Aur i fyfyriwr Ceffylau
07 Rhagfyr 2007
Enillodd Bea Meitiner, myfyrwraig MSC Gwyddor Ceffylau, fedal aur yn ei chystadleuaeth farchogaeth ryngwladol gyntaf, Cwpan y Cenhedloedd i Fyfyrwyr am Farchogaeth, gafodd ei gynnal rhwng y 15ed a'r 18ed o Dachwedd yng Ngwlad Belg
Cornel compost
19 Rhagfyr 2007
Bydd gwastraff bwyd sydd wedi bod yn cael ei anfon i'w gladdu hyd yma, yn cael ei drin gan beiriant compost y Brifysgol o hyn allan.
Rhwydwaith WiFi
06 Rhagfyr 2007
Bydd staff a myfyrwyr sydd yn byw yn ardal yr Hen Goleg yn cael mynediad i rwydwaith WiFi newydd y Brifysgol yn y flwyddyn newydd, mewn cynllun ar y cyd gyda Cyngor Sir Ceredigion.
Cydnabod rheolaeth
07 Rhagfyr 2007
Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth yw'r ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu ar gyfer y cymhwyster Meistr mewn Busnes a Rheolaeth gan y Gymdeithas MBA, ac un o 20 yn unig ar draws y byd.
Cyfrifiaduron newydd i leihau'r defnydd o drydan
14 Rhagfyr 2007
Mae buddsoddiad sylweddol yn golygu fod myfyrwyr yn mwynhau cyfrifiaduron mwy pwerus sydd yn defnyddio llai o drydan.
Defnyddio llai o bapur
14 Rhagfyr 2007
Mae disgwyl gostyngiad o 20% yn y papur, hanner miliwn o ddalenni, sydd yn cael ei ddefnyddio gan y Brifysgol eleni yn dilyn gosod peiriannau argraffu cyhoeddus newydd.
Gafr yn lle cardiau
20 Rhagfyr 2007
Ychydig o gardiau oedd i'w gweld yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig gan i'r staff ddewis cyfrannu at Rhoddion Nadolig Amgen World Vision.
Ymgais record byd
03 Rhagfyr 2007
Mae Stuart Kershaw yn cyfuno busnes â phleser fel aelod o dîm La Mondiale sydd yn ceisio torri'r record byd am rwyfo ar draws môr yr Iwerydd.