''Beth yw rôl yr Undeb Ewropeaidd yn y Drefn Fyd-eang sy'n Datblygu?''
Dr Kay Swinburne
16 Mawrth 2011
Yn dilyn ‘ymateb brwd’ gan fyfyrwyr i’w hymweliad blaenorol bydd Dr Kay Swinburne, Aelod Ceidwadol dros Gymru yn Senedd Ewrop, yn dychwelyd i Aberystwyth.
Bydd yn cyflwyno Darlith Wadd y Ganolfan Astudiaethau Ewropeiadd 2011 ''Beth yw rôl yr Undeb Ewropeaidd yn y Drefn Fyd-eang sy'n Datblygu?''
Caiff y ddarlith ei chynnal am 14.00 ar ddydd Gwener 18fed o Fawrth 2011 ym Mhrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol.
Ganed Kay yn Aberystwyth ac fe’i magwyd yn Llandysul. Mae ganddi brofiad helaeth o fusnes rhyngwladol, cyllid a gofal iechyd a gafwyd tra’n gweithio yn y byd ariannol lle bu’n arbenigo mewn uno a phrynu cwmnioedd ar draws ffiniau.
Yn ogystal â chynrychioli nifer o gwmniau rhyngwladol mewn mentrau masnachol ac ariannol ar draws Ewrop, bu’n ymgynghorydd gofal iechyd ar faterion yn Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop gan weithio fel ymgynghorydd corfforaethol i’r llywodaeth ar fiodechnoleg a phreifateiddio ym maes fferylliaeth.
Mae’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd yn ganolfan ymchwil traws-adrannol ag amlddisgybliaethol sy’n canolbwyntio ar astudio integreiddio Ewropeaidd pellach a pherthynas Ewrop gyda’r byd.
Fe’i lleolir o fewn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ac mae’n cael ei redeg i raddau helaeth gan fyfyrwyr.
Prif amcan y Ganolfan yw datblygu arbennigedd, drwy ddysgu arloesol, ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus, ym meysydd Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwyddorau’r Amgylchedd, Ieithoedd Ewropeaidd, Y Gyfraith a Thoseddeg, Hanes, Rheolaeth a Busnes a disgyblaethau erall sydd â gogwydd Ewropeaidd.