Gafr yn lle cardiau
Gafr
20 Rhagfyr 2007
Anfon geifr yn lle cardiau
Ychydig o gardiau oedd i'w gweld yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth y Brifysgol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig gan i'r staff ddewis cyfrannu at Rhoddion Nadolig Amgen World Vision.
Roedd Sue Clarke, Gweinyddydd yr Adran yn un o’r trefnwyr.
“Roeddem yn gobeithio codi digon o arian i dalu am afr neu ddwy a cafwyd cryn dynnu coes am fychod yr Adran. Mewn gwirionedd rydym wedi llwyddo i brynu gyrr o eifr a mwy, gan gynnwys: pryd i 140 o blant fel rhan o ganolfan alw-mewn i blant sydd yn gweithio yn Cambodia; ysgoloriaeth i blentyn fel rhan o Rhaglen i Blant Amddifad ac Agored i Niwed yn Gana; a brechiadau ar gyfer 2 blentyn fel rhan o Gymllun Iechyd a Dwr yn Sierra Leone. Hyn oll ynghyd â’r geifr sydd yn rhan o Raglen Fenthyg Da Byw yn Zimbabwe.”
“Os yw unrhyw un yn dymuno gwybod mwy am y ffordd werth chweil hon o gynorthwyo pobl dlawd, ewch i wefan World Vision www.greatgifts.org. Daeth ein rhoddion ni o’r categoriau ‘Mwyaf ei hangen’, ‘Addysg’ a ‘Iechyd’”, ychwanegodd.