Aur i fyfyriwr Ceffylau
Bea Meitiner
07 Rhagfyr 2007
Aur i fyfyriwr Ceffylau
Enillodd Bea Meitiner, myfyrwraig MSC Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth, fedal aur yn ei chystadleuaeth farchogaeth ryngwladol gyntaf, Cwpan y Cenhedloedd i Fyfyrwyr am Farchogaeth, gafodd ei gynnal rhwng y 15ed a'r 18ed o Dachwedd yng Ngwlad Belg. Roedd Bea'n cystadlu yn erbyn timoedd o’r Almaen, UDA, Canada, Sbaen, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Sweden, Norwy, Yr Eidal, Iwerddon ac Awstria.
Cafodd Bea ei dewis i dîm BUSA (British Universities Sports Association) Prydain haf llynedd ac ymunodd dau aelod o dim myfyrwyr Prydain â hi yng Ngwlad Belg, Holly Anderson o Nottingham a Hanna Patchitt o Leeds. Gwnaeth y marchogion o Brydain yn wych a llwyddont i sicrhau’r fedal aur i dimoedd, yn ogystal â medal arian yn y neidio dros y clwydi a 4ydd yn y dressage. Yn unigol daeth Bea yn 7ed yn y neidio a 9ed am y cystadlaethau i gyd.
Mewn cystadlaethau rhyngwladol i fyfyrwyr mae disgwyl i farchogion farchogaeth prawf dressage a neidio cwrs clwydi ar geffyl nad ydynt yn ei adnabod ac ar ôl cyfnod byr o gynhesu. Mae pob ceffyl yn cael ei farchogaeth gan dri marchog gyda’r marchog gorau yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf. Mae uchafswm o 4 rownd i bob disgyblaeth.
Mae Bea yn ddiolchgar iawn i Celtic Equestrian am ei nawdd a’i cefnogaeth. “Rwyf yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth yr wyf wedi ei dderbyn gan noddwyr a staff, ac yn arbennig i Dr Carol Green, sydd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i mi yn ystod fy amser yma yn y Brifysgol, gan fy ngwthio a nghymell i wella drwy’r amser.”
Ar hyn o bryd mae Bea yn astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedi cwblhau Diploma Genedlaethol Uwch a BSc mewn Astudiaethau Ceffylau yma. Yn yr un modd â’r myfyrwyr eraill mae Bea wedi manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau gwych i geffylau sydd gan y Brifysgol er mwyn datblygu ei sgiliau a chyrraedd safon cystadleuaeth.
Rhagor o Wybodaeth:
Arthur Dafis, Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth,
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk