Ymweld â Tsieina
Rhai o’r Myfyrwyr fu’n astudio ym Mhrifysgol Cyllid ac Economeg y De-Orllewin, Chendu, Tseina
07 Gorffennaf 2014
Mae grŵp o ddeg myfyriwr o Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth newydd ddychwelyd o Tsieina, lle cawsant brofiad uniongyrchol o fywyd preswylydd yn ail economi mwyaf y byd ar adeg o newid cymdeithasol ac economaidd mawr. Gwnaethant hefyd ffrindiau gyda’u cymheiriaid Tseiniaidd, a chyfeillgarwch a fydd yn parhau.
Dan arweiniad Dr Yizhe Dong a Mrs Dandan Wu, aelodau o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth y myfyrwyr ar daith astudio bythefnos i Brifysgol Cyllid ac Economeg y De-orllewin (SWEFU) yn Chengdu, Tsieina, o’r 2il tan y 14eg o Fehefin 2014.
Mae SWUFE yn un o ganolfannau mwyaf nodedig Tsieina ar gyfer astudio economeg a rheolaeth, ac wrth i lywodraeth Tseina geisio symud datblygiad economaidd i mewn i’r tir, mae dinasoedd fel Chengdu yn tyfu’n gyflym.
Mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes a SWUFE wedi sefydlu perthynas gref drwy gyfnewid myfyrwyr ac maent yn datblygu rhaglen ymchwil ar y cyd mewn cyllid ac economeg.
Dewiswyd deg o fyfyrwyr Tsieineaidd o SWUFE i fod yn llysgenhadon a chydlynwyr ar gyfer y rhaglen.
Cafodd y myfyrwyr eu paru gyda myfyrwyr Aberystwyth i greu amgylchedd dysgu cyfoethog ar gyfer yr holl fyfyrwyr a fu’n rhan o’r cynllun. Yn ystod y bythefnos derbyniodd myfyrwyr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes wersi gan staff SWUFE a buont yn ymweld â sefydliadau ariannol Tseineaidd.
Yn ogystal, buont yn cymryd rhan mewn gwersi iaith Tsieinëeg, gwersi crefftau traddodiadol Tseiniaidd ac amrywiaeth o deithiau, gan gynnwys ymweld â thrigolion enwocaf yr ardal, y pandas mawr.
Cafwyd ymateb ac adborth cadarnhaol iawn gan bob un o’r myfyrwyr am y daith.
Disgrifiodd Conor Taylor, myfyriwr 2il flwyddyn o Brifysgol Aberystwyth sy’n astudio Cyfrifeg, Cyllid a Mathemateg, sut iddo fwynhau’r daith gan fod “dysgu am ffordd yr oedd banc o Tsieina yn gweithio yn brofiad mewnweledol arbennig, a dysgu am ddiwylliant traddodiadol Tsieineaidd, yn arbennig Opera Sichuan.”
Yn ôl Beth Griffiths, sydd yn ei 2il flwyddyn ac yn astudio Cyfrifeg a Chyllid/Economeg (gradd gyfun) roedd wedi “mwynhau dysgu am ddiwylliant Chengdu a sut y mae'n wahanol i’n diwylliant ni, a chyfarfod â holl fyfyrwyr SWUFE.”
Yn ôl John Fodor, myfyriwr Cyllid Busnes yn ei ail flwyddyn, “ar wahân i’r holl bobl gwnes i gyfarfod â nhw” uchafbwynt y daith “oedd Teml Marquis, gyda'i chefndir hanesyddol helaeth, roedd yn brofiad anhygoel ac yn bleser ymweld â hi.”
Hoff ran Andrew Thomas, myfyriwr 2il flwyddyn sy’n astudio Cyfrifeg a Chyllid, oedd y sioe Opera Tseiniaidd draddodiadol.
Roedd Will Woodcock, myfyriwr 2il flwyddyn sy’n astudio Busnes a Chyllid wrth ei fodd gyda’r “rhyngweithio rhyngom ni a myfyrwyr SWUFE a chymharu ein gwahanol ddiwylliannau. Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda’r cyfle o weld datblygiad Tsieina dros fy hunan ar ôl bod yn ei ymchwilio a’i astudio yn ôl yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Andrew Palmer, myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid yn ei 2il flwyddyn; “Rwyf wedi mwynhau cyfarfod pobl newydd tra’n Chengdu ac mae myfyrwyr SWUFE wedi bod yn wych wrth ein cynorthwyo i ddeall mwy am hanes a diwylliant cymhleth Tsieina. Diolch i Aberystwyth a SWUFE am wneud y profiad hwn yn bosibl!”
Dywedodd Steven McGuire, Cyfarwyddwr yr Ysgol Rheolaeth a Busnes; “Rwyf wrth fy modd bod ein myfyrwyr wedi cael y cyfle hwn. Mae SWUFE wedi bod yn westeiwr a phartner gwych, ac rydym yn mawr obeithio y byddwn yn adeiladu ar y berthynas hon. Ychwanegodd; “Gwnaethpwyd y daith hon yn bosibl gan roddion hael i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes dros nifer o flynyddoedd, ac rwyf yn hynod ddiolchgar am hyn.”
AU27114