol am 'Ansawdd Ymchwil' (Sunday Times University Guide 2015). 


Enillodd y Brifysgol y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg yn y Times Higher Education Awards 2013. 

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth ei Gwobr Siarter Athena SWAN gyntaf mis yma yn ogystal â Gwobr Efydd a safon Efydd Marc Siarter Cydraddoldeb Rhyw (GEM) sy'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb rhyw yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

AU26814