Rhwydwaith WiFi
(Chwith i'r Dde) Hefin James o Adran Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth yn dal un o'r trosglwyddyddion WiFi a'r Cynghorydd Carl Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd yn gyfrifol am faterion trawsbynciol.
06 Rhagfyr 2007
Rhwydwaith WiFi ar gyfer canol tref Aberystwyth
Bydd staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a staff Cyngor Sir Ceredigion sy'n byw yng nghanol tref Aberystwyth yn medru cysylltu â'r we am ddim drwy gyfrwng rhwydwaith di-wifr cyflym yn y dyfodol agos.
Bydd staff technegol Adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol yn dechrau ar y gwaith o osod y rhwydwaith WiFi yn ei le yn y flwyddyn newydd ac yn anelu i gwblhau’r gwaith erbyn canol mis Mawrth 2008.
Yn ôl Mr Roger Matthews, Dirprwy Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect, sydd yn cael ei wneud mewn cydweithrediad gyda Cyngor Sir Ceredigion, o fudd i bawb sydd yn ymwneud ag ef.
“Bydd staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru cael mynediad i wasanaethau technoleg gwybodaeth y Brifysgol fel petai nhw’n byw mewn neuadd breswyl. Bydd y cynllun sylweddol hwn yn gwasanaethu defnyddwyr sydd yn byw mewn ardal fawr o amgylch yr Hen Goleg ac yn eu galluogi i ddefnyddio’r rhwydwaith yn ddiogel ac yn gyflym iawn os yw eu cyfrifiaduron yn addas i dderbyn WiFi.”
“Mi fydd yn bosibl i aelodau o staff Cyngor Sir Ceredigion ddefnyddio’r rhwydwaith a chael mynediad i’w gwefan nhw”, ychwanegodd.
Dywedodd y Cyng Keith Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion “ Mae hon yn fenter gyffrous gan ei bod yn dod â nifer o sefydliadau at eu gilydd mewn partneriaeth er mwyn darparu rhwydwaith hollbresennol a chyswllt gyda’r We yn Aberystwyth. Bydd gweithwyr Ceredigion yn medru cysylltu gyda sustemau technoleg gwybodaeth y Cyngor a’u diweddaru tra’n gweithio yn Aberystwyth, yn ogystal â derbyn y wybodaeth ddiweddaraf drwy fod mewn cysylltiad gyda’r rhwydwaith di-wifr hwn, a thrwy hynny sicrhau gwasanaeth gwell.”
Mae’r Brifysgol yn bwriadu ymestyn cyffiniau’r rhwydwaith WiFi fel ei bod yn cynnwys Aberystwyth gyfan yn y dyfodol.
Dylai staff a myfyrwyr sydd yn am gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd gysylltu gyda'r Ddesg Gymorth yn Hugh Owen.