Cydnabod rheolaeth
Mr Nick Perdikis, Cyfarwyddwr Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth yn derbyn Achrediad MBM gan Syr Paul Judge, Llywydd AMBA. Hefyd yn y llun y mae Nerys Fuller-Love (chwith eithaf) a Dr Teerooven Soobaroyen (Dde eitha) o Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth
07 Rhagfyr 2007
Cydnabyddiaeth fyd-eang i'r Ysgol Rheolaeth a Busnes
Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth yw'r ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu ar gyfer y cymhwyster MBM (Masters in Business and Management) gan y Gymdeithas MBA (AMBA) ac un o 20 ysgol fusnes yn unig ar draws y byd.
Cafodd yr achrediad newydd MBM, sydd wedi ei ddyfarnu i ddwy raglen radd Meistr MSc. (Econ) Rheolaeth a MSc. (Econ) Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, eu cyflwyno i gyfarwyddwr newydd Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth, Mr Nick Perdikis, mewn cinio fawr i ddathlu 40ed pen-blwydd y Gymdeithas MBA yn Llundain ar yr 8ed o Dachwedd.
Dywedodd Mr Perdikis:
“Mae’r datblygiad hwn yn gydnabyddiaeth o safon a gwerth ein cymwysterau yma yn Aberystwyth, o safbwynt bod yn fwy cystadleuol yn y farchnad gyflogaeth fyd-eang ac o safbwynt ein sefyllfa ni mewn perthynas â’n cystadleuwyr. Mae Aberystwyth yn ysgol fusnes ryngwladol yng ngwir ystyr y gair. Mae’r achrediad hwn yn ychwanegu at ein ystod o raglenni graddau Meistr sydd yn cynnwys y rhaglen MBA, y gyntaf yng Nghymru i’w hachredu gan AMBA yn 1999.
“Mae ein rhaglenni eraill o safon yn cynnwys yr MSc. (Econ) Rheolaeth a Marchnata a’r MSc. (Econ) Rheolaeth a Chyllid, dwy sydd yn cael eu cefnogi gan ganolfannau ymchwil gweithgar yn yr Ysgol, a’r MSc. (Econ) Cyfrifeg a Chyllid a’r MSc. (Econ) Cyllid Rhyngwladol sydd yn cael eu cydnabod gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Economic and Social Research Council (ESRC)) fel “rhaglenni Gradd Meistr uwch” sydd yn cynnig llwybrau ymchwil ac arbenigol."
Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Mae hwn yn newyddion da iawn i bawb. Mae achredydiad y rhaglen yn ein gosod ymysg yr ysgolion busnes gorau sydd yn cynnig cymwysterau sydd yn cael eu cydnabod gan y byd academaidd, cyrff proffesiynol a chyflogwyr ar draws y byd.”
Ychwanegodd; “Mae penodiad Mr Perdikis yn Gyfarwyddwr yr Ysgol Reolaeth a Busnes yn sicr o gefnogi’r datblygiad hwn a rhai eraill i’r dyfodol."
Cyfarwyddwr Newydd
Dechreuodd Mr Nicholas Perdikis BSc (Econ), MSc (Econ) ei waith fel Cyfarwyddwr Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth ar y 1af o Dachwedd 2007, yn dilyn cyfnod o 18 mis fel Cyfarwyddwr dros dro’r Ysgol.
Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd mae Mr Perdikis yn arbenigwr mewn Economeg Rhyngwladol a Busnes. Mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar yr effaith y mae polisïau a rheoliadau yn ei gael ar y fasnach rhyngwladol, busnes ac allforio; dylanwad rhwystrau masnach ar fasnach rhyngwladol; buddsoddi uniongyrchol o dramor a chwmnïau rhyngwladol a’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar weithgareddau allforio ymysg cwmnïoedd bach a chanolig.
Yn fwy diweddar mae wedi gweithio ar faterion sydd yn ymwneud â masnach, buddsoddi rhyngwladol ac eiddo deallusol, a materion sydd yn ymwneud â chonsiwmeriaeth a chynnyrch sydd wedi ei haddasu’n enetig a cynnyrch biotechnoleg.
Yn gynharach eleni (2007) cafodd Mr Perdikis ei benodi i Grwp Strategol Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru gan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ogystal mae’n Ymchwilydd Cysylltiol mewn dau sefydliad ymchwil yn Canada, Canolfan Cyfraith Rhyngwladol ac Economeg mewn Masnach Rhyngwladol Estey , Saskatchewan, Saskatoon, a Sefydliad Ymchwil Rhagoriaeth yn y Pasiffig, Prifysgol Lethbridge, Alberta.