Croesawu beicwyr
O'r chwith i'r dde: Julie Morgan , Rheolwr Swyddfa Gynhadledd Prifysgol Aberystwyth; Olymbia Petrou Ymgynghorydd Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth; Rory Harris o Beicwyr Modur Hoyw a Lesbiaidd yn Ewrop; Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â'r Dychymyg y Cyhoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Craige Watson, Goruchwyliwr Diogelwch Prifysgol Aberystwyth, yn ystod ymweliad y grŵp.
04 Medi 2013
Ym mis Awst 2013, cafodd Beicwyr Modur Hoyw a Lesbiaidd yn Ewrop (GMLE) eu croesawu i Brifysgol Aberystwyth am ei Gwersyll Haf wythnos o hyd a gynhaliwyd gan Glwb Beicwyr Beiciau Modur Hoywon a Lesbiaid y Deyrnas Gyfunol.
Daeth 165 o feicwyr o 12 o wledydd Ewrop i brofi’r golygfeydd arfordirol a mynyddig syfrdanol, ffyrdd beicio anhygoel a lletygarwch cynnes Cymreig. Mae gwefan GMLE yn nodi: "Mae gan Gymru gymaint i swyno’r ymwelydd - tir o ddreigiau coch mytholegol, cestyll rhamantus sy’n adfeilion, mynyddoedd syfrdanol, llynnoedd disglair a glannau creigiog; cefn gwlad glas a thawel, treftadaeth gyfoethog, ei hiaith hynafol ei hun; barddoniaeth hudol, canu ac adrodd straeon - mae'r rhestr yn ddiddiwedd…"
Dewiswyd Prifysgol Aberystwyth fel lleoliad gan ei fod yn lleoliad perffaith fel man cychwyn ar gyfer teithiau beiciau modur o amgylch Cymru: mae modd teithio i bob rhan o’r wlad - Gogledd, De, Dwyrain a Gorllewin - mewn diwrnod.
Cafodd y grŵp groeso cynnes gan staff y Brifysgol, gan gynnwys Julie Morgan (Rheolwr y Swyddfa Gynadledda), Craige Watson (Goruchwyliwr Diogelwch a ymunodd â'r grŵp am un o'u teithiau), Richard Marggraf Turley (Athro Ymgysylltu â'r Dychymyg Cyhoeddus) ac Olymbia Petrou (Ymgynghorydd Cydraddoldeb).
Dywedodd trefnydd y Gwersyll Haf Gwersyll, Roger Smith: "Rydym am ddiolchgar i'r Brifysgol am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth wrth ddarparu lleoliad addas gyda llety, bwyd, gwasanaeth a chyfleusterau ardderchog. Gwnaeth staff y Brifysgol ymdrech wych er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad a’n gwneud yn gartrefol.
"Roedd ein gwesteion yn hapus iawn ac mae’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn wedi bod yn gadarn yn ddi-wahan. Cafodd y Brifysgol ganmoliaeth fawr a chafwyd gwerthfawrogiad o bopeth sydd gan Aberystwyth a Chymru i’w gynnig.
"Fe hoffem ddiolch i bobl leol am eu cyfeillgarwch a'r croeso cynnes a gawsom ble bynnag yr aethom. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig yn y mannau yr ymwelwyd â hwy, ond hefyd yn ein teithiau. Mae’n siŵr fod llawer wedi sylwi ar ein grwpiau o hyd at 10 o feiciau gydag arweinydd a chynffon pob taith mewn festiau llachar ar ein teithiau. Rydym yn ddiolchgar i'r gyrwyr ystyriol a ildiodd le yn aml ar lonydd cul gyda gwên a chodi llaw wrth i ni fynd heibio.
"Mae'r holl brofiad wedi gwneud argraff fawr ar ein gwesteion ac maent yn gadael gydag atgofion da o’r rhan wych yma o’r byd. Rwy'n siŵr y byddai llawer yn hoffi dychwelyd un diwrnod."
Yn ystod wythnos y GLME codwyd baner yr Enfys - baner amryliw sy’n cynrychioli balchder hoyw, yn ogystal â bod yn arwydd o amrywiaeth a bod yn gynhwysol mewn diwylliannau eraill o amgylch y byd - tu allan i Ganolfan y Celfyddydau ac ochr yn ochr ag ‘Enfys Aber’, baner rhwydwaith Cymdeithas Lesbiaid, Hoywon, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT) y Brifysgol. Cafodd hyn ei werthfawrogi gan grŵp y beicwyr.
Dywedodd Richard Marggraf Turley, Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd: "Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad hir o fod yn gynhwysol. Fel sefydliad, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod myfyrwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael y cyfle nid yn unig i ddilyn a chyflawni eu huchelgeisiau, ond hefyd i fwynhau eu hunain mewn amgylchedd croesawgar yn ein lleoliad trawiadol ar arfordir y gorllewin."
Dywedodd Ruth Fowler, Cydlynydd Enfys Aber : 'Rwy'n falch iawn o fod yn gydlynydd y rhwydwaith. Rydym yn gwneud gwaith gwych yma ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n rhoi cyfle i aelodau cymdeithas LHDT staff, myfyrwyr a’r gymuned leol y cyfle i ymuno â chlybiau llyfrau a ffilmiau, digwyddiadau cymdeithasol, ac yn fwy na dim yn rhoi iddynt yr hyder i fod yn nhw eu hunain."
Mae'r rhwydwaith Enfys Aber wedi trefnu digwyddiad codi arian ar 26 Hydref yng Nghanolfan y Celfyddydau am 8pm a fydd yn cynnwys darlleniadau barddoniaeth, perfformiadau cerddorol byw, perfformiadau theatrig a mwy. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at elusennau sy’n trefnu lloches i Ymgyrchwyr Hawliau i Bobl Hoyw yn Iwganda a Rwsia. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad hwn.
Ychwanegodd Ruth: "Mae'r rhain yn elusennau pwysig iawn lle mae taer angen cymorth i godi ymwybyddiaeth am faterion LHDT, felly rydym ni fel rhwydwaith yn falch iawn o allu helpu. Roeddem wrth ein boddau fod Prifysgol Aberystwyth wedi ymddangos yn uchel iawn yn nhabl cyngrair Gay by Degree y mudiad Stonewall yn ddiweddar, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu gorymdaith Aber Balch ar y Prom ar 5 Hydref 2013. Rwy'n falch iawn ym mod yn gweithio i Brifysgol sydd mor gynhwysol a hoyw gyfeillgar, mae hyn wir yn wych!"
AU31613